Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Fasgwlar

13th Gorffennaf 2023

Yn dilyn adroddiad manwl yn ymwneud â 47 o gofnodion clinigol cleifion fasgwlaidd gan Banel Adolygu Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd, dan gadeiryddiaeth annibynnol Susan Aitkenhead, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ysgrifennu at y cleifion a'r teuluoedd dan sylw.

Dywedodd Dr Nick Lyons, ein cyfarwyddwr meddygol gweithredol BIPBC: "Hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant i'r cleifion a'r teuluoedd hynny a dderbyniodd ofal a oedd islaw'r safon y byddant hwy ac y byddwn i'n ei disgwyl.

"Wrth gynnal adolygiad ôl-weithredol o gleifion fasgwlaidd, rydym wedi gwrando'n ofalus iawn ar eu profiadau. Trwy eu hadborth, rydym wedi dysgu llawer a bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar sut rydym yn gwella ac yn datblygu ein gwasanaethau fasgwlaidd.

"Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cyfraniad. Rydym yn ymrwymedig i roi gwelliannau ar waith o ran ein gwasanaethau yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r astudiaeth hon.

"Rydym wedi ysgrifennu at y cleifion a'u teuluoedd erbyn hyn mewn perthynas â chanfyddiadau pob un o'r achosion ac rydym wedi cynnig ystod o gymorth iddynt. Rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda nhw wrth i ni ddatblygu dysgu a gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth."

29 Mehefin 2023

Dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydw i am roi sicrwydd i’n cleifion bod y Bwrdd Iechyd yn cydnabod nad yw ein gwasanaeth fasgwlaidd bob amser wedi cyrraedd y safonau yr ydym yn anelu atynt ac mewn rhai achosion, rydym wedi gadael cleifion i lawr.

“Fodd bynnag, mae adroddiad heddiw yn dangos ymrwymiad a gwaith caled pawb sydd ynghlwm wrth wella’r gwasanaeth i bobl Gogledd Cymru. Hoffem ddiolch i staff, y cleifion a’r rhanddeiliaid am eu hymdrechion.

“Bod yn wasanaeth lle nad oes angen gwella sylweddol yw’r safon leiaf bosibl y dylai pawb ei disgwyl.

“Nodaf gydnabyddiaeth AGIC o’r cynnydd positif a wnaed o ran pob un o’r naw argymhelliad a geir yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 – a sut mae canlyniadau a phrofiadau pobl wedi gwella cryn dipyn.

“Gwyddom fod mwy i’w wneud a byddwn yn parhau i gydweithio ar gam nesaf y gwaith gwella. Rydym yn derbyn yr argymhellion pellach y mae’n eu gosod i ni weld gwella cyson a chraidd. Gwyddom fod y gwaith caled yn dechrau nawr.

“Mae’r cyhoeddiad ond yn fodd o’n hysgogi yn ein hymdrech i barhau i wella ac ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth o’r radd flaenaf y mae’r holl gleifion fasgwlaidd yn ei haeddu.”

31 Ionawr 2023

Mae adroddiad gan y Panel Adolygu Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd wedi cael ei gyhoeddi.

Cafodd y panel ei sefydlu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn ymateb i’r canfyddiadau a gafwyd mewn adolygiad o’i Wasanaeth Fasgwlaidd a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS), a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022.

Roedd naw argymhelliad – pump ohonynt yn rhai brys – yn rhan o’r astudiaeth, a oedd yn edrych ar nodiadau achos cleifion.

Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd y Bwrdd, Mark Polin, ei bod yn bryd cyflymu’r gwaith gwella yn y gwasanaeth.

Er mwyn sicrhau arolygu trwyadl o’r broses, penododd Susan Aitkenhead fel cadeirydd annibynnol y panel.

Gallwch ddarllen adroddiad VQRP yma: Adroddiad gan y Panel Adolygu Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd

Mewn ymateb i gyhoeddiad heddiw, dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol BIPBC, Dr Nick Lyons:

"Yn gyntaf, hoffwn ailddatgan fy ymddiheuriadau diffuant i'r cleifion hynny na wnaethant dderbyn y gwasanaeth rhagorol y maent yn ei haeddu, yr ymdriniwyd â rhai o'i achosion yn yr adroddiad hwn.

"Yn dilyn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ymwneud â'n gwasanaeth fasgwlaidd a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022, a oedd yn ymestyn ar draws cofnodion mor gynnar â 2015 hyd at fis Gorffennaf 2021, roeddem yn onest a dywedasom fod angen i ni wella.

"Rwy'n fodlon bod y rhan fwyaf o'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adolygiad hwn eisoes wedi'u cwblhau ac mae gwaith yn parhau ar y rhai sydd heb eu cwblhau.

"Mae gwaith caled ein staff wedi arwain at wasanaeth sydd bellach, yn fy nhyb i, yn gwasanaethu pobl Gogledd Cymru. Gwyddom fod gennym fwy o waith i'w wneud ac mae cryn dipyn o hyfforddiant wedi cael ei wneud ar bethau fel cadw cofnodion.

