Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi cyllid o £22.7m tuag at gyflawni Cymru Iachach

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi croesawu’r cynnydd o ran darparu’r gronfa £100m i drawsnewid y ffordd y caiff iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu, wrth iddo gyhoeddi’r dyraniad diweddaraf cyn pen-blwydd cyntaf Cymru Iachach.
 
Bydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, sydd bellach yn cynnwys ardal cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn derbyn £22.7m o'r Gronfa Trawsnewid.
 
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ehangu prosiectau peilot llwyddiannus ar draws Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr i ddarparu mwy o ddewis ac annibyniaeth i unigolion, tra’n lleihau’r pwysau ar ofal cymdeithasol, meddygfeydd ac ysbytai. Dylai pob cynnig sy’n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru wella profiad pobl o ofal a chefnogi’r uchelgais i ddarparu mwy o ofal yn nes at eu cartrefi.
 
Dywedodd Mr Gething: “Flwyddyn yn ôl fe wnaethom lansio Cymru Iachach , sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n falch ein bod eisoes wedi dyrannu mwy na £80m o’r Gronfa Trawsnewid gwerth £100m i gefnogi prosiectau y gellir eu huwchraddio yn y pen draw i gyflawni’r weledigaeth a nodir yn Cymru Iachach.
 
Cymru Iachach yw'r tro cyntaf i ni osod cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n pwysleisio pwysigrwydd y gwasanaethau hyn yn gweithio'n ddi-dor gyda'i gilydd. Er mwyn bodloni gofynion y dyfodol mae angen inni newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn sylweddol. Mae angen i ni symud i ffwrdd o ofal iechyd sy’n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddant yn mynd yn sâl, i un sy’n cefnogi pobl i aros yn iach, byw bywydau iachach a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl.”
 
Dywedodd Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg: “Ar ran Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg, mae’n bleser mawr gennyf dderbyn cefnogaeth y Gweinidog i’n cynnig uchelgeisiol i drawsnewid iechyd. a gofal cymdeithasol ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae ein cynnig, sy'n adlewyrchu anghenion y boblogaeth bresennol ac anghenion cenedlaethau'r dyfodol, yn gynnyrch gwaith caled gan aelodau'r Bartneriaeth dros fisoedd lawer.
 
Mae’r £22.7m sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn fuddsoddiad sylweddol i sicrhau atebion gwell i bobl o bob oed, waeth beth fo’u cod post. Bydd llawer o’r hyn y ceisiwn ei gyflawni yn cael ei gyflawni gan sefydliadau gwerth cymdeithasol ac rwyf wrth fy modd y bydd cyfran sylweddol o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i hybu rôl sefydliadau gwerth cymdeithasol sydd eisoes yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl sy’n byw ar draws y rhanbarth. . Mae’r gwaith caled yn dechrau nawr ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod ein cynigion yn cyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
 
Ers cyhoeddi Cymru Iachach ar 11 Mehefin y llynedd, mae £87.2m wedi’i ddyrannu o’r Gronfa Trawsnewid i brosiectau ledled Cymru.
 
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan ddod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol eraill at ei gilydd, yn gwneud cais am yr arian ac yn rhedeg y prosiectau. Mae’r arian wedi’i ddyrannu fel a ganlyn:
  • £16.5m ar gyfer Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.
  • £2.6m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys
  • £13m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
  • £12m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
  • £13.5m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent
  • £6.9m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro
  • £22.7m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg
Mae prosiectau yn cynnwys:
Gofal Argyfwng Iechyd Meddwl Gogledd Cymru lleoli ymarferwyr iechyd meddwl gyda chriwiau ambiwlans ac yn ystafelloedd rheoli’r heddlu a datblygu dewisiadau amgen i dderbyniadau i’r ysbyty megis caffis argyfwng, hafanau diogel a gwasanaethau triniaeth cartref cryfach.
 
Ehangu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi darparu cymorth arbenigol i dros 450 o fenywod yn y 12 mis diwethaf – gan helpu i ateb y galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl i famau newydd a darpar famau
 
Canolfan Gofal Integredig newydd yn Aberteifi, Ceredigion, ar y trywydd iawn i agor mis Medi eleni i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy mor agos i’r cartref â phosibl.
 
Lansiwyd ym mis Mai, gwasanaeth atgyfeirio pelydr-x o’r frest fferylliaeth gymunedol arloesol yn Llanelli a Phorth Tywyn a fydd yn helpu pobl â chanser yr ysgyfaint i gael diagnosis yn gynt.
 
Canolfan Ranbarthol Wledig newydd yn y Drenewydd sy'n cwmpasu ardal o tua 65,000 o drigolion. Bydd y ganolfan yn gysylltiedig â Hybiau Lles Cymunedol mewn sawl lleoliad ar draws Gogledd Powys.
 
Gwasanaeth awdioleg newydd yn y gymuned sy’n gwasanaethu cymunedau rhan isaf Cwm Tawe, gan alluogi’r rhai sydd â phroblemau clyw neu glust i gael mynediad at ofal sylfaenol heb fod angen apwyntiad meddyg teulu neu ymweliad â’r ysbyty
 
Home First , prosiect sy’n dod â chlinigwyr o Ysbytai Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall ynghyd ag awdurdodau lleol Gwent, i gyflymu’r broses asesu a chefnogi’r rhai sydd yn yr ysbyty i fynd adref mor gyflym â phosibl.