Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

30/09/19
Plant ysgol a rhieni'n dod at ei gilydd yn y gegin i hyrwyddo bwyta'n iach

Mae plant ysgol a'u rhieni, neiniau a theidiau neu warchodwyr wedi dod at ei gilydd yn y gegin mewn cynllun peilot i fwyta'n iach.

27/09/19
Robin ymroddedig o Ysbyty Gwynedd yn ennill gwobr y Bwrdd Iechyd

Mae un o wirfoddolwyr ysbrydoledig y Robiniaid yn Ysbyty Gwynedd wedi'i enwi'n seren y Bwrdd Iechyd.

25/09/19
Gwobr newydd i Wasanaeth Cof Gwynedd a Môn am ei bod 'o'r radd flaenaf'

Mae pobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr wedi ymuno ag arbenigwyr iechyd i ganmol y cymorth cof 'o'r radd flaenaf' a ddarperir ledled Gogledd Orllewin Cymru.

20/09/19
Ystafell synhwyrau newydd a gwell cyfleusterau ystafell ymolchi ar gyfer Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd

Bydd cleifion ifanc sy'n ymweld â Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd yn awr yn elwa o ystafell synhwyrau newydd diolch i rodd hael gan Gafael Llaw, elusen leol.

17/09/19
Cyflwyno system newydd i gyflymu diagnosis canser yng Ngogledd Cymru

Mae system newydd i gyflymu diagnosis i bobl sydd ag amheuaeth o ganser wedi'i chyflwyno yng Ngogledd Cymru.
 

16/09/19
Prosiect i gefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty ar restr fer prif wobr

Mae tîm o Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn Ysbyty Alltwen ar restr fer prif wobr iechyd.

12/09/19
Staff Cymuned y GIG yn gwella monitro sepsis fel rhan o raglen wella Cymru gyfan

Mae offer newydd yn helpu gwaith nyrsio i ddynodi sepsis.

10/09/19
Artist o Fôn yn bywiogi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd

Mae delweddau bywiog o dirweddau cyfarwydd Gogledd Cymru bellach wedi bywiogi waliau Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, diolch i artist lleol.

10/09/19
Y Bwrdd Iechyd yn gwahodd trigolion yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn rhad ac am ddim

Mae hyfforddiant am ddim yn cael ei gynnig ar draws Gogledd Cymru er mwyn gwneud mwy i gynorthwyo'r rheiny sydd ag anawsterau iechyd meddwl.

06/09/19
Ymgyrch i leihau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol drwy annog pobl i ddefnyddio condomau

Mae ymgyrch iechyd rhyw wedi'i lansio i annog pobl i ddefnyddio condomau yn enwedig ymysg oedolion ifanc i leihau cyfraddau cynyddol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. 

04/09/19
Gwasanaeth gwell i atgoffa cleifion am apwyntiadau ysbyty

Mae gwell system atgoffa neges destun wedi'i chyflwyno i helpu cleifion i gofio eu manylion apwyntiad, a lleihau nifer yr apwyntiadau sy'n cael eu methu.

02/09/19
Wythnos Rhoi Organau 2019: Ella, sy'n 13 mlwydd oed ac sydd wedi cael trawsblaniad iau yn hybu ymwybyddiaeth rhoi organau

Mae merch 13 mlwydd oed sydd wedi cael trawsblaniad iau a achubodd ei bywyd yn ymgyrchu i bobl siarad am roi organau.