Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Y Waun

Cyfeiriad: Oddi ar Stryd John, Y Waun, LL14 5LN
Rhif Ffôn: 03000 850 003

Gwasanaethau Ysbyty

  • Ffisiotherapi cleifion mewnol ac allanol
  • Gwelyau cleifion mewnol
  • Yr arbenigeddau cleifion mewnol ydy Gofal yr Henoed a Gwelyau Meddygol Meddygon Teulu
  • Hwylusydd rhyddhau i gefnogi teulu a gofalwyr wrth gynllunio i ryddhau
  • Cydlynwyr ymweld gofal iechyd meddwl
  • Therapi Galwedigaethol
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Wroleg
  • Fflebotomi (ar agor 8.30am - 12pm dydd Llun i ddydd Gwener, ond ddim ar wyliau banc, apwyntiad yn unig, ffoniwch 03000 850 003 i wneud apwyntiad.)
  • Uned Asesu a Thrin (Grŵp Clefyd Parkinson, Atal Codymau, Rhaglen Iechyd a Lles ar gyfer Colli Cof Cynnar)
  • Awdioleg
  • Clinigau Meddygon Ymgynghorol i Gleifion Allanol
  • Clinigau Nyrsys Arbenigol i Gleifion Allanol
  • Uwchsain
  • Y Tîm Nyrsys Diabetig
  • Adran Uwchsain: Dydd Llun:- 8am-8pm, Dydd Iau- 8am-8pm

Cyfleusterau

Diod poeth ar gael o’r peiriant gwerthu.

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffyrdd: I gael cyfarwyddiadau, ewch i streetmap.co.uk

Ar y trên: Mae’r ysbyty tua milltir a hanner o Orsaf y Waun. Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info

Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info