Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar ôl cwest Rizal 'Zaldy' Manalo

Yn dilyn darganfyddiad o farwolaeth trwy achosion naturiol gan grwner Gogledd Cymru (Y Dwyrain a’r Canol) John Gittins, yn ystod cwest i farwolaeth y nyrs Rizal ‘Zaldy' Manalo, hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ryddhau’r datganiad canlynol:

Fel bwrdd iechyd rydym yn gobeithio y bydd cwest heddiw wedi rhoi clo i deulu, cydweithwyr a llu o ffrindiau Rizal "Zaldy” Manalo ar ôl ei farwolaeth drasig a chyn ei amser.

Mae’r teyrngedau sydd eisoes wedi’u rhoi i Zaldy yn dyst i’w ymroddiad tuag at helpu pobl eraill a’i bersonoliaeth bositif.

Roedd yn nyrs gwerthfawr a dibynadwy ac yn rhan gyfannol o’n tîm ar Ward 5 yn Ysbyty Glan Clwyd, a ddaeth yma o’r Ffilipinau gyda’i gydwladwyr i ofalu am ein cleifion yn 2001.

Rydym yn dymuno heddwch a hapusrwydd i’w wraig Agnes a’u plant, Nicole a Dylan wrth iddynt barhau â’u bywydau hebddo.

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn drist, ni chefais y pleser o gyfarfod Zaldy.

“Fodd bynnag mae’r negeseuon o gydymdeimlad a’r teyrngedau a dalwyd iddo’n dangos i mi ei fod yn nyrs arbennig, a mawr oedd parch a chariad ei gydweithwyr tuag ato.

“Rwy’n parchu’r geiriau hynny ac yn diolch o waelod calon ar ran y bwrdd iechyd am ei flynyddoedd o wasanaeth i bobl Gogledd Cymru.”