Neidio i'r prif gynnwy

Dynes derfynol wael yn diolch i bawb a'i helpodd i dicio reid mewn tryc Americanaidd oddi ar ei rhestr

30/07/2021

Mae claf wrth ei bodd o allu ticio ei breuddwyd o reidio mewn tryc mawr coch Americanaidd oddi ar y rhestr o bethau yr hoffai eu cyflawni.

Cafodd Edna Pomeroy, 58 o Gyffordd Llandudno yng Nghonwy, ddiagnosis o ganser yr ofari yn 2014, ac mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru, yn Ysbyty Glan Clwyd.

Meddai Edna: “Cefais amser bendigedig ddydd Sadwrn, mae’n rhywbeth rydw i wastad wedi bod isho ei wneud. Rwyf wedi fy nghyfareddu gyda thryciau mawr Americanaidd ers amser hir, ac rydw i wastad wedi bod isho gyrru un, ond roeddwn i’n gwybod na fyddwn i’n gallu gwneud hynny, felly roeddwn i’n hapus i gael reid mewn un.”

Apeliodd gŵr a mab Edna i’r gymuned trycio ar Facebook, a bu staff o’r cwmni Clive Shaw Trucking, sy’n berchen ar y tryciau Americanaidd y mae Edna yn eu caru, yn hael iawn yn rhoi eu penwythnos i yrru o Swydd Lincoln i Gonwy er mwyn i Edna gael ticio ei breuddwyd oddi ar ei rhestr.

Dewisodd Edna deithio yn y tryc o’i chartref i Glan Clwyd i ymweld â’r ganolfan ganser lle mae wedi bod yn derbyn gofal ac y mae hefyd yn codi arian ar ei gyfer.

Ychwanegodd: “Daethant yr holl ffordd o Swydd Lincoln, roedden nhw mor hyfryd. Daeth pawb allan i’r stryd i godi llaw arnon ni, ac roedd fy ŵyr yn crio roedd o mor hapus ei fod o hefyd wedi cael dod ynddo gyda mi ar y ffordd adref.

“Roeddwn i am fynd yn y tryc i’r ysbyty gan fod y staff wedi gofalu amdanaf am dros chwe blynedd, felly maen nhw’n golygu llawer i mi. Rwy’n gobeithio hefyd y gallwn godi arian ar gyfer y ganolfan, i droi rhywbeth negyddol yn rhywbeth positif. Mae’r ganolfan ganser angen ychydig o TLC ac rydw i eisiau i eraill sy’n cael eu trin yno i gael hynny.”

Mae Edna a’i theulu wedi codi dros £1,900 i’r ganolfan hyd yma, i ddod i wybod mwy neu i wneud rhodd ewch i - https://www.justgiving.com/crowdfunding/james-williams-354?utm_term=pW3Kq5nqd.

Mae Edna yn cynllunio mynd i hwylio gyda ffrind nesaf, a mwynhau mynd yng nghar Bentley newydd ei brawd yng nghyfraith.

Meddai Sharon Manning, nyrs glinigol Macmillan yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru: “Mae wedi bod yn fraint nyrsio Edna trwy ei siwrnai canser a chefnogi Steve am y chwe blynedd a hanner diwethaf. Mae dewrder, urddas a gwytnwch Edna bob amser yn disgleirio.

“Mae canser yr ofari yn parhau i fod yn ganser anodd ei ddal i feddygon a Meddygon Teulu. Mae symptomau canser yr ofari yn annelwig ac amrywiol. Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari fel y gall merched adnabod y symptomau yn gynt a stopio’r canser rhag cael diagnosis yng ngham 3c neu 4.”

Gall cleifion gyda chanser yr ofari gael y symptomau canlynol:

  • Cynnydd ym maint y bol
  • Ymchwydd
  • Poen yn yr abdomen, cefn neu belfis
  • Angen pasio dŵr yn amlach neu newidiadau i’r coluddyn neu boen yn y coluddyn
  • Blinder
  • Teimlo’n llawn ar ôl bwyta ychydig

Mae cam ddiagnosis cyffredin yn cynnwys:

  • Llid y coluddyn
  • Rhwymedd neu haint wrin
  • Llid ar y Stumog
  • Straen, iselder

Am fwy o wybodaeth am ganser yr ofari ewch i wefan Cefnogaeth Ganser Macmillan