"Mae ein partneriaethau gyda Rhwydwaith Fasgwlaidd Lerpwl ac Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stroke wedi creu darpariaeth hollbwysig i ni ar gyfer achosion aortig cymhleth ac ar gyfer yr achosion y tu allan i oriau hynny lle bo angen cymorth yn llai aml.

"Mae cyfarfodydd rheolaidd o'n timau rheoli gweithredol prif ganolfan a chanolfannau ategol hefyd wedi arwain at fwy o sicrwydd ein bod yn barod, nid yn unig ar gyfer ein clinigau a gweithgarwch cleifion mewnol rheolaidd, ond hefyd unrhyw faterion sy'n ymwneud â staffio a thrawsgyflenwi ar draws ein safleoedd.

"Er mai fi fyddai'r cyntaf i gydnabod bod dal llawer i'w wneud, credaf fod y gwasanaeth fasgwlaidd ar draws Gogledd Cymru mewn sefyllfa well o lawer nag ydoedd cyn adroddiad drwy wahoddiad RCS ac mae'n arwain at ganlyniadau da i'r cyhoedd.

"Rwyf hefyd yn dal i fod yn argyhoeddedig mai model prif ganolfan a chanolfannau ategol yw'r ffordd orau o wasanaethu'r cleifion hynny yn ein cymunedau lle bo angen triniaeth fasgwlaidd, nid yn unig gan ei fod yn caniatáu i'n clinigwyr gadw eu sgiliau ac, felly’n cadw'r rhan fwyaf o wasanaethau fasgwlaidd o fewn yr ardal yr ydym yn ei gwasanaethu."

2 Awst 2022

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Mewn ymateb i adborth a dderbyniwyd o adolygiadau allanol a'n ffocws parhaus ar ddiogelwch cleifion, rydym unwaith eto wedi adolygu'r ffordd yr ydym yn rhoi gofal i gleifion ar rai o'n llwybrau fasgwlaidd. Mae hyn yn cynnwys cynllunio wrth gefn i sicrhau nad oes tarfu ar ofal ar gyfer y sawl lle bo angen llawdriniaeth aortig.

"O ganlyniad, efallai y bydd nifer fach iawn o gleifion bob wythnos yn derbyn eu llawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Lerpwl - neu Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke, fel sy'n digwydd eisoes ar gyfer trigolion Gogledd Cymru sydd ag anafiadau trawma mawr. Byddwn yn cysylltu â phob claf i drafod eu gofal a byddwn yn rhoi cymorth iddynt, yn ôl yr angen.

"Mae gofal arbenigol iawn ar gyfer rhai cleifion eisoes yn cael ei ddarparu gan ganolfannau fasgwlaidd arbenigol yn Lloegr ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i reoli achosion cymhleth. Rydym mi mor ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus.

"Mae'r cynlluniau wrth gefn hyn yn cydnabod yr heriau gweithredol yr ydym yn eu profi oherwydd absenoldeb salwch ynghyd ag anawsterau recriwtio.

"Mae gennym bryderon hefyd ynghylch nifer fach o achosion llawdriniaeth fasgwlaidd. Daw hyn yn dilyn craffu annibynnol gan y Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd, y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ei gomisiynu a'i sefydlu mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad trwy wahoddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, y cafodd ail ran y gwaith craffu hwn ei gyhoeddi ym mis Chwefror eleni.

"Rydym yn disgwyl i'r trefniadau hyn barhau hyd nes y cawn sicrwydd fod modd cyflwyno'r gwasanaeth yn ymarferol, ei fod yn gadarn ac yn gynaliadwy. Caiff y gwasanaeth ei adolygu'n gyson a rhoddir diweddariadau fel bo'n briodol.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fodel gwasanaeth fasgwlaidd wedi'i rwydweithio ar gyfer Gogledd Cymru ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau ei fod yn gynaliadwy a bod modd ei roi ar waith."

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion linell gymorth bwrpasol i roi cymorth ac arweiniad i gleifion fasgwlaidd a allai fod â chwestiynau am eu triniaeth a'u gofal.

Ffôn: 03000 851389  
Ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau'r Banc. 

15 July 2022

Fel rhan o'n gwaith parhaus i gryfhau rhai o'n gwasanaethau fasgwlaidd arbenigol, rydym wedi rhoi rhai mesurau newydd ar waith i gynorthwyo gyda llawdriniaeth fasgwlaidd aortig arbenigol, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth tîm amlddisgyblaethol gan Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Prifysgol Lerpwl (LUHFT) ar gyfer yr holl lawdriniaeth aortig
  • Dau feddyg ymgynghorol llawdrin ar gyfer yr holl lawdriniaeth aortig

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i roi argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar waith ar ein gwasanaeth fasgwlaidd, rydym yn parhau i gydweithio'n agos â rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl ar achosion fasgwlaidd cymhleth. Mae hyn yn cynnwys meddu ar arbenigedd ychwanegol pan fyddwn yn adolygu ac yn cynllunio gweithredoedd, yn ogystal â chymorth gan feddygon ymgynghorol arbenigol i gynnig gweithredoedd.

