Neidio i'r prif gynnwy

Dietegwyr a Bydwragedd Wrecsam yn dod at ei gilydd i rannu cyngor ar fwyta'n iach

Gall merched beichiog gael mynediad at gyngor am ddim ar fwyta'n iach fel rhan o fenter GIG newydd.

Mae Bwyta'n Ddoeth mewn Beichiogrwydd yn rhaglen newydd gyffrous sydd ar gael i bob dynes feichiog yn Wrecsam.

Wedi ei datblygu gan Ddietegwyr Iechyd Cyhoeddus a Bydwragedd, ei nod yw cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol i helpu merched fwyta'n iach a bod yn actif yn ystod beichiogrwydd.

Nod y rhaglen treial 12 mis yw helpu merched beichiog fagu pwysau beichiogrwydd iach.

Dywedodd Andrea Basu, Arweinydd Gwasanaeth dros Ddieteteg Iechyd Cyhoeddus: "Mae beichiogrwydd yn amser ble mae merched yn awyddus i gael cyngor am fwyta'n iach a darganfod mwy am sut gall maeth da eu cefnogi nhw a'u babi sy'n tyfu.

Ein nod yw cefnogi a rhoi grym i ferched i wneud dewisiadau gwybodus am eu harferion bwyta ac arferion gweithgarwch.

"Mae cynnig cefnogaeth ar yr adeg pwysig hon yn werthfawr iawn ar gyfer gosod sail cryf i iechyd a lles teuluoedd yn y dyfodol.  

"Rydym yn edrych ymlaen at gynnig y rhaglen hon i ferched yn Wrecsam ac rydym yn gobeithio os bydd yn llwyddiannus y gallwn ei gyflwyno ar draws y bwrdd iechyd."

"Mae Bwyta'n Ddoeth mewn Beichiogrwydd yn cynnwys chwe sesiwn ar wahân, gan gynnwys pynciau megis cynllunio pryd o fwyd, awgrymiadau ar gyfer cadw'n actif a faint o bwysau sy'n ddiogel i'w fagu yn ystod beichiogrwydd.  

Mae'r sesiwn gyntaf yn dechrau ddydd Llun 21 Hydref yng Nghanolfan Cymuned Llai am 9.30am. Bydd sesiynau amser cinio hefyd yn cael eu cynnal ddydd Gwener 8 Tachwedd yn DW Fitness ar Barc Manwerthu Plas Coch o 12.30pm, a bydd sesiynau gyda'r nos  yn yr ystafell gymuned yn Tesco Extra ar ddydd Llun, am 5.30pm o 21 Hydref.

Dywedodd Karen Roberts, metron cleifion mewnol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, “Drwy weithio gyda dietegwyr, rydym yn gobeithio helpu merched gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol am faeth.

"Wrth i chi gynllunio ar gyfer y newidiadau yn eich bywyd ar ôl cael babi, mae meddwl am sut gall gwneud newidiadau cadarnhaol i'ch arferion bwyta fod o fudd cadarnhaol i famau a'u teuluoedd."

Gall merched gael mwy o wybodaeth drwy ofyn i'w bydwraig neu gysylltu â Sarah Powell-Jones, Hwylusydd Bwyta'n Ddoeth mewn Beichiogrwydd ar 07966 516 743.