Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Anghenion Fferyllol

Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb statudol i ddrafftio a chyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol (PNA) ac ymgynghori yn ei gylch yn unol â Rheoliadau 2013 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) erbyn 1 Hydref 2021.  

Diben yr asesiad o anghenion fferyllol yw asesu darpariaeth bresennol gwasanaethau fferyllol (h.y. y gwasanaethau hynny bydd y bwrdd iechyd yn eu comisiynu gan fferyllfeydd, contractwyr teclynnau gweinyddu a meddygon sy’n gweinyddu), ystyried unrhyw amgylchiadau penodol yn y dyfodol ble gall y sefyllfa bresennol newid yn sylweddol a nodi unrhyw fylchau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol o ran gwasanaethau fferyllol. Mae’r asesiad o anghenion fferyllol yn cynorthwyo’r bwrdd iechyd i bennu ceisiadau gan fferyllfeydd, contractwyr teclynnau gweinyddu a meddygon sy’n gweinyddu ar gyfer mangreoedd newydd, ychwanegol neu wedi’i hadleoli, newidiadau o ran oriau agor, a darparu rhagor o wasanaethau fferyllol.

Datganiadau Atodol

2024

2023

2022