"Bydd yr ymagwedd gydweithredol hon yn caniatáu i ni roi cymorth mwy proffesiynol yn y tymor byr wrth i ni barhau â'n gwaith i atgyfnerthu gwasanaethau fasgwlaidd ar gyfer ein cyhoedd ar draws Gogledd Cymru.

"Byddwn yn parhau i adolygu'r ymagwedd hon a mesurau eraill yn gyson."

30 Mawrth 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi penderfynu rhoi rhagor o staff a mesurau cefnogi yn eu lle tan 23 Mai.

Diben hyn yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel a pharhau i ddiweddaru ein cynlluniau mewn ymateb i ddigwyddiadau diweddar. Bydd y trefniant hefyd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd fwrw ymlaen â'n cynlluniau recriwtio presennol.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons:  "Diogelwch cleifion yw fy ystyriaeth bennaf.

"Rwyf hefyd yn dymuno sicrhau fod y sawl sy'n defnyddio ein gwasanaeth fasgwlaidd yn cael gofal sy'n cyflawni'r safon maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

"Credaf fod bod yn sicr ynghylch hyd ein cydweithrediad a'n partneriaid yn Lerpwl, yn y tymor canol, yn helpu i gynnig sicrwydd o'r fath.

"Mae ein gwaith i recriwtio pobl i wneud rolau allweddol hefyd yn allweddol, ac mae hyn yn rhywbeth rydym ni'n gweithio'n galed iawn i'w gyflawni.

"Credaf y bydd yr oruchwyliaeth gan ein partneriaid yn Rhwydwaith Fasgwlaidd Lerpwl yn ein helpu ni i adolygu digwyddiadau yn gyson, ac yn y pen draw, yn cryfhau gwasanaethau fasgwlaidd ar gyfer ein cyhoedd ledled Gogledd Cymru."

16 Mawrth 2022 

Yn ddiweddar, cafwyd dau ddigwyddiad diogelwch pryderus yn ymwneud â'r gwasanaeth fasgwlaidd. Rydym yn ymchwilio i'r rhain er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o'r digwyddiadau hyn er mwyn gwella'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer ein cleifion. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld problemau gyda chapasiti staff ac rydym wrthi'n recriwtio i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Bydd tîm cryfach yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaeth y mae gan bobl gogledd Cymru hawl i'w ddisgwyl.

Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch a phrofiad ein cleifion. Tra ein bod yn parhau i benodi arbenigedd ychwanegol i gryfhau’r tîm, bydd nifer fach iawn o achosion fasgwlaidd cymhleth yn cael gofal arbenigol iawn gan ein cydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl. Rydym yn disgwyl i bedair gweithred frys ychwanegol yr wythnos gael eu cynnal yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl, yn hytrach nac yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd y trefniant hwn ar waith am bedair wythnos a chaiff ei adolygu’n ddiweddarach.

Mae hyn yn dilyn ein hymrwymiad cyhoeddus i gydweithio’n agosach â chydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl mewn ymateb i argymhellion adroddiad diweddar Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ynglŷn â’n gwasanaeth fasgwlaidd.

Bydd y rhan fwyaf o waith y gwasanaeth fasgwlaidd megis llawdriniaethau arferol, gweithredoedd diagnostig ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau yng ngogledd Cymru fel arfer. Bydd y mwyafrif o gleifion yn parhau i gael eu llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, ond rydym yn disgwyl gweld oedi i lawdriniaeth pum claf arall bob wythnos dros yr un cyfnod o bedair wythnos.

Yn ogystal, caiff rhyw 12 apwyntiad i gleifion allanol bob wythnos (rhyw 50 yn ystod y cyfnod yma o bedair wythnos) eu gohirio.

Byddwn yn cysylltu â phob claf i drafod eu gofal a chânt gymorth, yn ôl yr angen.

Mae gan ein Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion linell gymorth bwrpasol sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i gleifion fasgwlaidd a chyfle iddynt drafod eu profiadau, y driniaeth a’u gofal. Mae’n bosibl ffonio 03000 851389 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun hyd at ddydd Gwener ac eithrio dyddiau gŵyl y banc.

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydyn ni’n gweithredu ar argymhellion adroddiad diweddar Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ynglŷn â’r gwasanaeth fasgwlaidd. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio’n agosach â rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl ar achosion fasgwlaidd cymhleth.

“Rydyn ni’n disgwyl cryfhau capasiti a gallu’r tîm fasgwlaidd ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym hefyd yn ychwanegu mwy o feddygon ymgynghorol dros dro at ein rota ar alwad er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn ddiogel.

