Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod ym mywyd un o Feddygon Teulu yng Ngogledd Cymru sydd dan y lach

01.11.2021

Mae Meddyg Teulu yng Ngogledd Cymru yn poeni bod beirniadaeth barhaus y cyhoedd, ynghyd â’r llwyth gwaith blinedig yn cael effaith sy’n achosi digalondid enfawr ar staff y GIG, wrth iddynt baratoi at eu gaeaf prysuraf erioed.

Mae Dr Nicky Davies, Partner Meddyg Teulu ym Meddygfa Beech House yn Ninbych a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Gofal Cychwynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi apelio i'r cyhoedd fod yn amyneddgar a cheisio deall dros fisoedd y gaeaf, wrth i staff gofal cychwynnol ar draws y rhanbarth fynd i'r afael â'r galw na welwyd mo'i debyg o'r blaen.

Mae ei hapêl yn dod ynghanol beirniadaeth nad yw Meddygon Teulu yn gwneud digon i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i gleifion a'r honiadau ffug bod meddygfeydd wedi bod ar gau yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae wedi pwysleisio, er bod Meddygaeth Teulu wedi gorfod newid dros nos ar ddechrau'r pandemig er mwyn cynnal diogelwch, mae staff gofal cychwynnol wedi bod yn gweithio a chefnogi cleifion drwy gydol yr amser. 

Mae Dr Davies wedi rhannu manylion am ddiwrnod nodweddiadol yn ei bywyd fel Meddyg Teulu, i dynnu sylw at y pwysau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau gofal cychwynnol a'r effaith y mae beirniadaeth barhaus y cyhoedd yn ei gael ar staff rheng flaen. 

Eglurodd, "Mae fy niwrnod fel Meddyg Teulu yn dechrau am 8am ac yn gorffen am 6:30pm ar y cynharaf, fodd bynnag rwy'n ymwybodol o gydweithwyr sy'n aros i fyny tan 9-10pm i gwblhau'r dydd."

"Yn ystod y dydd bydd gen i apwyntiadau gydag o leiaf 30 claf, drwy gymysgedd o ymgynghoriadau ffôn, fideo ac wyneb yn wyneb, pa bynnag un sy'n briodol.  Bydd tua 20-30 o ymholiadau ffôn neu weinyddol ychwanegol gan gleifion hefyd.  Rwy'n ymwybodol bod rhai o fy nghydweithwyr sy'n Feddygon Teulu yn ymdrin â dros 80+ o gysylltiadau cleifion bob dydd, er bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu rhwng 25 a 35 ymgynghoriad. 

"Byddaf hefyd yn gwneud ymweliadau cartref rhwng meddygfeydd y bore a’r prynhawn ac adolygu a gweithredu dwsinau o ganlyniadau patholeg bob dydd.  Rydym hefyd yn adolygu ac yn gweithredu ceisiadau am bresgripsiynau lluosog ac yn cwblhau adolygiadau meddyginiaeth.  Rydym hefyd yn gweithio'n galed i gefnogi ein cydweithwyr sy’n feddygon ymgynghorol yn yr ysbyty pan fydd gan gleifion gwestiynau am ofal ysbyty, apwyntiadau a rhestrau aros. 

"Ar ben hyn mae gwaith papur ychwanegol fel llythyrau cefnogi i gleifion, yswiriant ac adroddiadau meddygol, sydd i gyd angen cael eu cynnwys yn y diwrnod cyffredinol.

"Nid oes gen i amser i fynd i'r tŷ bach rhai diwrnodau, heb sôn am gael egwyl ginio!  Rwyf wedi bod yn Feddyg Teulu ers 2003 a dyma'r gwaethaf yr wyf i wedi'i weld erioed.  Mae'n ddiwrnod di-baid a blinedig iawn.

"Mae'r galw am ofal wedi codi o leiaf 25 y cant o gymharu â’r lefelau cyn y pandemig ac rydym yn ymdrin â'r un heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen â Meddygon Teulu ar draws y wlad.  Mae'r rhain yn cynnwys yr angen parhaus am gadw pellter cymdeithasol i gadw staff a chleifion yn ddiogel mewn Meddygfeydd sy'n aml yn fach ac anaddas i'r angen hwn; salwch Covid ac ynysu ymysg staff a theuluoedd; recriwtio a chadw staff yn gyffredinol; lleihau nifer y Meddygon Teulu; anawsterau gydag amseroedd aros hir mewn gofal eilaidd sy'n effeithio ar ofal cychwynnol; darparu ymgyrchoedd brechu parhaus; ymdrin ag ôl-groniadau Covid; a diffyg poteli gwaed a fflebotomi.

"Er gwaetha’r heriau hyn rydym yn parhau  i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb pan fyddant yn cael eu dynodi.  Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o gleifion yn meddwl fod apwyntiadau ffôn a fideo yn gyfleus iawn gan nad ydynt yn gorfod cymryd amser o'u gwaith i ddod i mewn ac eistedd mewn ystafelloedd aros.

"Rydym hyd yn oed wedi cynnal ymgynghoriad â chlaf a oedd yn reidio ei geffyl, felly mae cyfleustra yn bwysig iawn!"

Mae Dr Davies wedi apelio i bobl fod yn amyneddgar a cheisio deall wrth i staff y GIG wynebu'r hyn a ddisgwylir fel y gaeaf prysuraf erioed sydd wedi'i gofnodi.

Dywedodd, "Mae'r morâl yn isel iawn oherwydd y feirniadaeth ddi-sail a thorcalonnus hwn pan rydym yn gweithio’n galed iawn i wneud y gorau i'n cleifion."

"Mae hyn yn arwain at rai Meddygon Teulu yn gadael y proffesiwn sydd ond yn gwaethygu'r broblem.  Rwy'n teimlo dros fy nghydweithwyr yn y GIG sy'n gweithio mor galed, ac eisiau diolch iddynt.

"Byddwch yn amyneddgar gyda ni. Rydym yn sylweddoli y gall fod yn rhwystredig pan fyddwch yn cael trafferth cael trwodd i’r Meddygfeydd dros y ffôn, ond cofiwch fod y llinellau ffôn yn cael eu defnyddio gan ein cleifion eraill, gan ein timau ar gyfer ymgynghoriadau ffôn neu i’ch ffonio chi i ddod i mewn am frechlyn neu i drafod canlyniadau.  Byddwch yn ymwybodol  bod gennym ddulliau digidol eraill i gysylltu â ni ac mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan y Feddygfa a'r GIG.

"Rydym yn gweithio'n galed iawn  i wneud y gorau i'n cleifion dan amgylchiadau heriol iawn.  Mae'n fraint bod yn Feddyg Teulu ac yn rhan o'n cymuned a'i helpu.  Ond mae arnom angen cymorth a dealltwriaeth y cyhoedd, nid beirniadaeth ddi-sail."

Am fynediad at gyngor iechyd am ddim, 24 awr y dydd, yn cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

Am fwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol ewch i wefan BIPBC.