Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi £22.7m o gyllid ar gyfer gwireddu Cymru Iachach

Cyhoeddi £22.7m o gyllid ar gyfer gwireddu Cymru Iachach

Bron i flwyddyn ers i Cymru Iachach gael ei lansio, mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi'r dyraniad diweddaraf o'r gronfa £100m ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyf.

Bydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, sydd bellach yn cynnwys ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cael £22.7m o'r Gronfa Drawsnewid.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ehangu prosiectau peilot llwyddiannus ar draws Cwm Taf a Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn rhoi mwy o ddewis ac annibyniaeth i unigolion, gan leihau'r pwysau ar ofal cymdeithasol, meddygfeydd ac ysbytai. Dylai pob cynnig a gefnogir gan arian Llywodraeth Cymru wella profiad pobl o ofal a chefnogi'r uchelgais i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartref.

Dywedodd Mr Gething: “Flwyddyn yn ôl, lansiom Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Dw i'n falch ein bod ni eisoes wedi neilltuo mwy na £80m o'r Gronfa Drawsnewid £100m i gefnogi prosiectau y bydd modd eu ehangu yn y pen draw i wireddu'r weledigaeth sydd wedi'i chyflwyno yn Cymru Iachach.

Cymru Iachach yw'r tro cyntaf inni gyflwyno cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor. Er mwyn bodloni galwadau'r dyfodol mae angen inni newid y ffordd mae ein gwasanaethau'n cael eu cyflenwi, ac mae angen bod yn radical wrth wneud hynny. Rhaid inni symud oddi wrth ofal iechyd sy'n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddan nhw'n colli eu hiechyd i un sy'n cefnogi pobl i aros yn iach, byw bywydau iachach a byw'n annibynnol am gymaint o amser â phosibl."

Dywedodd Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg: "Ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf, yr wyf wrth fy modd o gael cefnogaeth y Gweinidog i'n cynnig uchelgeisiol i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae ein cynnig, sy'n adlewyrchu anghenion presennol y boblogaeth a rhai cenedlaethau'r dyfodol, yn ffrwyth gwaith caled gan Aelodau'r bartneriaeth dros fisoedd lawer. Mae'r £ 22.7m sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn fuddsoddiad sylweddol i sicrhau gwell datrysiadau i bobl o bob oed, waeth beth fo'u cod post. 

Bydd llawer o'r hyn y ceisiwn ei gyflawni yn cael ei gyflawni gan sefydliadau gwerth cymdeithasol ac yr wyf wrth fy modd y caiff cyfran sylweddol o'r arian ei defnyddio i hybu rôl sefydliadau gwerth cymdeithasol sydd eisoes yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl sy'n byw ar draws y rhanbarth. Mae'r gwaith caled yn dechrau nawr ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod ein cynigion yn cael ei cyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

Ers i Cymru Iachach gael ei gyhoeddi ar 11 Mehefin y llynedd, mae £87.2m wedi cael ei neilltuo o'r Gronfa Drawsnewid i brosiectau ym mhob cwr o Gymru.

Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy'n tynnu awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus eraill a grwpiau cymunedol ynghyd, yn ymgeisio am yr arian a'r Byrddau fydd yn rhedeg y prosiectau. Mae'r arian wedi cael ei neilltuo fel a ganlyn:

  • £16.5m ar gyfer Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg
  • £2.6m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys
  • £13m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd
  • £12m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gorllewin
  • £13.5m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent
  • £6.9m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro
  • £22.7m ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r prosiectau yn cynnwys:

  • Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl y Gogledd sy'n lleoli ymarferwyr iechyd meddwl gyda chriwiau ambiwlans ac yn ystafelloedd rheoli'r heddlu ac yn datblygu cymorth er mwyn osgoi gorfod derbyn pobl i’r ysbyty, er enghraifft drwy gaffis argyfwng a llochesau diogel, a chryfhau'r gwasanaethau sy'n darparu triniaeth i bobl yn eu cartrefi.
  • Ymestyn Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi darparu cefnogaeth arbenigol i fwy na 450 o fenywod dros y 12 mis diwethaf – gan helpu i ddiwallu'r galw sy'n cynyddu am gymorth iechyd meddwl ar gyfer mamau newydd a beichiog.
  • Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, sy'n ganolfan newydd yng Ngheredigion y disgwylir iddi agor fis Medi er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy mor agos at gartrefi pobl â phosibl.
  • Gwasanaeth atgyfeirio arloesol fferylliaeth gymunedol ar gyfer pelydr-x o’r frest a fydd yn cael ei lansio ym mis Mai yn Llanelli a Phorth Tywyn er mwyn helpu i roi diagnosis cynharach i bobl sydd â chanser yr ysgyfaint.
  • Canolfan Ranbarthol Wledig yn y Drenewydd sy'n ganolfan newydd ac yn gwasanaethu ardal o tua 65,000 o drigolion. Bydd cysylltiad rhwng y ganolfan â chanolfannau llesiant cymunedol mewn amrywiol leoliadau ar draws Gogledd Powys.
  • Gwasanaeth awdioleg cymunedol newydd sy'n gwasanaethu cymunedau yng Nghwm Tawe Isaf, ac sy'n rhoi mynediad at ofal sylfaenol i’r rheini sydd â phroblemau gyda'r glust neu'r clyw heb iddynt orfod trefnu apwyntiad â'r meddyg teulu neu fynd i'r ysbyty. 

Home First, prosiect sy'n dod â chlinigwyr ynghyd o Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall gydag awdurdodau lleol Gwent, i asesu’n gyflymach a chefnogi'r rheini sydd yn yr ysbyty i fynd adref cyn gynted ag sy'n bosibl.