Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr a theuluoedd cleifion sy'n byw â dementia yn canmol staff yn Ysbyty Gwynedd mewn archwiliad diweddar

Mae Ysbyty Gwynedd sydd wedi cael ei gydnabod am ddarparu gofal rhagorol gan berthnasau ac anwyliaid cleifion sy’n byw â dementia.

Mae’r Archwiliad Cenedlaethol Dementia yn rhaglen archwiliad clinigol a gomisynwyd gan Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd ar ran GIG Lloegr a Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar ansawdd y gofal y mae unigolion sydd â dementia yn ei gael mewn ysbytai cyffredinol dosbarth.

Dros gyfnod o dri mis yn 2018, bu i 66 gofalwr yn Ysbyty Gwynedd gwblhau holiadur i ofalwyr. Gwelwyd bod Ysbyty Gwynedd yn y saith uchaf o ran cyfathrebu â gofalwyr,  ac yn y 11 uchaf allan o 197 o ysbytai cyffredinol dosbarth ar gyfer boddhad cyffredinol gofalwyr ar draws Cymru a Lloegr.

Pwysleisiwyd bod naw ward yn darparu cyfathrebu arbennig â'r rhai sy'n annwyl i gleifion sy'n byw â dementia.

Dywedodd Clare Wilding, Rheolwr Ward Gofal yr Henoed, Glaslyn: "Rydym yn falch iawn i gael ein cydnabod drwy'r archwiliad hwn, a gynhaliwyd dros dri mis, am yr holl waith gwych rydym wedi ei gyflawni yn Ysbyty Gwynedd.

"Mae'r adborth gan deuluoedd a gofalwyr yn adlewyrchu ein hymdrech i'w cynnwys yng ngofal y rhai sy'n annwyl iddynt, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn ddyddiol o ran y gofal rydym yn ei ddarparu.

"Mae hwn yn ddull Tîm Amlddisgyblaethol sy'n cynnwys meddygon, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd, ffisiotherapyddion a therapyddion iechyd galwedigaethol sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni gofal o'r safon uchaf."

Bu i'r wardiau llawfeddygol a meddygol dderbyn adborth cadarnhaol hefyd drwy'r archwiliad am y gofal y maent yn ei ddarparu.

Dywedodd Victoria Seddon, Rheolwr Ward ar gyfer Ward Tegid: "Ar ward Tegid mae ein tîm yn falch i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar ddementia ar gyfer ein cleifion, ac yn falch bod Ysbyty Gwynedd yn cael ei gydnabod am ei holl waith ar ddod yn safle sy'n deall dementia."

Dywedodd Rachel Hughes, Rheolwr Ward ar gyfer Ward Ogwen: "Ar ein ward Trawma ac Orthopaedig rydym wedi ein hysbrydoli i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal dementia gorau i'n cleifion.

"Bu i'n holl staff gymryd rhan yn eu hyfforddiant gofal dementia, ac mae bob un yn ffrind dementia.

"Rydym yn falch iawn o'r adborth rydym wedi ei gael ar gyfer Ward Ogwen, a byddwn yn parhau i ddarparu'r gofal gorau i'n cleifion sy'n byw â dementia."

Mae'r newyddion hwn yn dilyn y ffaith bod Ysbyty Gwynedd wedi cael ei gydnabod fel yr ysbyty llym cyntaf yng Nghymru i dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol o weithio i ddod yn sefydliad sy'n deall dementia. 

Hyd yn hyn, mae dros 500 o aelodau o staff yn awr yn 'Ffrindiau Dementia' yn yr ysbyty, ac mae ystod o weithgareddau a sesiynau hyfforddi yn parhau i gael eu cynnal i helpu staff ddeall mwy am ddementia, a sut mae'n effeithio ar gleifion a'u teuluoedd.