Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Cyffredinol Llandudno

Cyfeiriad: Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ffordd yr Ysbyty, Llandudno, Conwy, LL30 1LB
Rhif ffôn: 03000 850 013

Gwasanaethau Ysbyty

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Gwybodaeth am Wardiau

  • Ward Aberconwy  - 03000 852050
  • Ward Beuno - 03000 852086
  • Ystafelloedd Therapi Mewnwythiennol - 03000 851897
  • Ward Llewelyn - 03000 851932
  • Ward Morfa - 03000 851 941/ 03000 851942

Cyfleusterau

Mae troli ar gael bob dydd, gyda chymorth WRVS a darperir gwasanaeth bar te yn ystod Clinigau Cleifion Allanol.

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffordd: Gadewch yr A55 yng nghyffordd 18 (Cyffordd Llandudno). Gan fynd heibio Tesco ar y chwith, cymerwch yr ail allanfa wrth y gylchfan (tuag at Ddeganwy). Gyrrwch ar hyd yr A546 tuag at Landudno, mae'r ysbyty wedi'i leoli ar y dde y tu ôl i Glwb Golff Maesdu.

Ar y trên: Mae'r ysbyty wedi'i leoli ryw 10 munud ar droed o Orsaf Llandudno. I gael gwybodaeth am deithio ar y trên, ewch i: Traveline Cymru

Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd i safle'r ysbyty. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Traveline Cymru