Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl MI FEDRAF, a ddatblygwyd gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn y GIG yn rhoi trosolwg o broblemau iechyd meddwl cyffredin yn ogystal ag arweiniad arfer gorau ar sut i wrando, rhoi cyngor defnyddiol, a gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun.
Mae wedi cael ei gyflwyno drwy ein hymgyrch MI FEDRAF, sydd â'r nod o roi cymorth yn gynt i bobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl, grymuso pobl i gymryd yr awenau o ran rheoli eu hiechyd meddwl, ac annog sgyrsiau agored am y pwnc.
Mae'r hyfforddiant yn agored i unrhyw un a fyddai'n hoffi gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl.
Bydd yr hyfforddiant yn cymryd oddeutu tair awr i'w gwblhau.
Ni fyddwch yn cael cymhwyster ffurfiol, ond byddwch yn cael tystysgrif, bathodyn a sticer i'r ffenestr a fydd gobeithio'n ffordd o hyrwyddo sgyrsiau agored, onest a gwybodus o ran iechyd meddwl gyda ffrindiau, aelodau teulu a chydweithwyr.
Darperir yr hyfforddiant wyneb yn wyneb (dim drwy e-ddysgu ar y cam hwn) a gobeithiwn i ddarparu sesiynau rheolaidd ar draws bob chwe sir yng Ngogledd Cymru. Efallai y byddai'n bosibl i ni ddarparu'r hyfforddiant yn eich gweithle, os oes gennych nifer fawr o weithwyr.
Byddem yn ddiolchgar am awgrymiadau am leoliadau ble gellir darparu'r hyfforddiant yn rhad neu am ddim, er mwyn ein galluogi i barhau i gynnig hwn.
Mae gennym sawl cyfle gwirfoddoli ar gael. Gellir rhoi mwy o wybodaeth yn ystod yr hyfforddiant i unrhyw un sydd â diddordeb cael mwy o wybodaeth.