“Rydyn ni’n bod yn agored ac yn dryloyw am yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth hwn. Dyma’r unig ffordd y gallwn ni feithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Mae’n wirioneddol ddrwg gen i am yr oedi i driniaeth ein cleifion fasgwlaidd ac rydyn ni’n cydnabod y gallai achosi anghyfleustra a phryder. Diogelwch a phrofiad cleifion yw’r hyn sy’n sail i’r penderfyniad hwn, sy’n ddatrysiad dros dro tra byddwn ni’n rhoi camau ar waith i roi sicrwydd i ni’n hunain bod y capasiti a’r galluoedd cywir i’w cael yn y gwasanaeth.

“Rydyn ni’n hoelio’n sylw yn ddi-baid ar wneud y peth iawn ar gyfer ein cleifion a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ledled ein rhwydwaith yng ngogledd Cymru.

“Rydyn ni’n parhau’n bendant mai penderfyniad y Bwrdd i gyfuno’r gwasanaeth fasgwlaidd mewn model prif ganolfan a chanolfannau ategol oedd yr un cywir ac fe’i cefnogir gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon fel y trefniant gorau ar gyfer poblogaeth gogledd Cymru.”

15 Mawrth 2022

Fel rhan o'n gwaith parhaus i gryfhau rhai o'n gwasanaethau fasgwlaidd arbenigol, rydym wedi rhoi rhai mesurau newydd ar waith i gynorthwyo gyda llawdriniaeth fasgwlaidd aortig arbenigol, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth tîm amlddisgyblaethol gan Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Prifysgol Lerpwl (LUHFT) ar gyfer yr holl lawdriniaeth aortig
  • Dau feddyg ymgynghorol llawdrin ar gyfer yr holl lawdriniaeth aortig

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i roi argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar waith ar ein gwasanaeth fasgwlaidd, rydym yn parhau i gydweithio'n agos â rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl ar achosion fasgwlaidd cymhleth. Mae hyn yn cynnwys meddu ar arbenigedd ychwanegol pan fyddwn yn adolygu ac yn cynllunio gweithredoedd, yn ogystal â chymorth gan feddygon ymgynghorol arbenigol i gynnig gweithredoedd.

"Bydd yr ymagwedd gydweithredol hon yn caniatáu i ni roi cymorth mwy proffesiynol yn y tymor byr wrth i ni barhau â'n gwaith i atgyfnerthu gwasanaethau fasgwlaidd ar gyfer ein cyhoedd ar draws Gogledd Cymru.

"Byddwn yn parhau i adolygu'r ymagwedd hon a mesurau eraill yn gyson."

25 Chwefror 2022

Susan Aitkenhead
Mae Susan Aitkenhead wedi'i phenodi'n gadeirydd annibynnol Panel Ansawdd Fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r panel wedi'i sefydlu gan y Bwrdd mewn ymateb i'r canfyddiadau a geir mewn adolygiad o'i wasanaeth Fasgwlaidd, a gafodd ei gynnal gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS).

Cafodd adolygiad o wasanaeth Fasgwlaidd y rhanbarth, wedi'i gyflwyno mewn dwy ran, ei gomisiynu gan y Bwrdd mewn ymateb i adborth gan gleifion a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.

Roedd naw argymhelliad - pump ohonynt yn frys - o fewn ail ran yr astudiaeth, a oedd yn edrych ar nodiadau achos cleifion.

Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd y Bwrdd, Mark Polin, ei bod yn bryd cyflymu o ran y gwelliannau yn y gwasanaeth.

Er mwyn sicrhau bod modd arolygu'r broses yn drwyadl, mae wedi penodi Ms Aitkenhead fel cadeirydd annibynnol y Panel Ansawdd Fasgwlaidd.

Mae gan Susan Aitkenhead brofiad clinigol, gweithredol, llywodraethu a strategol eang mewn cynnig gofal iechyd ar draws amrywiaeth o leoliadau a sectorau.

Mae hi wedi cyflawni rolau gweithredol blaenorol ar lefel y Bwrdd yn y DU a thramor ac mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau polisi cenedlaethol.

Mae Ms Aitkenhead wedi gweithio yn yr Adran Iechyd, yn rhoi cyngor a chymorth i weinidogion a swyddogion ar draws adrannau llywodraeth ganolog, yn GIG Lloegr a NHS Improvement, lle bu'n Ddirprwy Brif Swyddog Nyrsio - ac ym maes rheoleiddio proffesiynol yn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Dywedodd Mr Polin: "Mae'n hollbwysig bod gan y cyhoedd yng Ngogledd Cymru hyder yn ein gwasanaethau fasgwlaidd. Wrth sefydlu'r panel hwn o dan gadeiryddiaeth annibynnol i oruchwylio'r gwaith yr ydym yn ei wneud, rwy'n bwriadu rhoi hyder i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'r cyhoedd yn ehangach.

