Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yn helpu cleifion yn ôl ar eu traed yn Ysbyty Glan Clwyd

Cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yn helpu cleifion yn ôl ar eu traed yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae timau arbenigol o Therapyddion Galwedigaethol yn helpu cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd i baratoi at ddychwelyd gartref yn dilyn astudiaeth peilot sydd wedi lleihau hyd arhosiad bron i 50 y cant.

Mae'r prosiect newydd “Cartref yn Gyntaf”, sy'n helpu cleifion i ddychwelyd gartref o'r ysbyty unwaith maent wedi gorffen eu triniaeth feddygol i gleifion mewnol, wedi helpu bron i naw o bob deg claf mewnol yn yr ysbyty i adennill yr hyder a'r cryfder i ddychwelyd gartref yn ddiogel.

Yn dilyn y treial llwyddiannus, mae cefnogaeth ychwanegol Therapi Galwedigaethol wedi'i gyflwyno ar bob ward yn Ysbyty Glan Clwyd i helpu pobl ddychwelyd gartref cyn gynted â phosibl yn dilyn pwl yn yr ysbyty.

O dan y trefniadau newydd, bydd Therapyddion Galwedigaethol yn cymryd cyfrifoldeb dros arwain y broses rhyddhau cleifion gan weithio'n agos gyda nhw, eu teuluoedd, a chyd staff meddygol a gofal iechyd i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

Drwy leihau hyd arhosiad y claf yn yr ysbyty, mae gwaith y Therapyddion Galwedigaethol yn sicrhau eu bod yn cadw eu hannibyniaeth. Mae hefyd yn lleihau’r risg bod ffitrwydd, hyder a lles meddyliol yn dirywio yn ystod amser a dreulir mewn gwely ysbyty.

Cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yn helpu cleifion yn ôl ar eu traed yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae timau arbenigol o Therapyddion Galwedigaethol yn awr yn gweithio mewn partneriaeth â wardiau, cleifion a theuluoedd i bennu beth sy'n bwysig i'r unigolyn wrth gynllunio i'w rhyddhau gartref. Os oes angen, bydd hyn yn cynnwys ymarfer gweithgareddau syml megis cerdded, ymolchi a gwisgo a pharatoi bwyd i adennill sgiliau a hyder.

Dywedodd Jennifer Davies, Therapydd Galwedigaethol a gynhaliodd y peilot cychwynnol: "Mae Cartref yn Gyntaf yn ymwneud â dynodi sut mae cleifion eisiau dychwelyd yn ôl i'w bywydau ar ôl arhosiad ysbyty, a sut gallwn ni eu helpu i gyflawni hynny.

"Drwy asesu cleifion yn gynnar, gweithio gyda nhw i osod nodau a fydd yn arwain at gael eu rhyddhau, ac arwain cyfarfodydd gofal gyda chydweithwyr ysbyty, rydym wedi gweld gwir ganlyniadau wrth helpu pobl wella unwaith maent yn feddygol iach i adael yr ysbyty.

"Drwy ymdrin â'r mater hwn, rydym yn rhyddhau adnoddau ac yn gwella llif drwy’r ysbyty."

Yn ystod y treial pum wythnos ar un o wardiau Gofal yr Henoed yr Ysbyty, bu Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio gyda staff y ward i gefnogi cleifion sy'n feddygol barod i adael yr ysbyty, ond sydd dal angen therapi a gofal nyrsio.

Yn ystod  y gwaith gwelwyd bod hyd arhosiad y cleifion a gymerodd ran wedi lleihau o 7.7 diwrnod i 4 diwrnod.

Bu i nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau i'w cartref ei hunain gynyddu 26 y cant, gyda 89 y cant o gleifion yn dychwelyd gartref gyda'r lefel cywir o gefnogaethyn ei le.

Lleihawyd nifer y cleifion sydd wedi'u rhestru i gael eu trosglwyddo i ysbyty cymuned yn sylweddol, ac roedd tua 192 o ddiwrnodau gwely ar gael diolch i’r broses rhyddhau gwell.

Lansiwyd y gwasanaeth Cartref yn Gyntaf sy'n cael ei ddarparu gan y timau arbenigol Therapi Galwedigaethol ddydd Llun 17 Mehefin.