Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth ar gyfer gofalwyr iechyd meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych

Cefnogaeth ar gyfer gofalwyr iechyd meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych

Mae gwasanaeth galw heibio newydd yn helpu i sicrhau bod gofalwyr unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol y maent ei angen.

Mae'r sesiynau galw heibio rheolaidd yn Uned Seiciatrig Ablett Ysbyty Glan Clwyd yn darparu lle i ofalwyr cleifion mewnol presennol rannu eu gofidiau dros baned o de, yn ogystal ag arweiniad ymarferol, a chyfeirio at wasanaethau cefnogi cymuned.

Mae'n cael ei ddarparu bob prynhawn dydd Llun a dydd Mercher gan elusen iechyd meddwl Hafal, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Gaynor Kehoe, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych: "Mae gofalwyr yn darparu cefnogaeth werthfawr i deuluoedd, ffrindiau a'r rhai sy'n annwyl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond gall fod yn amser anodd iawn iddynt pan fo'r unigolyn y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i'r ysbyty.

"Rydym yn gwybod bod gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd meddwl yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl y gofalwr, felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl iddynt.

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Hafal a'n partneriaid awdurdod lleol i hwyluso’r sesiynau galw heibio rheolaidd hyn."

Dywedodd Jaime Ashton, Ymarferydd Adferiad o Hafal: "Drwy'r sesiynau galw heibio, rydym eisiau ceisio cyrraedd gofalwyr na fyddent fel arfer yn cael eu hadnabod neu fyddai'n gudd.

"Rydym eisiau cyrraedd gofalwyr yn syth pan gânt eu derbyn am y tro cyntaf i'r ysbyty, a darparu lle diogel i ofalwyr ddod i gael paned ac i rannu eu gofidiau.  Rydym yma ar gyfer cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, yn ogystal â chyfeirio at sefydliadau a all eu helpu.

"Rydym hefyd yn gweithio yn y gymuned fel y gall cefnogaeth i ofalwyr barhau."