Ffurflen Bryderon

0%

1. Rhagarweiniad

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw rhoi'r driniaeth a’r gofal gorau posibl ac mae'n bwysig i ni groesawu sylwadau a'n bod yn dysgu gan brofiadau pobl, boed nhw'n dda neu'n ddrwg. O bryd i'w gilydd, pan na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl, mae angen i ni edrych ar beth aeth o'i le a beth y gallwn ei wneud i wella hyn.

Llenwch y ffurflen isod os nad ydych yn fodlon ar y driniaeth a'r gofal a gynigiwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu os bydd gennych unrhyw bryderon eraill y dylem gael gwybod amdanynt. Trwy roi gwybod i ni am eich pryder, gallwn ymddiheuro i chi, ymchwilio a cheisio unioni pethau. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi ac yn gwella gwasanaethau lle mae angen i ni eu gwella.

Mae rhai pethau na allwn ddelio â nhw, fel:

-Triniaeth neu ofal iechyd preifat (gan gynnwys triniaeth ddeintyddol preifat)
- Cŵyn a gafodd ei gwneud a'i hymchwilio o dan y trefniadau a oedd ar waith cyn 1 Ebrill 2011
- Gellir rhoi gwybod am fater sy'n peri pryder heb fod yn hwyrach na 12 mis o:
- Y dyddiad y digwyddodd y pryder, neu
- Os yw'n ddiweddarach, 12 mis o'r dyddiad y gwnaeth yr unigolyn a oedd yn codi'r pryder sylweddoli bod ganddo bryder i’w godi


Os hoffech chi gymorth neu arweiniad gan y Cyngor Iechyd Cymuned, gallwch gael mwy o wybodaeth amdanynt a sut gellir cysylltu â nhw yma.


Hysbysiad preifat SmartSurvey

Ni fydd SmartSurvey, o dan unrhyw amgylchiadau, yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir trwy arolygon ein haelodau mewn unrhyw ffordd. Yn ogystal, byddwn yn cadw unrhyw ddeunydd arall a roddwch i ni (gan gynnwys delweddau, cyfeiriadau e-bost ac ati) yn gwbl gyfrinachol. Caiff yr holl ddata ei storio ar ein gweinyddion yn y DU/UE. Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi sy'n golygu bod modd eich adnabod yn bersonol oni fyddwch yn rhoi'r wybodaeth hon i ni o'ch gwirfodd. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei chynnal mewn amgylchedd diogel.

Gallwch weld gwybodaeth SmartSurvey am breifatrwydd a diogelwch yma.