Neidio i'r prif gynnwy

25 mlynedd o wasanaeth gwirfoddolwr llinell gymorth iechyd meddwl yn cael ei gydnabod gyda gwobr arbennig

Mae gwirfoddolwr sydd wedi rhoi chwarter canrif o wasanaeth i linell gymorth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru wedi ei gydnabod gyda gwobr arbennig.

Mae Karl Bailey wedi cael Gwobr Seren Betsi annisgwyl i gydnabod ei 25 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol gyda Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL 24/7 Cymru.

Mae Gwobr Seren Betsi yn dathlu gwaith caled ac ymrwymiad staff y GIG a gwirfoddolwyr ar draws y rhanbarth.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL 24/7 Cymru yn darparu cymorth emosiynol a gwasanaeth cyfeirio at ystod o wasanaethau lles ac iechyd meddwl lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae Karl wedi bod yn gwirfoddoli gyda Llinell Gymorth CALL ers ei sefydlu yn 1995 ac wedi cefnogi cyflwyniad Llinell Gymorth Alcohol a Chyffuriau Cymru DAN 24/7 yn 2008, a Llinell Gymorth Dementia Cymru yn 2010.

Yn ystod tair degawd o wasanaethau anhunanol, amcangyfrifir ei fod wedi rhoi mwy na 3,600 awr o'i amser ac wedi ateb mwy na 7,200 o alwadau gan bobl mewn angen. 

Er gwaethaf symud o Wrecsam i dde Swydd Amwythig, nid yw Karl wedi gadael i daith 50 milltir ei atal rhag parhau â'i rôl wirfoddol mae mor angerddol amdani. 

Enwebwyd Karl ar gyfer y wobr gan Michelle Jones o BIPBC, sydd wedi rhoi teyrnged i'w ymrwymiad a'i angerdd dros helpu eraill.

Dywedodd: "Mae ymdrechion amhrisiadwy Karl i fynd y tu hwnt i alwad dyletswydd yn rhychwantu dros bron i 25 mlynedd o wasanaeth ymroddedig. Mae ei frwdfrydedd a'i angerdd i helpu eraill wedi achub miloedd o fywydau ac yn ddiamheuol mae wedi cael effaith bositif o fewn teuluoedd a'u cymunedau a thu hwnt."

Dywedodd Luke Ogden, Rheolwr Gwasanaethau Llinell Gymorth: "Mae pob un ohonom yn cydnabod a gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr mae gwirfoddolwyr fel Karl yn ei wneud i'n helpu i ddarparu cymorth i bobl sydd ei angen fwyaf bob awr o bob dydd o'r flwyddyn.   Mae pawb yn y tîm yn falch o adnabod Karl a gweithio ochr yn ochr gydag o, ac rydym wedi cael budd o'i brofiad, ymrwymiad a'i garedigrwydd."

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL 24/7 Cymru, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol DAN 24/7 Cymru a Llinell Gymorth Dementia Cymru ar gael bob dydd, trwy gydol y flwyddyn.

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru CALL 24/7

Ffoniwch y rhadffôn ar 0800 132737; tecstiwch Help i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk

Llinell Gymorth Alcohol a Chyffuriau Cymru Dan 24/7

Ffoniwch y rhadffôn ar 0808 808 2234; tecstiwch DAN i: 81066 neu ewch i www.dan247.org.uk/

Llinell Gymorth Dementia Cymru

Ffoniwch y rhadffôn ar 0808 808 2235; tecstiwch Help i 81066 neu ewch i: http://www.dementiahelpline.org.uk