Neidio i'r prif gynnwy

Cerbyd Awdioleg arloesol 'Cymorth â'r Clyw' ar gyfer cymunedau gwledig Gogledd Cymru

13 Medi 2024

Os hoffech gefnogi'r Cerbyd Awdioleg a phopeth y mae'r tîm yn ei wneud, gallwch gyfrannu yma.

Mae timau Awdioleg ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod ynghyd i greu’r Cerbyd Awdioleg cyntaf yng Nghymru a fydd yn darparu gofal GIG o ansawdd uchel i gymunedau gwledig Gogledd Cymru. Bydd hyn yn gwella’r allgymorth ac ategu’r gwasanaeth a gynigir mewn ysbytai lleol. Rhodd ariannol gan Awyr Las: Elusen GIG Gogledd Cymru ac Elusennau GIG Gyda'i Gilydd sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd ac mae'r prosiect wedi ei ariannu'n gyfan gwbl gan elusennau.

Bydd y fan arbennig hon yn cychwyn ar ei thaith o ddechrau mis Medi, ar ôl cael ei lansio i staff a phartneriaid trydydd sector yn Llyfrgell Llanelwy ar 27 Awst 2024. Mae’r holl offer arbenigol sydd ei angen ar awdiolegydd er mwyn cynnal profion cywir tra'n gwasanaethu cymunedau mwy gwledig Gogledd Cymru wedi’u gosod yn y Cerbyd Awdioleg.

Mae'r prosiect, sydd wedi costio bron i £90,000 wedi'i greu i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig â’r clyw. Gall sicrhau amodau tawel ar gyfer prawf clyw fod yn anodd pan fyddwch allan yn y gymuned, felly mae ardal wrthsain o fewn y fan.

Gall anawsterau clyw, tinitws a chydbwysedd effeithio ar tua 1 o bob 6 o bobl yng Ngogledd Cymru ac os nad yw’r anhawsterau hyn yn cael eu rheoli, gallant gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd.

“Mae’r Timau Awdioleg wedi gweithio gyda’i gilydd am y ddwy flynedd ddiwethaf i ddod â’r prosiect gwych hwn ynghyd”, meddai John Day, Cyfarwyddwr Clinigol Awdioleg.  “Mae’r Cerbyd Awdioleg Cymunedol yn bodoli diolch i waith caled y Timau Awdioleg, a chymorth ariannol gan Awyr Las ac Elusennau’r GIG Gyda'i Gilydd. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld beth fydd y prosiect hwn yn ei gyflawni a sut y bydd yn ein galluogi i gefnogi ein cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru yn well.”

Dywedodd Chris Easton, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Effaith yn Elusennau’r GIG Gyda'i Gilydd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyfrannu £30,000 tuag at y prosiect arloesol a phwysig hwn sydd â’r potensial i wella taith diagnosis a thriniaeth pobl sy’n byw gyda chyflyrau sy’n gysylltiedig â’r clyw. Gwyddom fod anghydraddoldebau enfawr o hyd o ran mynediad at ofal iechyd, ond dylai pawb allu cael mynediad at driniaeth GIG o safon, waeth ble maent yn byw. Gobeithiwn y bydd y fan awdioleg yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at glywed am brofiadau staff a chleifion o ddefnyddio’r gwasanaeth arloesol hwn.”

Bydd y gwasanaeth newydd sbon hwn yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru gan ategu gwaith y rhwydwaith presennol o safleoedd sefydlog ar draws y rhanbarth. Bydd yn cynnig mynediad gwell at wasanaethau Awdioleg o ansawdd uchel i oedolion, a hynny’n nes at eu cartrefi. Mae gwasanaeth Awdioleg y Bwrdd Iechyd bob amser yn falch o gynnig ‘Cymorth â’r Clyw’.

Dewch yn Wirfoddolwr Awdioleg

Os hoffech chi fod yn Wirfoddolwr Awdioleg i’r Bwrdd Iechyd, ewch i’r Gwasanaeth Gwirfoddoli i ddarganfod mwy.