Neidio i'r prif gynnwy

Claf yn diolch i glinig Syncope newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam am 'ofal anhygoel'

14/10/2021

Mae claf wedi canmol Gwasanaeth Syncope Mynediad Cyflym newydd yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, sydd wedi gostwng amseroedd aros am apwyntiad ar gyfer pobl sy’n dioddef o blacowts, o 12 i bedair wythnos.

Mae syncope neu golli ymwybyddiaeth dros dro (T-LOC), sy’n cael eu disgrifio gan amlaf fel blacowt, yn effeithio tua 42% o’r boblogaeth ar ryw bwynt yn ystod eu bywydau. Mae Syncope yn fwyaf cyffredin oherwydd cyflyrau calon sydd heb eu datgelu sy’n achosi ataliad y galon a marwolaeth sydyn.

Agorodd y gwasanaeth, y cyntaf i gynnig Clinig Syncope Mynediad Cyflym pwrpasol yng Ngogledd Cymru, y clinig wythnosol ar gyfer cyfeiriadau wyneb yn wyneb ym mis Awst 2020 ac mae wedi gostwng yr amseroedd aros am apwyntiad ar gyfer cleifion o 66%.

Cyfeiriwyd Ian Millington, 53 o’r Wyddgrug i’r clinig gan ei Feddyg Teulu yn dilyn blacowt sydyn. O fewn tair wythnos, mynychodd Ian apwyntiad a ddarganfu abnormaledd ar ei galon ac yn fuan wedyn cafodd fewnblannu cofnod dolen cardiaidd i fonitro ei galon.

Mis yn ddiweddarach, cafodd Ian ail blacowt ac fe’i gwelwyd y diwrnod hwnnw yn y clinig. Datgelodd ei fonitor cardiaidd fod ei galon wedi stopio am 32 eiliad, gan achosi iddo golli ymwybyddiaeth. Derbyniwyd Ian i’r ward cardiaidd a chafodd osod rheolydd calon y diwrnod canlynol i atal hyn rhag digwydd eto. Cafodd ei ryddhau'r noson honno ar ôl treulio dim ond un noson yn yr ysbyty.

Meddai Ian, sy’n Arweinydd Tîm Technegol ar gyfer yr Asiantaeth Gyrru a Safonau Cerbydau: “Roeddwn i wedi fy syfrdanu fod fy nghalon wedi stopio am 32 eiliad, roedd y cofnodydd dolen yn anhygoel, pan gafodd ei ffitio nes i ddim teimlo dim ac mae’n cofnodi eich calon 24/7. Roedd y gofal a dderbyniais yn anhygoel, dwn i ddim beth nes i i’w haeddu.

“Ar ôl y blacowt cyntaf, roedd y meddygon yn bryderus fy mod yn gyrru, a allai fod wedi cael effaith fawr ar fy ngwaith gan fy mod yn gyrru i naw gwahanol safle, ond roedd fy nghyflogwr yn wych, a gada211111111111wodd i mi weithio o adref pan gafodd y cofnodydd dolen ei ffitio a diolch byth, pan gafodd y rheolydd calon ei ffitio, roedd yn golygu y gallwn ddreifio eto. Mae’r rheolydd calon wedi newid fy mywyd, roeddwn i adref o fewn diwrnod ac yn nôl yn y gwaith yr wythnos ganlynol.

“Nes i ddim sylweddoli pa mor wael oeddwn i, nes i mi deimlo’n well eto, rwy’n cysgu’n well ac yn fwy gwyliadwrus. Petai oedi wedi bod yn fy nhriniaeth, fyswn i ddim yn licio meddwl beth fyddai wedi digwydd, ond dwi ddim yn meddwl y byswn i’n dal i fod yma. Alla i ddim diolch digon i’r clinig a’r holl feddygon am eu gofal.”

Bydd nifer o gleifion sy’n dioddef o T-LOC yn cael rhywfaint o brofion diagnostig a monitorau cardiaidd ar yr un diwrnod â’u hymgynghoriad. Gyda chefnogaeth ffisiolegwyr cardiaidd, mae’r gwasanaeth wedi gostwng llwyth gwaith clinig

ymgynghorwyr cardioleg o oddeutu 200 o gleifion newydd y flwyddyn, a’r apwyntiadau dilynol cysylltiedig.

Meddai Sally Owen, Prif Ffisiolegydd Cardiaidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a arweiniodd y fenter: “Mae’r clinig wedi gostwng yr amser aros ar gyfer cleifion yn sylweddol a lleihau llwyth gwaith y clinig ymgynghorydd cardioleg. Yn aml, bydd cleifion sydd angen monitro cardiaidd mewnwthiol yn derbyn dyddiad ar gyfer y weithdrefn ar ddiwrnod eu hapwyntiad, a byddai’r ffisiolegwyr yn mewnosod yn arferol, ac yn cynnal apwyntiadau dilynol, gan sicrhau bod gan gleifion parhad gofal.

“Mae’r gwasanaeth, er yn ei fabandod, eisoes wedi cael effaith bositif ar ofal claf, ac mae’n wych gweld sut mae’r clinig hwn wedi helpu i newid bywydau pobl fel Ian.”

Sefydlwyd y gwasanaeth mewn ymateb i ganllawiau’r Gymdeithas Cardioleg Ewropeaidd 2019 sy’n cynghori y dylai cleifion sydd dangos symptomau T-LOC mewn meddygfeydd ac Adrannau Achosion Brys, gael eu cyfeirio ar unwaith i glinigau syncope arbenigol.