"Mae pawb yn y Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gynnig gofal ardderchog. Wrth wneud penodiad mor bwysig ag un Susan Aitkenhead, i oruchwylio a gwirio ansawdd y gwaith yr ydym yn ei wneud o fewn gwasanaethau fasgwlaidd, rwy'n credu y gall ein cyhoedd gael sicrwydd ein bod o ddifrif am yr ymrwymiad hwnnw.

"Ni fyddwn yn anghofio fyth ein bod yma i wasanaethu cyhoedd Gogledd Cymru ac rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod ein Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaeth fasgwlaidd ardderchog ar eu cyfer."

Rhagor o wybodaeth: Cafodd model prif ganolfan a chanolfannau ategol, a argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ei roi ar waith yn 2019.

Mae'r model yn gofyn i safleoedd ategol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam gefnogi prif hwb fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bwriad yr hwb, wedi'i gynnal gan theatr lawdriniaeth hybrid o'r radd flaenaf, yw creu digon o waith i feddygon ymgynghorol yn y maes i gynnal eu cymwyseddau.

Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi argymell y model hwn, gan nad yw gwasgaru'r gwasanaeth dros dri safle acíwt yn caniatáu i feddygon ymgynghorol gwblhau lefel y gwaith sydd ei angen i barhau i fod yn gymwys yn broffesiynol.

Gellir darllen rhan gyntaf adolygiad RCS yma: Bwndel y Bwrdd Iechyd 20 Mai 2021 (nhs.wales)

Gellir edrych ar yr ail ran yma: Adroddiad ar 44 o gofnodion clinigol yn ymwneud â llawfeddygaeth fasgwlaidd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

21 Chwefror 2022
Llinell gymorth fasgwlaidd

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion wedi gweithredu llinell gymorth bwrpasol i roi cymorth ac arweiniad i gleifion fasgwlaidd a allai fod yn anfodlon ar eu profiadau, triniaeth a gofal. Byddent  yn gwrando, yn rhoi cymorth ac yn gweithredu ar eich pryderon.

Ffôniwch: 03000 851389  
Ar agor rhwng 9am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener, gan eithrio Gwyliau'r Banc.

3 Chwefror 2022

Adroddiad Adolygu Cofnod Clinigol yn ymwneud a llawfeddygaeth fasgwlaidd Ionawr 2022, PDF

Ymateb y Bwrdd Iechyd i'r adroddiad:

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Mae'r adroddiad hwn yn rhoi adborth gwerthfawr i ni gan adolygwyr arbenigol ac rydym eisoes wedi gweithredu arno er mwyn gwella'r gofal a roddwn i'n cleifion.

"Gofynnodd y Bwrdd Iechyd am yr adolygiad yn 2020 fel rhan o'i wiriadau ei hun a ffyrdd o fesur safonau a gofal yn y gwasanaeth ac mae'n rhoi'r pwys mwyaf ar hyn a'r adroddiad cynharach. Rydym yn cydnabod nad yw'r gwasanaeth yr ydym wedi'i roi ar waith bob amser yn cyflawni'r safon uchel y mae ein cleifion yn ei haeddu. Hoffem ymddiheuro i'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnynt.

"Ers i mi ymuno â'r Bwrdd Iechyd, mae wedi dod yn amlwg iawn i mi fod angen cryn dipyn o waith er mwyn ein galluogi i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n cleifion fasgwlaidd ar draws rhwydwaith Gogledd Cymru.

"Rwy'n bryderus iawn i nodi canfyddiadau'r adolygiad mewn perthynas ag ansawdd a chysondeb gofal a roddir - mae'n rhaid i ni wella".

"Rwy'n sicr mai penderfyniad y Bwrdd i gyfuno'r gwasanaeth yn fodel prif ganolfan a chanolfannau ategol oedd yr un cywir a dyna'r hyn a ffafrir gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon fel yr opsiwn gorau i Ogledd Cymru.

"Dylid nodi bod yr adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod o 2014 hyd at fis Gorffennaf y llynedd, felly nid yw hyn o reidrwydd yn ddarlun o ble'r ydym arni erbyn hyn ac mae rhai gwelliannau eisoes wedi cael eu gwneud.

"Er mwyn sicrhau bod gwelliannau'n cael eu hymgorffori i'n ffyrdd o weithio, rwyf wedi dechrau archwiliad o nodiadau a dogfennaeth cleifion yn ymwneud â chydsyniad cleifion ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynnull panel hefyd i oruchwylio adolygiad o nodiadau clinigol. Mae'r broses hon wedi dechrau.

"Mae ein cynllun gwella gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael ei ddiwygio a'i atgyfnerthu er mwyn gyrru'r cynnydd gwirioneddol sydd ei angen yn ei flaen, gan gynnwys y gwaith i sicrhau bod cleifion fasgwlaidd yn derbyn y gofal mwyaf priodol a phrydlon.

