Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau'r cefn newydd yng Ngogledd Cymru yn dod â gofal yn agosach i gartref

Gall cleifion gyda chyflyrau'r cefn nawr gael mynediad at ofal arbenigol yn agosach i’w cartref fel y mae clinigau lloeren yn cael eu hymestyn i Ogledd Cymru am y tro cyntaf.   

Mae’r Ganolfan Walton sydd wedi’i leoli yn Lerpwl, yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG Robert Jones ac Agnes Hunt i ddarparu gofal ar gyfer cleifion y cefn yng Ngogledd Cymru.  

Hyd at nawr, roedd cleifion yn y rhanbarth a oedd angen ymgynghoriad gydag arbenigwr cefn yn cael eu cyfeirio at y Ganolfan Walton neu Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG Robert Jones ac Agnes Hunt (RJAH) am ymchwiliadau pellach.  

Mae Llawfeddyg y Cefn Ymgynghorol yng Nghanolfan Walton, Mr Narendra Kumar Rath yn darparu clinig y cefn yn Ysbyty Cymuned Treffynnon ger y Rhyl, ac meddai: “Y nod bob amser yw gwneud beth sydd orau i’r claf, ac yn yr achos hwn roedd yn gwella sut maen nhw’n cael mynediad at Ganolfan Walton a’i wasanaethau cefn.  

“Fel rhan o’r Cynllun Gofal yn Agos i Gartref a dod â chlinigau i rai o’r ardaloedd mwyaf pellennig y mae’r ysbyty yn ei wasanaethu, mae’n golygu llai o deithio a mwy o amser yn cwrdd â chlinigwyr, sy’n aml yn ddigwyddiad o straen, mewn man cyfarwydd.  

“Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu rhwydwaith rhyngranbarthol ymysgu gwahanol arbenigeddau ac mae’n gwasanaethu agwedd amlddisgyblaethol o’r gwasanaeth hwn.  Wedi cynnal clinigau yn barod, gallaf ddweud gyda hyder fod y cleifion a’r clinigwyr yn ymateb yn bositif i’n cael ni’n agosach i’w cartref.  Hoffwn ddiolch i bawb o fewn tîm rheoli Canolfan Walton, yn enwedig Ms Emma Denby am ei holl waith caled i roi hyn ar waith.”

Cafodd Dominic Roberts, o Ruddlan, anaf i’w gefn yn 2008. Cafodd ei gyfeirio at Ganolfan Walton, a nawr mae o’n mynychu ei apwyntiadau yn y clinig cefn newydd yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.   

Dywedodd: “Mae fy amser teithio i’r ysbyty wedi’i ostwng o dros awr i 15 munud.  Mae’n golygu llai o bwysau i gyrraedd yno a llai o bryder am y traffig.  Mae fy anaf yn golygu fy mod mewn poen cyson; felly gall teithiau hir yn y car fod yn anghyfforddus iawn.  

“Pan fyddaf yn mynd i’r clinig, ‘does dim angen i mi aros yn hir ac mae pawb yn gyfeillgar a chynorthwyol.  Rwy’n teimlo fy mod wedi fy nghefnogi ac yn hyderus am y dyfodol.  Mae cael y clinigau cefn newydd yng Ngogledd Cymru yn golygu bod rhai o’r llawfeddygon a’r clinigwyr gorau yn y wlad yn agosach i gartref, all ond gwella ansawdd y gefnogaeth ar gyfer cleifion fel fi.”

Mae Arweinydd Trawma Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Dave Barlow, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr dros y pedair blynedd diwethaf i wella gofal ar gyfer cleifion y cefn yng Ngogledd Cymru.  

Dywedodd: “Tua phedair blynedd yn ôl, fel rhan o welliannau trawma oedd wedi’u cynllunio yn y Maelor, fe wnaethom ddynodi cleifion cefn fel grŵp a oedd yn aml yn gorfod teithio am amser hir i gael eu gweld, ac fel clinigwyr sy’n eu trin, yn teimlo arwahaniad o’r canolfannau cyfeirio trydyddol.  

“Ar ôl datblygu momentwm, dechreuon ni drafod gyda Ffisiotherapydd y Cefn, Anna White ym Mangor a rheolwr Ffisiotherapi Nesta Mccluskey yn Wrecsam a arweiniodd at gyfarfodydd gydag arweinwyr clinigol o Walton, Stoke on Trent a Chroesoswallt.  

“Rwy’n falch fod blynyddoedd o waith caled yn dwyn ffrwyth er lles ein cleifion yng Ngogledd Cymru trwy gael gwell mynediad at lawfeddygon y cefn ardderchog.  Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn a hoffwn ddiolch i’r Rheolwr Ffisiotherapi Nesta Mccluskey a’r Ffisiotherapydd y Cefn Anne White am eu gwaith caled yn sefydlu popeth.  

“Fel clinigwyr, rydym yn edrych ymlaen at wella ein gwybodaeth, cyfathrebu a chydweithredu, gan arwain at welliant mewn gofal claf.”

Meddai Mr Birender Balain, Llawfeddyg y Cefn Ymgynghorol yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt (RJAH), sy’n rhedeg y clinig yn Ysbyty Maelor Wrecsam:  “Mae estyniad y clinigau hyn, mewn lleoliadau yn agosach at gartrefi’r cleifion, o fudd mawr i’r cleifion.  Mae hyn o fudd i glinigwyr eraill hefyd.  Mae agwedd amlddisgyblaethol yn gynorthwyol iawn, ac mae hyn yn helpu’r tîm Asesiad Cyhyrysgerbydol Clinigol a Gwasanaeth Triniaeth (CMATS) hefyd trwy eu cefnogi.  Mae addysgu uwch trwy ryngweithio yn helpu i wneud y cynlluniau triniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cleifion mewn modd amserol.  

“Mae’r clinigau ym Maelor Wrecsam, eisoes mewn ychydig fisoedd, wedi helpu i gael gwell dealltwriaeth rhwng gwahanol arbenigeddau fel llawfeddygaeth y cefn, clinigau poen a chlinigwyr CMATS, ac mae’n wych gweld hynny.   Bydd hyn yn arwain at well llwybrau gofal ar gyfer rheolaeth a gofal cleifion yn y pen draw.”

Meddai Yvonne Rimmer, therapydd Ymgynghorol MSK ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae cael mynediad at feddygon ymgynghorol y cefn o Ganolfan Walton ac RJAH wedi ein galluogi i sefydlu clinigau amlddisgyblaethol lle gellir trafod cleifion cymhleth a rhoi cyngor ar reolaeth, a hyrwyddo darpariaeth ymarfer o ansawdd uchel, mwy diogel trwy gael mynediad at yr arbenigedd hwn.  Mae’r trafodaethau achos hyn hefyd wedi gostwng cyfeiriadau amhriodol at wasanaethau trydyddol.  Mae staff a chleifion yn cael gwell cefnogaeth gyda’r clinigau rhanedig hyn yn eu lle.  

“Mae hefyd wedi ein galluogi i gael digwyddiadau dysgu'r cefn ar y cyd gydag orthopaedeg, radioleg a ffisiotherapyddion yn cefnogi gwaith gwella llwybrau gofal y cefn.  

Ychwanegodd Meddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Oliver Blocker, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio law yn llaw gyda’n cydweithwyr canolfan gyfeirio trydyddol yn y Walton a RJAH.

“Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf yn fwy lleol ar gyfer ein poblogaeth wledig gan ddefnyddio modelau arloesol a’r gwasanaeth therapi CMATS presennol i sicrhau ein bod yn gwella profiad y claf.”