Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad gan Archwilio Cymru yn ymwneud â gweithrediad y Bwrdd

Mae adroddiad gan Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn galw am gamau gweithredu brys i wella perthnasau gwaith gyda'r bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wrth i ni barhau i wynebu heriau digynsail oherwydd y galw am wasanaethau a phryderon hirdymor ynghylch perfformiad, ansawdd a diogelwch nifer o wasanaethau penodol, mae'n hollbwysig bod ein Bwrdd yn gweithio mewn ffordd gydlynol ac unedig er mwyn gallu gyrru'r gwelliannau sydd eu hangen yn eu blaen. Mae'r adroddiad wedi nodi camau gweithredu dybryd sy'n angenrheidiol i wneud hyn, yn eu tyb nhw.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r Bwrdd ac nid yw'n feirniadaeth o'r staff diwyd sy'n gofalu am ein cleifion o ddydd i ddydd. Tasg y Bwrdd, gyda chymorth gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd, yw cydweithio i gynllunio'r daith sydd o'n blaen.

Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r sylwadau a'r argymhellion a amlinellwyd gan Archwilio Cymru.

"Gallaf gadarnhau ymrwymiad y Bwrdd i fynd â'r argymhellion yn eu blaen, a byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru i wneud hynny.

"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn ymwybodol o'r rhan fwyaf o'r materion a gododd yn adroddiad Archwilio Cymru, a oedd yn rhannol gyfrifol am benderfyniad i gomisiynu rhaglen datblygu pwrpasol ar gyfer y Bwrdd gyda Chronfa'r Brenin i fynd i'r afael ag effeithiolrwydd a pherthnasau yn 2020.

"Siom o'r mwyaf yw'r ffaith nad yw ymyriadau mewnol blaenorol wedi arwain at welliannau angenrheidiol mewn perthynas â Bwrdd effeithiol, a dyna'r hyn y mae cleifion a'r boblogaeth yng ngogledd Cymru yn ei haeddu er mwyn darparu a derbyn gwasanaethau diogel ac effeithiol.

"Bydd y Bwrdd yn derbyn yr adroddiad a chynllun gweithredu arfaethedig, i gael ei ddatblygu gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi, ond bydd yr ymatebion gofynnol yn dechrau ar unwaith.

"Yn hyn o beth, mae nifer o gamau gweithredu eisoes ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r materion difrifol a ganfuwyd yn yr adroddiad, ac mae cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â meysydd allweddol fel recriwtio'r Prif Swyddog Gweithredol, sydd ar y gweill gyda'n partner recriwtio o ddewis ar hyn o bryd."

Gallwch darllen yr adroddiad llawn ar wefan Archwilio Cymru