"Rydym wedi buddsoddi mewn theatr hybrid o'r radd flaenaf a thîm fasgwlaidd amlddisgyblaethol ymroddedig, ac rydym yn parhau i recriwtio i'r tîm. Bydd cydweithwyr newydd yn dechrau yn eu swyddi dros yr wythnosau sydd i ddod er mwyn atgyfnerthu'r tîm presennol ar draws rhwydwaith Gogledd Cymru.

"Ond, yn unol â chasgliad yr adroddiad, mae'n rhaid i ni gyfathrebu ar draws safleoedd a thimau'n fwy rheolaidd ac yn fwy effeithiol er mwyn gwella penderfyniadau i bob claf.

"I helpu gyda hyn, rydym yn buddsoddi mewn hyfforddiant i feithrin a gwella perthnasau gwaith ac rydym yn ystyried y posibilrwydd o gydweithio'n agosach â rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl."

Nodyn am y cefndir - Gofynnodd y Bwrdd Iechyd i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon adolygu gwasanaethau fasgwlaidd ac mae wedi cwblhau adroddiad dau gyfnod yn ymwneud â'r gwasanaeth. Mae'r adroddiad hwn yn ategu at yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021 ac mae'n ychwanegu at yr adborth gan adolygwyr arbenigol.

14 Mai 2020

Dywedodd yr Athro Arpan Guha, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro:

“Rydym yn falch o gael rhan gyntaf yr adolygiad annibynnol i wasanaethau fasgwlaidd y gofynnodd y Bwrdd amdano gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac yn diolch i’r Coleg am ei waith yn creu’r adroddiad dan yr amodau anodd oherwydd COVID-19. Mae hyn wedi rhoi persbectif gwrthrychol ar ein gwasanaeth ac rydym yn croesawu ei ddarganfyddiadau ac argymhellion. Rydym yn aros am adborth pellach gan y Coleg yn seiliedig ar eu hadolygiad annibynnol o 50 cyfrol o nodiadau cleifion.

“Mae’r adolygiad yn ailadrodd y natur frys y mae’n rhaid i ni weithredu i sefydlu model priodol prif ganolfan a changhennau er mwyn osgoi peryglu diogelwch cleifion, a oedd yn risg arwyddocaol ar y pryd. Rydym yn falch bod yr ymrwymiad llethol gan bawb oedd yn rhan o wella’r gwasanaeth wedi cael ei gydnabod a bod “sylfaen rhagorol” yn ei le i barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru.

“Dywed yr adroddiad bod gan y gwasanaeth bellach drefniant llawfeddygol ar-alwad cadarn, llwybrau priodol ar gyfer ymyriadau fasgwlaidd brys a chymhleth a dim “baneri coch” o ran marwoldeb, aildderbyniadau a hyd arhosiad.

“Mae’r adolygiad hefyd wedi rhoi cyfle i ni adolygu ac egluro’r gwaith pellach sydd angen ei gwblhau i gyflawni’r gwasanaeth eithriadol y mae arnom ei eisiau ac mae ein cleifion a’n cymunedau’n ei haeddu.

“Rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith, yn enwedig i barhau i ddatblygu ein llwybrau ar gyfer cleifion fasgwlaidd a diabetig fel y gallwn ddarparu’r canlyniadau gorau yn y lle iawn.

“Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd priodol ym mhob un o’r tri ysbyty llym yng Ngogledd Cymru. Mae gwaith ar y gweill i gryfhau darpariaeth gwasanaethau yn ein safleoedd cangen, yn ogystal â gwaith tîm drwy ein rhwydwaith fasgwlaidd.

“Fel mae’r adroddiad yn cydnabod, mae cynnydd eisoes wedi’i wneud i ymdrin â llawer o’r gwelliannau y tynnwyd sylw atynt. Mae cynrychiolwyr cleifion a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn dal i gymryd rhan yn ein gwaith i barhau â’r gwelliannau hyn, ac edrychwn ymlaen at ymdrin yn gyflym â’r materion a godwyd yn yr adolygiad.”

 

21 Mai 2020

Heddiw, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarfod Bwrdd rhith. Oherwydd arweiniad y llywodraeth, nid oedd yn bosibl cynnal y cyfarfod yn gyhoeddus, fel sy'n arferol. Yn anffodus, oherwydd problemau technegol, nid oedd yn bosibl ffrydio’r cyfarfod yn fyw fel y bwriadwyd. Rydym yn ymddiheuro i’r rhai na allodd wylio’r cyfarfod. Fe wnaethom recordio’r cyfarfod a bydd ar gael drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Ar yr agenda oedd adolygiad y Bwrdd Iechyd o'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru yn dilyn aildrefnu’r gwasanaethau ym mis Ebrill 2019. Mae’r model newydd yn rhwydwaith fasgwlaidd integredig gydag Ysbyty Glan Clwyd fel y safle unigol ar gyfer llawfeddygaeth rydwelïol fawr. Mae clinigau fasgwlaidd, ymchwiliadau, diagnosteg, mynediad fasgwlaidd a thriniaethau gwythiennau faricos yn cael eu darparu ym mhob un o’r tri ysbyty cyffredinol dosbarth.

