Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gofalu am eich lles corfforol

Cadw’n egnïol

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymarfer corfforol yn newid cemeg eich ymennydd ac yn rhyddhau hormonau “hapus”, sydd yn eu tro’n gallu gwneud i chi deimlo’n fwy cadarnhaol.

Felly mae cadw’n egnïol yn fwy pwysig nag erioed. Gellir gweld y canllawiau diweddaraf trwy'r ddolen ganlynol https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau?_ga=2.234329435.475449824.1595336382-294593203.1591956325

Mae hawl gennych chi i fynd am dro, i redeg, neu i feicio yn yr awyr agored unwaith y dydd, os ydych chi’n cadw pellter o ddwy fetr oddi wrth bobl eraill. Hyd yn oed os nad oes awydd arnoch chi, gwnewch eich gorau i wneud hyn yn rhan o’ch trefn ddyddiol.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Cadw’n egnïol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bwyta’n dda gartref ac yfed digon o ddŵr

Mae cynllunio prydau a byrbrydau iach yn bwysicach nag erioed er mwyn ein cadw’n iach a rhoi hwb i’n system imiwnedd. Yn ogystal â chadw’r pwysau i lawr, mae yfed digon o ddŵr a bwyta deiet cytbwys sy’n cynnwys amrywiaeth o fwydydd yn gallu gwella eich hwyliau hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Bwyta’n dda gartref Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Alcohol

Efallai eich bod wedi sylwi eich bod yn yfed mwy ers gorfod aros gartref. Gall lleihau faint o alcohol rydyn ni’n ei yfed i gyd-fynd â’r canllawiau cyfredol eich helpu i roi hwb i’ch system imiwnedd, i gysgu mwy ac i wella eich hwyliau. Gall alcohol effeithio ar rai o’ch meddyginiaethau hefyd, a’u rhwystro rhag gweithio’n iawn.

Does dim lefel ‘saff’ o ran yfed alcohol. Felly rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw at y canllawiau cyfredol:

  • Yfed llai na 14 uned yr wythnos
  • Ymestyn unrhyw alcohol rydych chi’n ei yfed dros dri diwrnod neu fwy
  • Os ydych chi’n feichiog, neu ei bod hi’n bosib eich bod chi, y peth mwyaf diogel yw peidio ag yfed o gwbl

I gael mwy o wybodaeth am sut gallwch chi wirio faint rydych chi’n ei yfed, ac am amrywiaeth o awgrymiadau i’ch helpu chi i leihau faint rydych chi’n ei yfed, dilynwch y ddolen i dudalen Alcohol  Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysmygu

Mae ysmygwyr mewn perygl uwch o ddal COVID-19 gan fod eu hysgyfaint yn wanach, a bod eu dwylo’n dod i gysylltiad â’u ceg yn amlach. Drwy roi’r gorau i ysmygu, gallwch chi wella effeithlonrwydd eich ysgyfaint a rhoi gwell siawns i’ch hun o wella o COVID-19.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i dudalen Ysmygu Iechyd Cyhoeddus Cymru.