Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion i elwa ar ystafelloedd delweddu newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam

08/09/2022

Bydd ystafelloedd Radioleg Ymyriadol newydd yn helpu i leihau nifer y sganiau sydd eu hangen ar gleifion cyn gweithred.

Mae'r ystafelloedd newydd yn yr Adran Radioleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael eu hailfodelu gan gynnwys gosod peiriant braich C Artis newydd, sef peiriant pelydr-X o'r radd flaenaf sy'n cynnig delweddau o ansawdd gwell ynghyd â dos is o ymbelydredd.

Dywedodd Steve Roberts, Rheolwr Gwasanaethau Radioleg: "Bydd ailddatblygu man Radioleg Ymyriadol ynghyd â gosod yr offer newydd hwn, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bob un o'n cleifion sy'n defnyddio ein gwasanaeth Radioleg Ymyriadol."

Bydd meddalwedd newydd sydd wedi'i chynnwys gyda'r system yn lleihau'r angen i gleifion gael delweddu CT neu MRI ychwanegol cyn llawdriniaeth, gan fod modd mewnfudo sganiau blaenorol i'r system newydd a'u defnyddio i arwain y Radiolegwyr Ymyriadol yn ystod gweithredoedd.

Dywedodd Vicky Jackson, Arweinydd y Gwasanaeth Radioleg Ymyriadol: "Bydd yr offer newydd o fudd i gleifion ar draws is-arbenigeddau sy'n cyflwyno angioplasteg fasgwlaidd yn lleol, gweithred i adfer llif y gwaed i'r rhydwelïau, cynorthwyo'r gwasanaeth orthopaedig gyda phigiadau yn y cymalau i leddfu poen, mewnosod rheolyddion calon ac ystod lawn o wasanaethau ymyrraeth acíwt ar gyfer cleifion wroleg a gastroberfeddol.

"Hoffem ddiolch i'r timau Radioleg Ymyriadol a'r timau radioleg ehangach am barhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod sylweddol o waith adeiladu."

Mae'r sganiwr braich C Artis newydd yn rhan o raglen gwerth sawl miliwn o bunnau i brynu offer newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chynnal yn y gwasanaeth radioleg ar draws Gogledd Cymru, sy'n cynnwys ystafelloedd Pelydr-X, sganwyr a pheiriannau uwchsain.

Mae'r ysbyty wedi gosod sganiwr MRI modiwlaidd newydd y tu allan i'r Adran Radioleg hefyd. Mae'r adeilad modiwlaidd newydd yn cynnwys uwch sganiwr MRI hefyd. Bydd y sganiwr ar y safle am chwe mis a bydd yn helpu i gynnig sganiwr MRI tra bo'r sganiwr presennol yn cael ei uwchraddio, a bydd yn gwella capasiti sgrinio i leihau rhestrau aros a chyflymu diagnosis a thriniaeth.

Yn gynharach eleni, derbyniodd yr adran radioleg gamera gama newydd o'r radd flaenaf hefyd, sef dyfais ddelweddu sy'n sganio rhannau o'r corff, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r organau mawr fel yr ymennydd, yr ysgyfaint a'r esgyrn. Mae'r camera, sy'n cymryd lle'r hen ddyfais ddelweddu, yn sganio'n gyflymach, yn creu delweddau mwy eglur, ac yn cynnig dos is o ymbelydredd, a fydd yn helpu i gyflymu diagnosisau cleifion yn y pen draw.