Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Iach yn ystod COVID-19

Mae’n hollol normal teimlo’n ansicr a phryderus ynglŷn â beth gallai pandemig y COVID-19 olygu i chi a’ch teulu.

Ond mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud i gadw’ch hun yn iach yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gofalu amdanoch chi eich hun yn gorfforol ac yn feddyliol nid yn unig yn eich helpu i deimlo’n well ac yn fwy cadarnhaol, ond hefyd yn gwneud yn siŵr bod gennych chi’r siawns orau bosib o wella’n llawn o COVID-19 pe baech chi’n ei ddal.

Mae’r tudalennau canlynol wedi cael eu datblygu fel ffynhonnell ddibynadwy ac ymarferol o gymorth a gwybodaeth. Byddant yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd.

Ar ben hynny, mae microwefan ‘Aros yn Iach Gartref’ Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth a chyngor ar ofalu amdanoch chi eich hun a’ch anwyliaid yn ystod y cyfnod hwn o ynysu.