Cyflwynwyd yr adolygiad gan y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dr David Fearnley a'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gill Harris.

Eglurwyd sut mae buddsoddiad sylweddol mewn staff ac adnoddau ychwanegol, yn cynnwys datblygu theatr hybrid newydd gwerth £2.3m yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cefnogi sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd modern, sefydlog, addas i bwrpas ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.

Dywedodd Dr David Fearnley: "Rydym yn cydnabod bod aildrefnu'r gwasanaeth hwn wedi peri pryder ymhlith rhai ac rydym wedi cyhoeddi adolygiad a chynllun gweithredu i fod yn agored a chlir am y gwelliannau pellach sydd eu hangen.  Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â heriau presennol i sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn cael gwasanaeth teg, diogel, o ansawdd uchel.

"Mae ein buddsoddiad yn y model newydd hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi ei lywio a’i gefnogi gan Gymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, wedi ein galluogi i recriwtio wyth meddyg ymgynghorol fasgwlaidd. Golyga hyn fod gennym bellach rota ar-alwad 24/7 gynaladwy i gleifion sydd angen gofal brys, nad oedd gennym cyn hynny.

"Mae llwybrau clinigol ar gyfer ystod o gyflyrau wedi cael eu rhoi ar waith a'u gwella, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud, yn enwedig i reoli cleifion â phroblemau traed oherwydd diabetes.

"Cyn aildrefnu’r gwasanaeth, roedd amseroedd aros ar gyfer rhai triniaethau, yn cynnwys triniaethau at ymlediad aortaidd, yn anghyson ar draws y Bwrdd Iechyd gan fod achosion yn cael eu trafod yn lleol. Bellach, mae cyfarfod tîm wythnosol, amlddisgyblaethol Gogledd Cymru gyfan ar gyfer rheoli pob achos cymhleth, sy'n bodloni gofynion Rhaglen Cymru ar gyfer Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen."

Ychwanegodd Gill Harris: “Mae sefydlu ac ymgorffori unrhyw wasanaethau newydd a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio yn cymryd amser ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynnydd pellach yn cael ei wneud. Rydym yn falch o weld tystiolaeth o hyfforddiant tîm amlddisgyblaethol a rhannu dysg ar draws y gwasanaeth a chynhelir cyfarfodydd llywodraethu cyson i sicrhau bod materion a risgiau clinigol yn cael eu trafod yn  agored a gonest. Mae hyn yn arwydd o newid mewn diwylliant yn y gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion y cleifion a'r gwasanaeth.

"Rydym yn croesawu'r adborth ar y gwasanaeth a gasglwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned yn dilyn eu digwyddiadau ymgysylltu ac rydym yn cydnabod bod eu hadroddiad yn tynnu sylw at rai materion rydym yn eu cymryd o ddifri ac wedi ymrwymo i ymdrin â nhw.  Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned. 

“Rydym wrthi'n ymgysylltu â staff a chleifion i wrando a dysgu o'u profiadau, a gweithredu arnynt i wneud gwelliannau pellach."

Cymeradwyodd y Bwrdd sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan gadeiryddiaeth Dr Fearnley, i oruchwylio gweithredu argymhellion yr adolygiad i wasanaethau fasgwlaidd ac i ystyried y cynllun gweithredu drafft i ddynodi camau pellach ac argymell prif ddangosyddion perfformiad. 

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gomisiynu asesiad allanol, annibynnol, amlddisgyblaethol o'r Gwasanaeth Fasgwlaidd Gogledd Cymru a ddarperir ar draws y Bwrdd Iechyd i asesu ansawdd a diogelwch y gwasanaeth a chanlyniadau cleifion. Hoffai’r Bwrdd i’r gwaith hwn ddechrau cyn gynted â phosibl a bydd yn archwilio amserlenni, fydd yn ddibynnol ar argaeledd aseswyr arbenigol yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r adolygiad llawn ac atodiadau ar gael ar ein gwefan yma.

24 Chwefror 2020

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol BIPBC Dr David Fearnley:

“Mae buddsoddiad sylweddol mewn staff ac adnoddau ychwanegol, yn cynnwys datblygu theatr hybrid newydd gwerth £2.3m yn golygu bod gennym bellach wasanaeth fasgwlar sefydlog, modern, addas i bwrpas.

“Dan y model gwasanaeth blaenorol, roedd yn rhaid i gleifion sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn Ynys Môn a Gwynedd deithio i Wrecsam am lawfeddygaeth fasgwlar brys am hanner yr wythnos.

“Cydnabyddir yn eang bod y model gwasanaeth blaenorol dan ormod o bwysau ac nad oedd yn bodloni canllawiau cenedlaethol. Heb newid y gwasanaeth, ni fyddem wedi gallu recriwtio meddygon yn y dyfodol, fyddai wedi golygu y byddem wedi colli’r gwasanaeth yn gyfan gwbl o Ogledd Cymru.

