Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun dewis iaith i wella gofal cleifion

Cynllun dewis iaith i wella gofal cleifion

Bydd cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Holywell ac Ysbyty Llandudno sy'n medru'r Gymraeg yn elwa ar ehangu cynllun gwella ansawdd arloesol.

Caiff Cynllun Dewis Iaith y Bwrdd Iechyd, sy'n helpu staff a chleifion i adnabod siaradwyr Cymraeg yn hawdd, ei gyflwyno ar draws yr ysbytai ar 3 Mehefin.

Mae'r cynllun yn rhoi offer i helpu staff y GIG i adnabod cleifion ac ymwelwyr y byddai'n well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg.

Mae astudiaethau'n dangos bod cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf yn arwain at ddealltwriaeth a chanlyniadau gwell o ran y gofal a'r driniaeth maent yn eu derbyn.

Wrth gyrraedd gofal cleifion mewnol yn yr ysbytai, gofynnir i gleifion ym mha iaith y byddai'n well ganddynt gyfathrebu.

Cynllun dewis iaith i wella gofal cleifion

Yna caiff magnedau a sticeri oren eu defnyddio yn nodiadau’r cleifion ac ar fyrddau wrth erchwyn y gwely er mwyn helpu i adnabod pobl a fyddai'n well ganddynt siarad yn Gymraeg.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu gan Dîm y Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd er mwyn helpu staff i adnabod cleifion a fyddai'n well ganddynt dderbyn eu gwasanaethau a'u gofal yn Gymraeg.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu am y tro cyntaf ar Ward Glaslyn yn Ysbyty Gwynedd, sef ward Gofal yr Henoed sy'n gofalu'n rheolaidd am gleifion sydd â dementia, ac sydd â nam ar eu sgiliau cyfathrebu, yn aml.

Ar ôl cynllun peilot llwyddiannus, mae'r cynllun wedi'i gyflwyno ar wardiau eraill yn Ysbyty Gwynedd ac ar safleoedd ysbytai cymunedol ar draws Gogledd Cymru.

Gwnaeth y Cynllun Dewis Iaith dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol pan ddyfarnwyd y wobr uchaf iddo yng nghategori'r 'Cynnig Rhagweithiol' yn nigwyddiad arddangos "Mwy na Geiriau" Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2017.

Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau yn y Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, yw Mwy na Geiriau.  

Dywedodd Jan Garnett, Pennaeth Nyrsio Llawfeddygol yn Ysbyty Glan Clwyd: “Mae hon yn ffordd syml ac effeithiol iawn o wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu â chleifion sydd yn ein gofal.

“Gan ddibynnu ar y claf a pham maen nhw yma, gallan nhw weld nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol hyd yn oed yn ystod arhosiad byr yn yr ysbyty.

“Bydd yr anogaeth syml hon yn helpu unrhyw un sy'n ymweld ag erchwyn y gwely i weld y byddai'n well gan y claf i eraill siarad â nhw yn Gymraeg, a bydd hyn, gobeithio, yn gwella'r ffordd maen nhw'n deall y gofal a'r driniaeth maen nhw'n eu cael.

Caiff magnedau oren llai o faint eu gosod ar fyrddau gwyn y staff, er mwyn galluogi cleifion i adnabod gweithwyr sy'n medru'r Gymraeg.

Dywedodd Jan: “Rydym ni'n dechrau gyda swigod siarad magnetig wrth erchwyn y gwely, a byrddau staffio, a bydd hyn yn caniatáu i ni baru staff sy'n hyderus wrth siarad Cymraeg â chleifion a hefyd i ddatblygu ein darpariaeth ddwyieithog ymhellach yn y dyfodol."

Mae cynlluniau ar waith hefyd i Ysbyty Cymuned Treffynnon gyflwyno'r cynllun yn y dyfodol agos.