Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion yn helpu i lywio gwasanaethau COVID-Hir

Mae cleifion â COVID-Hir yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd er mwyn helpu i lywio gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer pobl sydd â'r cyflwr.

Mae symptomau COVID-Hir yn eang ac yn gyfnewidiol a gallant gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i boen, diffyg anadl, blinder, ymennydd niwlog, gorbryder a straen. Er bod llawer o gleifion yn gwella gyda dulliau hunanreoli a thrwy orffwys, mae rhai'n profi symptomau ysgytwol am fisoedd lawer ac mae angen cymorth mwy cynhwysfawr arnynt i gynorthwyo o ran eu hadferiad. 

Mae Claire Jones, Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi, wedi'i phenodi'n ddiweddar fel Arweinydd Therapi COVID-hir ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac mae'n gweithio gyda'r Grŵp Rhaglen Adferiad Hir a sefydlwyd er mwyn helpu i lywio’r gwasanaeth newydd.

Dywedodd: "Ein gweledigaeth yw creu tîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gallu cynnig asesiadau cynhwysfawr a chymorth rheoli achosion i'r rhai sy'n dioddef o COVID-Hir.

"Rydym yn cydnabod bod symptomau eang COVID-Hir yn golygu bod anghenion cleifion yn amrywiol, ac y bydd angen ymyrraeth gan nifer o wasanaethau arbenigol weithiau. Byddwn yn cydweithio â'r gwasanaethau presennol i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal cydgysylltiedig sy'n cael ei deilwra i anghenion unigol."

Mae'r Parch. Hywel Edwards, o'r Bala, a ddalodd y firws ym mis Mawrth 2020, ac sy'n dal i deimlo effaith COVID-Hir, yn gweithio gyda'r grŵp er mwyn helpu i lywio'r cynlluniau i helpu eraill sydd â'r cyflwr.

Dywedodd: "Mae fy adferiad yn dilyn dal COVID-19 wedi bod yn araf iawn, mae'r effaith ar fy mywyd wedi bod yn eithaf sylweddol.

"Roeddwn yn sâl iawn ar adeg dal y firws ond mae fy adferiad wedi bod yn araf iawn, gyda symptomau sy'n mynd a dod dros amser.

"Byddwn bob amser yn darllen yn selog ond erbyn hyn, rwy'n cael anhawster i ddarllen yn iawn ac rwy'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio.

"Rydw i'n falch i fod yn rhan o grŵp sy'n edrych ar ba wasanaethau y mae angen eu rhoi ar waith i bobl fel minnau. Mae llawer i'w ddysgu o hyd am effaith hirdymor y firws, mae'r symptomau mor eang a gall effeithio ar lawer o'r organau."

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd wedi sefydlu'r Rhaglen Addysg gyntaf am COVID-Hir yn y DU sy'n addysgu cleifion o ran rheoli eu symptomau drostynt eu hunain a lleihau'r effaith ar eu bywydau.

Dywedodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae niwed COVID-19 yn y tymor hwy ond yn dechrau cael ei ddeall yn raddol ac y mae'n debygol y bydd effaith y pandemig yn aros gyda ni am gryn amser ar ôl i ni gael y firws dan reolaeth.

"Mewn ymateb i hyn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu Rhaglen Adferiad COVID-Hir er mwyn sefydlu llwybrau gofal i gleifion sydd â chyflyrau cronig hirdymor sy'n deillio o COVID-19.

"Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio gyda'n cyn gleifion ac aelodau'r cyhoedd sy'n profi effaith COVID-Hir er mwyn canfod ffyrdd newydd o helpu'r rhai y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt. Mae dal llawer i'w ddysgu am ei effeithiau hirdymor sy'n gallu bod yn ysgytwol, fel y gwyddom, hyd yn oed i bobl ifanc, heini neu'r rhai na chawsant eu derbyn i'r ysbyty."

Mae ystod o wybodaeth a chymorth ar gael ar ein gwefan: COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)