Neidio i'r prif gynnwy

Ffermwr o Bowys yn annog eraill i gael prawf sgrinio'r coluddyn ar ôl cael diagnosis o ganser

Mae ffermwr a gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn annog eraill i gael prawf syml a all helpu i achub bywydau. 

Cymerodd David Bebb, 74, ran yn y broses sgrinio'r coluddyn am y drydedd tro ym mis Ebrill 2019 a chafodd y newyddion bod canlyniadau ei brawf yn bositif y mis hwnnw. 

Yn dilyn colonosgopi, cafodd y ffermwr o Bowys ei gyfeirio at Mr Michael Thornton, Llawfeddyg Ymgynghorol Colorectol, yn Ysbyty Maelor Wrecsam ble gafodd y llawdriniaeth i gael gwared ar y tiwmor o'i goluddyn. 

"Roedd yn sioc pan gefais fy niagnosis o ganser y coluddyn, doedd gen i ddim symptom sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r afiechyd. 

"Rwy’n ffodus iawn, pe na bawn i wedi cael y prawf, efallai na fyddwn yn gwybod o hyd bod gen i ganser a gallwn fod wedi bod mewn sefyllfa waeth o lawer. 

“Rydw i nawr yn cael cemotherapi yn dilyn fy llawdriniaeth ac rwy’n lwcus nad yw’r canser wedi lledu i fy nodau lymff felly mae fy nhriniaeth yn tynnu at ei therfyn bellach.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Tîm yn Ysbyty Maelor. Cefais fy ngweld mor sydyn a chefais lawdriniaeth o fewn 10 diwrnod ar ôl fy ngholonosgopi," ychwanegodd Mr Bebb.

Mae Mr Bebb yn cefnogi'r galw gan ei lawfeddyg ynghyd ag Ymarferydd Nyrsio Colorectol, Yvonne Whittaker, a Nyrs Anne Thomas yn Ysbyty Dolgellau, am godi ymwybyddiaeth o broses sgrinio'r coluddyn ymysg y gymuned ffermio. 

Dywedodd Mr Thornton:  "Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gweld cynnydd yn nifer y ffermwyr sydd â chanser datblygedig y coluddyn.

"Mae'n bwysig iawn bod y rhai sy'n gymwys yn cymryd rhan yn y broses sgrinio, gall helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, pan mae'n haws ei drin.

"Mae'r broses sgrinio'n caniatáu i ni ddod o hyd i ganser yn gynnar ac yn ein helpu ni i chwilio a chael gwared o dyfiannau bach yn y coluddyn o'r enw polypau, sy'n gallu troi’n ganser dros amser."

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd dynion a menywod rhwng 60 a 74 oed, ac sy'n byw yng Nghymru, i gael prawf sgrinio coluddyn syml bob dwy flynedd. Gallant ei wneud gartref a chael y canlyniadau o fewn pythefnos.

Dywedodd Mr Bebb, sydd hefyd yn cynnig cefnogaeth i ffermwyr drwy elusen Rhwydwaith Cymuned Ffermio:  "Rwy'n gwybod bod gen i nifer o ffrindiau sy'n ffermwyr sydd heb gael y prawf, ac rwy'n adnabod rhai sydd wedi ei daflu i ffwrdd.

"Nawr, rwy'n gwneud yn siŵr mod i'n dweud wrth bawb bod rhaid iddyn nhw gymryd y prawf - dyma achubodd fy mywyd.

“Rwy’n deall y gall ffermwyr boeni am yr hyn a fyddai’n digwydd i’w bywoliaeth pe byddent yn cael y newyddion bod ganddynt ganser ond mae mor bwysig cael y prawf ac os yw’n newyddion drwg yna mae gan y tîm meddygol well siawns o’i wella os ydyw’n cael ei ddal yn gynnar.”

Mae Yvonne, sydd hefyd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac sy'n asesu cleifion yn dilyn eu llawdriniaeth canser y coluddyn, wedi canmol Mr Bebb am siarad am ei ddiagnosis.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod Mr Bebb yn ddewr iawn am siarad yn gyhoeddus am ei ddiagnosis yn y gobaith y bydd yn annog mwy o ffermwyr, ac eraill, i gymryd rhan yn y broses sgrinio. 

“Mae’n llygad ei le pan mae'n dweud os yw’r canser yn cael ei ddal yn gynnar mae yna lawer mwy o siawns y gellir ei wella gyda thriniaeth llai ymwthiol.

"Rydym yn gobeithio parhau i godi ymwybyddiaeth drwy weithio gydag Anne yn Ysbyty Dolgellau drwy ddarparu gwybodaeth i'r rheiny yn y gymuned cefn gwlad am broses sgrinio'r coluddyn fel bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ar gael." 

Fel rhan o rôl Anne yn Ysbyty Dolgellau, mae hi hefyd yn mynd allan i'r gymuned i gefnogi iechyd a lles ffermwyr. 

Dywedodd: "Rydym yn mynd i farchnadoedd a ffeiriau ffermwyr i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer lles meddyliol ac yn fwy diweddar, rydym wedi defnyddio'r cyfle i godi ymwybyddiaeth o raglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru. 

"Rydym yn darparu taflenni sy'n egluro'r manteision ac yn dangos pa mor hawdd yw cael prawf.

"Rydym wedi cael ymateb ofnadwy o gadarnhaol, yn enwedig am eu bod yn gallu ffonio'r llinell gymorth i ofyn am becyn prawf arall os ydyn nhw wedi taflu'r un gwreiddiol. 

“Gobeithiwn, trwy godi ymwybyddiaeth o fanteision sgrinio’r coluddyn a gweithredu’n gynnar ar symptomau y bydd nifer y ffermwyr sydd â chanser datblygedig y coluddyn yn lleihau.”

Am fwy o wybodaeth am Sgrinio'r Coluddyn ewch i www.bowelscreening.wales.nhs.uk