Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau lu wrth i ward newydd agor yn Ysbyty Bryn Beryl

Dathliadau lu wrth i ward newydd agor yn Ysbyty Bryn Beryl

Mae ward newydd sydd wedi gwella'r amgylchedd i gleifion a staff wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Bryn Beryl.

Dechreuodd y prosiect gwerth £675,000 yn yr ysbyty ym Mhwllheli ym mis Awst 2018, a oedd yn cynnwys uwchraddio Ward Dwyfor ac Uned Hafan, gan greu un ward, a elwir yn awr yn Llynfor.

Agorwyd y ward yn swyddogol gan Mr Ron Evans, aelod o Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, sydd wedi rhoi swm anhygoel o £30,000 i greu coridor newydd i gysylltu’r ward newydd â'r adran pelydr-x.

Dywedodd Rhona Jones, Metron Ysbyty Bryn Beryl: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl staff sy'n gweithio yn Ysbyty Bryn Beryl am eu cydweithrediad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tra bod y gwaith wedi bod yn mynd rhagddo.

"Rydym yn falch bod gennym gyfleuster llawer mwy modern ar gyfer ein staff a'n cleifion ac roedd yn fraint croesawu aelodau o'r gymuned i'r ysbyty i ddathlu agoriad Llynfor.

"Hoffwn ddiolch i Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl a'r gymuned leol am eu haelioni a'u cefnogaeth barhaus."

Cynhaliwyd seremoni agoriadol arbennig i agor y ward newydd yn swyddogol, ble roedd cynrychiolwyr o Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl ac aelodau'r gymuned yn bresennol.

Dathlodd staff De Mawr y GIG ar gyfer Awyr Las, ein helusen GIG Gogledd Cymru, drwy gynnal te parti a stondin gwerthu cacennau i godi arian tuag at yr ysbyty.

Derbyniwyd hefyd ddwy rodd caredig gan Harlech Frozen Foods, a roddodd siec o £500 a hefyd Hawys Bryn Williams a gododd £900 tuag at yr ysbyty ar ôl cwblhau'r Her 14 Copa.

Dywedodd Chris Lynes, Cyfarwyddwr Nyrsio Ardal y Gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn falch iawn bod y prosiect hwn yn awr wedi'i gwblhau ac i weld ein cleifion a'n staff yn elwa o'r ward newydd.

"Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu adeilad parhaol, addas i bwrpas ar gyfer Canolfan Integredig Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion fel rhan o'r gwaith adnewyddu parhaus ar safle Bryn Beryl."