Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleusterau newydd i famau yn Ysbyty Glan Clwyd

Cyfleusterau newydd i famau yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae Uned Dan Arweiniad Bydwragedd sydd newydd gael ei hailwampio yn Ysbyty Glan Clwyd yn cynnig cyfleusterau geni gwell i ddarpar famau.  

Mae goleuadau sy'n creu awyrgylch braf, system sain Bluetooth a phwll geni sefydlog i gyd yn rhan o’r gwaith adnewyddu sydd wedi’i wneud i Uned Dan Arweiniad Bydwragedd yr ysbyty.

Mae’r Uned Dan Arweiniad Bydwragedd yn rhoi dewis i deuluoedd dderbyn gofal un i un dan arweiniad bydwraig.

Caiff yr uned ei chynnal gan fydwragedd, ac mae’n cynnig amgylchedd mwy cartrefol i ferched sydd â beichiogrwydd risg isel i eni eu plentyn ynddo.

Gosodwyd y pwll, a gafodd ei ariannu diolch i roddion gan Gynghrair Cyfeillion Glan Clwyd. Cwblhawyd y gwaith ailwampio gan Waith Saer Pen y Bryn o Ddinbych.

Dywedodd Lorraine Gardner, Metron Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd: “Mae’r holl ddatblygiad wedi canolbwyntio ar greu profiad cartrefol i ferched sy’n derbyn gofal dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Rydym eisiau gallu rhoi’r profiad gorau posib i’r holl famau sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Bydd gallu chwarae eu cerddoriaeth eu hunain tra byddant yma a gallu gosod golau braf mae modd iddyn nhw ei addasu eu hunain wir yn helpu i greu amgylchedd ymlaciol a digynnwrf.

“Mae gennym dîm ardderchog o fydwragedd, gweithwyr cefnogi bydwragedd a gweithwyr cefnogi gofal iechyd sy’n gweithio yn ein Huned Dan Arweiniad Bydwragedd, a bydd y cyfleusterau gwell yn eu helpu i barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’n merched.

“Rydym yn edrych ymlaen yn benodol at gael y pwll geni sefydlog, sy’n well o lawer na’r un symudol oedd gennym gynt yn ein Huned Dan Arweiniad Bydwragedd. Hoffwn ddiolch i Gynghrair y Cyfeillion am eu rhodd sylweddol i’n helpu ni i allu prynu’r pwll hwn.

“Mae dŵr yn rhoi lle digynnwrf, heddychol, diogel i ferched sy’n esgor gan eu helpu i symud eu corff mewn ffordd sy’n gyfforddus iddyn nhw ar gyfer esgor a’r enedigaeth.”

Dengys astudiaethau y gall geni dan ddŵr hefyd leihau poen, cyflymu esgor a lleihau’r angen am gyffuriau ac ymyriadau eraill ac felly mae’n sicrhau profiad geni cadarnhaol. 

Mae tair Uned Dan Arweiniad Bydwragedd yng Ngogledd Cymru, sydd wedi’u lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: “Roeddwn wrth fy modd o weld y gwaith hwn wedi’i gwblhau, a fydd wir yn gwella profiad merched o ddefnyddio’r Uned Dan Arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Gall y bydwragedd yma fod yn falch iawn o’r ymdrech maen nhw wedi’i roi i wneud y pwll geni newydd hwn yn realiti.”