Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Aelodau Artiffisial Gogledd Cymru yn dathlu pen-blwydd pwysi

05/08/2022

Dri deg un mlynedd ar ôl i'r Dywysoges Diana agor y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae staff wedi bod yn hel atgofion am ei hymweliad.

Ar 30 Gorffennaf 1991, agorwyd yr adeilad lliw mêl ar Ffordd Croesnewydd (gyferbyn â phrif adeilad Ysbyty Maelor Wrecsam) yn swyddogol gan Dywysoges Cymru. Mae staff yn dathlu 31ain pen-blwydd y ganolfan eleni, oherwydd fe wnaeth cyfyngiadau Covid-19 rwystro dathliad 30ain pen-blwydd y Ganolfan yn 2021.

Fe wnaeth staff ALAC nodi pen-blwydd y ganolfan trwy rodio llwybrau atgof yn ei derbynfa, gan gyflwyno'r deunydd swyddogol sydd ganddynt yn deillio o'r agoriad, yn cynnwys glasbrintiau a lluniau o'r gwaith adeiladu a'r Dywysoges Diana yn ei hagor.

Dywedodd Stephen Jones, Pennaeth Osgo a Symudedd: “Mae’r gwasanaeth wedi esblygu a datblygu ac rydym yn ymdrechu i wella’r gwasanaeth ers iddo gael ei agor gan y Dywysoges Diana. Mae’r defnydd o’r adeilad a’r gwasanaethau a ddarperir wedi newid ac roedd yn fraint gallu defnyddio’r adeilad i hwyluso’r rhaglen frechu COVID-19. Mae’n ddiddorol dros ben gweld yr hen luniau o sut yr arferai’r adeilad fod a gweld y newidiadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.”

Mae ALAC yn darparu ystod o wasanaethau i bobl sydd â nam parhaol neu dymor hir, yn cynnwys gwasanaeth aelodau artiffisial, gwasanaeth osgo a symudedd (cadeiriau olwyn), gwasanaeth llygaid artiffisial, a gwasanaethau eraill. Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys y Clinig Diagnosis Cyflym sy'n asesu symptomau cleifion yn gyflym i bennu a oes angen cyfeiriad, a dyma leoliad presennol Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Wrecsam hefyd.

Dywedodd Anne MacDonald, Gweinyddwraig Tîm Stoc yn ALAC sy'n gweithio i'r gwasanaeth ers dros 30 mlynedd: “Roeddwn i yno yn ystod agoriad swyddogol ALAC. Roedd presenoldeb y Dywysoges Diana yn agoriad swyddogol ein hadeilad newydd yn brofiad cyffrous i bawb ohonom ni. Ni chefais gyfle i siarad â hi, ond roedd hi'n hyfryd, ac fe wnaeth hi siarad â rhai o aelodau eraill y staff a chleifion hefyd.

“Mae adeilad ALAC wedi helpu'r gwasanaeth i ddatblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ac mae'r hyn y gallwn gynnig i gleifion wedi gwella'n barhaus."

Yn ystod yr agoriad, fe wnaeth y Dywysoges Diana gyfarch y staff a'r cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Roedd gwaith elusennol y Dywysoges Diana yn hysbys iawn, ac roedd hi'n credu'n angerddol mewn cynorthwyo trychedigion. Daeth hi'n ymgyrchydd yn erbyn ffrwydron tir ac fe wnaeth hi arwain ymgyrch i sicrhau gwaharddiad byd-eang ar y ffrwydron hyn, ac mae ei mab, y Tywysog Harry, wedi parhau â'r ymgyrch.

Ysgrifennodd ei Boneddiges Breswyl at y staff wedi'r agoriad gan ddweud, "Fe wnaeth y croeso cynnes a gafodd drwy gydol y digwyddiad wneud gyffwrdd â chalon ei Huchelder Brenhinol" a dywedodd ei bod hi wedi bod "wrth ei bodd yn cael cyfle i weld y ganolfan a gweld y cyfleuster rhagorol a fydd ar gael yn fuan i gleifion yng Ngogledd Cymru".

Mae'r ALAC yn Wrecsam yn un o dair canolfan yng Nghymru a darperir y ganolfan trwy gyfrwng cydweithrediad unigryw rhwng tri Bwrdd Iechyd a chaiff ei chomisiynu trwy gyfrwng Pwyllgorau Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).