“Rydym wedi penodi saith meddyg ymgynghorol fasgwlar ers symud ymlaen i newid y gwasanaeth, a bellach mae gennym rota ar-alwad sefydlog sy’n gallu gofalu am gleifion sydd angen gofal brys."

Mawrth 2019

O 10 Ebrill 2019 ymlaen, bydd Ysbyty Glan Clwyd yn ganolfan redwelïol ar gyfer y rhwydwaith fasgwlaidd, a bydd yn darparu pob llawdriniaeth redwelïol frys a dewisol ac ymyriadau endofasgwlaidd cymhleth. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi penodi staff clinigol, wedi agor ward redwelïol ychwanegol wedi'i neilltuo a theatr hybrid o'r radd flaenaf. 

Bydd y rota brys meddygon ymgynghorol fasgwlaidd 24 y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn rhedeg o Ysbyty Glan Clwyd. Ar hyn o bryd mae'n cael ei gynnal o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam bob yn ail. Yn syml, ar hyn o bryd mae gofal brys ar gael yn Wrecsam am hanner yr wythnos, ac ym Mangor am hanner yr wythnos.  Drwy leoli'r nifer bach o achosion brys mewn un safle, bydd yn golygu bod gan bawb fynediad cyfartal at yr arbenigedd gorau, dim ots lle maen nhw'n byw yng Ngogledd Cymru.

Bydd llawfeddygon ymgynghorol yn parhau yn y tri ysbyty llym; Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd, a byddant yn darparu'r gwasanaethau clinigol canlynol: clinigau fasgwlaidd, diagnosteg, ymyriadau yn cynnwys mynediad arennol a thriniaeth gwythiennau chwyddedig, adolygu cyfeiriadau fasgwlaidd cleifion mewnol, ac adsefydlu.  Bydd angioplasti ymylol a gosod stent fel achos dydd yn parhau ar bob safle.  

Pam mae'r gwasanaeth yn newid?

  • Mae'r gwasanaeth, fel y mae ar hyn o bryd, wedi ei ymestyn ormod ac nid yw'n bodloni canllawiau cenedlaethol
  • Mae tystiolaeth o lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig yn dangos bod canlyniadau clinigol yn gwella mewn llefydd lle mae mwy o driniaethau'n digwydd
  • Heb newid y gwasanaeth, ni fyddwn yn gallu recriwtio meddygon yn y dyfodol, sy'n golygu y byddem yn colli'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru yn gyfan gwbl
  • Ar ôl ymrwymo i fodel gwasanaeth newydd, rydym wedi recriwtio chwe meddyg ymgynghorol fasgwlaidd newydd, yn ogystal â llawer o staff clinigol eraill. Mae hyn yn golygu y bydd gennym rota ar alwad cynaliadwy i gleifion sydd angen gofal brys

Ydy'r gwasanaethau arennol yn symud?

  • Nid yw'r gwasanaethau arennol, gan gynnwys dialysis llym, yn symud o'r safleoedd lle maen nhw'n cael eu darparu ar hyn o bryd - Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alltwen, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
  • Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd fuddsoddiad newydd gwerth miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau arennol ar draws Gogledd Cymru, a fydd hefyd yn cynnwys datblygu uned ategol newydd yn yr Wyddgrug.

Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi cyfeirio at y peryglon os na fydd cleifion yn cael eu gweld yn yr "awr euraidd"  

  • Nid yw'r cysyniad o'r "awr euraidd" yn cael ei ddefnyddio fel arfer mewn perthynas â chleifion sydd angen gofal fasgwlaidd brys
  • Ar gyfer cleifion sy'n dioddef o ddigwyddiad fasgwlaidd brys mawr fel rhwyg aortig mawr, heb ymyriad arbenigol bron ar unwaith nid yw’r rhagolygon o ran goroesi yn dda iawn, dim ots pa mor gyflym caiff y claf ei drosglwyddo i'r ysbyty 
  • Os bydd claf yn rhy wael i deithio, bydd darpariaeth ar gael i lawfeddyg ar alwad deithio ato i roi triniaeth iddo
  • Bydd yr holl gleifion rhedwelïol brys eraill yn cael eu sefydlogi yn eu hysbyty cyffredinol dosbarth agosaf cyn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth. 

Pwy gefnogodd y penderfyniad a wnaed gan y bwrdd ym mis Ionawr 2013?

  • Mae'r datblygiad yn dilyn arweiniad gan, ac yn cael ei gefnogi gan:
    • Coleg Brenhinol y Llawfeddygon
    • Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon
    • Rhaglen Sgrinio yng Nghymru ar gyfer Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen                 
    • Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
    • LMC Gogledd Cymru

Adnoddau defnyddiol    

• Llythyr agored gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, cyhoeddwyd 4 Mawrth