Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i wisgo masgiau wrth ymweld â'r ysbytai yng Ngogledd Cymru

O yfory (dydd Llun, 3 Awst 2020) bydd yr holl gleifion ac ymwelwyr sy'n dod i'n hysbytai ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i wisgo gorchudd wyneb neu fasg.

Mae gorchuddion wyneb yn wahanol i fasgiau oherwydd gallant fod yn rhai wedi eu gwneud gartref, wedi eu gwneud o ddefnydd, ac mae modd eu defnyddio eto.  Os bydd claf neu ymwelydd yn dod i'r ysbyty heb orchudd neu fasg, bydd masg ar gael ac yn cael ei gynnig gan aelod o staff pan fyddwch yn cyrraedd. 

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Gwyddom fod rhai cleifion yn bryderus neu'n poeni am ddod i'r ysbyty ar hyn o bryd. Hoffem sicrhau ein cymunedau mai diogelwch ein staff a'n cleifion yw ein prif flaenoriaeth. 

"Felly, rydym wedi penderfynu annog gwisgo gorchuddion wyneb neu fasgiau i'r holl staff a chleifion ym mannau cyhoeddus neu agored ein hysbytai. 

"Mae tystiolaeth wedi dangos y gall pobl sydd wedi eu heintio â COVID-19 ddangos dim symptomau resbiradol, neu rai ysgafn iawn, ac y gallant drosglwyddo'r feirws i eraill heb wybod hynny, felly mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau i leihau'r risg o drosglwyddo.  

"Mae arnom eisiau'r amgylcheded mwyaf diogel bosibl i'n cleifion a'n hymwelwyr a byddwn yn cymryd camau ychwanegol i sicrhau ymbellhau cymdeithasol ac yn annog y defnydd o ddiheintydd dwylo wrth ddod i mewn i'r ysbyty ac wrth adael.”

Mae ymweld mewn ysbytai yn dal yn gyfyngedig iawn i reoli lledaeniad COVID-19: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/ymweld-ar-ysbyty/

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn annog teuluoedd a ffrindiau cleifion sydd o dan ein gofal i ystyried ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad, gan gynnwys defnyddio WiFi am ddim yn ein hysbytai i ddefnyddio FaceTime neu i wneud galwadau fideo.

Galwch gadw mewn cysylltiad â ffrindiau neu berthnasau yn yr ysbytai drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Llythyr at Anwyliaid

Mae ein Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)  yma i'ch helpu chi.   Bydd ein Swyddogion PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau a materion yn sydyn ac yn uniongyrchol gyda'r staff priodol.  Os oes gennych ymholiad am y cyfyngiadau ymweld neu bryder am ffrind neu berthynas sydd wedi ei dderbyn i'r ysbyty, cysylltwch â PALS (ar agor 9am i 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener heblaw ar Ŵyl y Banc). Ebost BCU.PALS@wales.nhs.uk, neu ffoniwch:
Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint) –
01978 727 020
Canol (Conwy a Sir Ddinbych) – 01745 448 788 Est: 2736
Gorllewin (Gwynedd ac Ynys Môn) –
03000 851 177