Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Bwysau'r Gaeaf

9 Ionawr 2020

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw lawdriniaethau yn cael eu gohirio oherwydd pwysau yn ein Hadrannau Achosion Brys. Oherwydd galw brys uchel dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, fe wnaethom symud rhai o’n staff o Ysbyty Abergele i Ysbyty Glan Clwyd dros dro. O ganlyniad, cafodd nifer fechan o driniaethau llawfeddygol dewisol eu gohirio yn Ysbyty Abergele. Gallwn gadarnhau bod llawdriniaethau a gynlluniwyd bellach yn cael eu cynnal fel arfer yn Ysbyty Abergele. 

Gwyddom fod galw a phwysau mawr ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod ar ôl y Nadolig bob amser, a dyna pam fod gennym gynlluniau cadarn yn eu lle i reoli hyn, megis trefnu llai o lawdriniaethau. Mae ein staff yn delio â lefelau anhygoel o bwysau bob dydd ac yn gwneud eu gorau i ddarparu gofal diogel mewn amgylchiadau anodd iawn. Rydym yn diolch o galon iddynt am eu hymdrechion.

Mwy o wybodaeth: Mae llawer o resymau anghlinigol dros ohirio llawdriniaethau mewn ysbytai, megis pan na fo gwelyau ar gael ar y ward, neu dim gwelyau gofal critigol neu pan fo achos brys yn gorfod cymryd blaenoriaeth yn y theatr.

Dolenni Defnyddiol:

Norofirws – Gofynnir i bobl helpu i atal salwch fel norofirws rhag cael eu lledaenu i ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill yng Ngogledd Cymru.

Ble Ydw i'n Mynd? - Ydych chi'n teimlo'n sâl neu wedi cael anaf ond nid yw'r broblem yn achos brys meddygol?  Rydym yn cynnig nifer o opsiynau a gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru i'ch helpu chi i gael y cyngor a/neu'r driniaeth gywir.

Ap Amseroedd Aros Cyfredol - Am wybodaeth gyfredol ar amseroedd aros yn ein Unedau Mân Anafiadau ac Adrannau Achosion Brys. Hefyd, mae'r ap hwn yn cynnig mwy o wybodaeth megis y triniaethau a gynigir, am lefydd parcio ac amseroedd aros.
Lawrlwythwch yr ap -
Android / iOS

Galw Iechyd Cymru - Mae Galw Iechyd Cymru ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.
Defnyddiwch y gwirydd symptomau ar-lein
Rhif ffôn: 0845 46 47