Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Treffynnon

Cyfeiriad: Ffordd Halkyn, Treffynnon, CH8 7TZ
Rhif Ffôn: 03000 850 008

Gwasanaethau Ysbyty

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Gwybodaeth am Wardiau

Cyfleusterau

  • Bar te Cyfeillion Da
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Llety en-suite i berthnasau  

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffyrdd: Gallwch gyrraedd yr ysbyty drwy adael yr A55 (gorllewin) ar gyffordd Treffynnon a dilyn y ffordd tuag at ganol y dref. Trowch i’r dde yn y gyffordd ar ôl Gwesty Samford Gate a throwch i’r dde yn y goleuadau traffig. Mae’r ysbyty ar y dde.

O’r A55 (dwyrain) ar droad Treffynnon, yn y gylchfan, dilynwch yr arwyddion am Dreffynnon. Mae’r ffordd yn troi i’r dde yng nghanol y dref, yna trowch i’r chwith yn y gyffordd ar ôl y goleuadau traffig, ewch ymlaen i’r goleuadau traffig nesaf a throwch i’r dde. Mae’r ysbyty ar y dde.

Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd bob dydd.  Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info