Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

29/01/20
Prydau bwyd iach am bris gostyngol yn cael eu gweini i staff Ysbyty Glan Clwyd

Mae dietegwyr a staff arlwyo yn rhannu prydau bwyd sy'n hawdd eu gwneud, yn iach ac yn fforddiadwy gyda staff Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r cydweithwyr coginio yn cydweithio i helpu staff y GIG i gasglu arferion bwyta iach drwy'r fenter Bwyd Iach, Staff Iach.

29/01/20
Rhaglen ddogfen nyrsio yn rhoi cip olwg ar fywyd Nyrs Gofal Dwys

Mae dwy nyrs sy'n gofalu am gleifion difrifol wael Ysbyty Gwynedd yn ymddangos ar raglen ddogfen newydd.

28/01/20
Tad a roddodd ei aren er mwyn achub bywyd ei ferch yn galw ar fwy o bobl i drafod rhoi organau

Mae tad a roddodd ei aren er mwyn achub bywyd ei ferch ifanc yn annog yr holl deuluoedd i siarad am roi organau.

28/01/20
Annog pobl sy'n byw â chyflyrau resbiradol i aros yn iach dros y Gaeaf.

Mae uwch nyrs yng Ngogledd Cymru yn annog pobl sydd â pherygl o anawsterau anadlu i gymryd gofal ac aros yn iach dros y misoedd nesaf. Anogodd Dr Angela Roberts, Nyrs Arweiniol Gofal Cychwynnol (Ardal y Canol) i bobl sy'n byw â chyflyrau resbiradol megis COPD neu asthma ddilyn cyngor meddygol i leihau'r risg o fod yn sâl dros y gaeaf.

21/01/20
Arbenigwyr y Galon yn gofyn i'r cyhoedd ymuno â helfa drysor diffibrilwyr yng Ngogledd Cymru

Mae arbenigwyr y Galon yn gwahodd plant ysgol Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn helfa drysor all achub bywyd. Mae Julie Starling, nyrs Arrhythmia a Tomos Hughes, swyddog cefnogi Diffibrilwyr Cymuned Mynediad Cyhoeddus Gogledd Cymru eisiau i wylwyr roi gwybod os ydynt yn gweld diffibrilwyr cyhoeddus heb sticer wyrdd nodedig arno.

20/01/20
Wythnos Atal Canser Serfigol: Llawfeddyg Gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd yn annog merched i gael prawf sgrinio serfigol

I nodi Wythnos Atal Canser Serfigol, mae'r Oncolegydd Ymgynghorol Gynaecoleg, Richard Peevor yn annog merched i sicrhau bod eu profion ceg y groth yn gyfredol.

14/01/20
Cwpwl yn diolch i dîm Cardiaidd Wrecsam a Sir y Fflint a helpodd nhw i ddechrau ar eu ffordd o fyw iach a arweiniodd atynt i golli 10 stôn rhyngddynt

Mae cwpwl o Sir y Fflint wedi diolch i staff y GIG ar ôl iddynt golli bron i 10 stôn rhyngddynt gyda help Gwasanaeth Cardiaidd Wrecsam a Sir y Fflint.

13/01/20
Rhaglen ddogfen newydd yn dangos yr heriau a'r gwobrau o fod yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd

Mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn sêr ar raglen ddogfen newydd sy'n dilyn eu bywydau ar y wardiau. 

09/01/20
Norofirws – lledaenwch y gair, nid y firws!

Gofynnir i bobl beidio ag ymweld ag ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill ar draws Gogledd Cymru os ydynt wedi cael unrhyw un o symptomau'r norofirws yn ddiweddar.

09/01/20
Gwahoddiad i ymuno â Chôr Cyngerdd Awyr Las I CAN

Bydd y côr yn  defnyddio cerddoriaeth i godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo gwella iechyd emosiyol a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau salwch meddyliol a ffactorau all effeithio ar ein llesiant yn chwilio am aelodau newydd.

06/01/20
Deg Awgrym Da ar Sut i Guro Hwyliau Gwael Mis Ionawr

Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu deg awgrym da ar sut i guro hwyliau gwael Mis Ionawr.