Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Ymweld Mamolaeth

Trefniadau ymweld Pediatreg, Newydd anedig Ychwanegol, wardiau cyffredinol â Adrannau Achosion Brys.

Mae ein hysbytai yn hollol ddi-fwg: Gwybodaeth i ddiogelu ein cleifion, ein staff, a'n hymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu.

Gall y sefyllfa mewn unrhyw leoliad gofal iechyd newid yn gyflym. Er diogelwch ein babanod, cleifion, ymwelwyr a staff, efallai y caiff cyfyngiadau eu hail-gyflwyno ar fyr rybudd. Byddwn yn parhau i gael ein llywio gan gyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, niferoedd derbyniadau COVID-19, achosion ysbyty, Polisi Atal a Rheoli Heintiau ac asesiadau risg lleol.

I wneud cais am wybodaeth bellach am sut yr ydym yn asesu trefniadau ymweld ar gyfer mamolaeth, gallwch gysylltu yma.   

Genedigaeth

Caiff hyd at ddau bartner geni fod yn bresennol yn ystod y cyfnod esgor.

Ymweld â chleifion mewnol mamolaeth

Ymweliadau agored

 Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall os na all y partner geni fynychu, ymweld â'r wardiau cyn-geni/ôl-enedigol ar unrhyw amser rhwng 9am hyd 8pm yn ddyddiol, nid oes angen trefnu. Mae croeso hefyd i frodyr neu chwiorydd y babi fynychu ynghyd â'r partner geni unigol neu unigolyn enwebedig arall yn ystod y cyfnod hwn i gwrdd â'r aelod(au) newydd o'r teulu.

Amser gorffwys

Rhwng 12pm a 2pm, rydym yn anelu at roi amser i famau a babanod orffwys a gofynnwn i bartneriaid geni unigol ac unigolion enwebedig sy'n bresenol, barchu'r amser yma.

Ymweliadau cyffredinol

Mae ymweliadau cyffredinol ar gael o 2pm hyd 4pm ac o 6pm hyd 8pm (dim angen trefnu), ar gyfer hyd at ddau ymwelydd ar un amser wrth erchwyn y gwely oni bai bod amgylchiadau arbennig. Mae'r cyfyngiad ar y nifer o bobl a ganiateir wrth erchwyn y gwely yn parhau i amddiffyn ein cleifion, babanod, staff ac ymwelwyr eraill. 

Ni chaniateir ymwelwyr mewn ardaloedd lle mae amheuaeth neu gadarnhad o achosion o COVID-19, ar wahân i amgylchiadau eithriadol. Rhaid gwisgo masgiau wyneb gyda mesurau PPE ychwanegol ar gyfer ymweld ag ardal goch COVID neu fel partner geni enwebedig i glaf sy’n bositif am COVID. Bydd staff yn arwain cleifion trwy'r broses hon.

Ni ddylai ymwelwyr fynychu os oes ganddynt hwy neu aelodau o'u haelwyd symptomau sy'n awgrymu COVID-19 neu heintiau eraill, er enghraifft y Ffliw, Norofeirws ac ati.

Esgor sefydledig, mynychu'r theatr a thoriad Cesaraidd brys

Gall hyd at ddau bartner geni fynychu gyda'u partner yn ystod y cyfnod esgor gweithredol. Dim ond un partner geni gaiff fynychu'r theatr ar gyfer triniaeth ddewisol neu doriad Cesaraidd brys.

  • Rhaid i ymwelwyr gydymffurfio bob amser â'r mesurau diogelwch canlynol sydd ar waith:
  • Cadw at gyfarwyddiadau a gwybodaeth ar gadw pellter oddi wrth eraill
  • Hylendid da o ran y dwylo a golchi dwylo, yn cynnwys defnyddio'r gel alcohol a ddarperir ar y ward/uned
  • Hylendid anadlol da – dull ‘Ei ddal, ei daflu, ei ddifa’
  • Cadw eitemau personol i leiafswm a'u cadw amdanoch bob amser
  • Ni chaniateir plant o dan 16 oed yn ardal y cleifion mewnol oni bai eu bod yn frodyr neu chwiorydd i'r babi newydd

Apwyntiadau

Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall fynychu'r apwyntiadau canlynol:

  • Clinigau Cyn-geni mewn lleoliad ysbyty 
  • Clinigau Cyn-geni Meddygon Ymgynghorol mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol eraill
  • Holl Apwyntiadau Sganiau Obstetreg (uwchsain) hefyd mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol eraill
  •  Uned Asesu Cleifion Allanol Mamolaeth ac Uned Asesu Esgor Cynnar

Genedigaeth Gartref

Diweddariad – mis Ebrill 2024

Rydym yn ailddechrau cynnig gwasanaeth genedigaethau yn y cartref. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i adfer y gwasanaeth ar ôl iddo gael ei atal dros dro oherwydd pwysau parhaus ar y system.

Os ydych yn disgwyl ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am roi genedigaeth yn y cartref, cysylltwch â'ch tîm bydwreigiaeth cymunedol. Byddant yn eich cefnogi, yn ateb eich cwestiynau, ac yn eich arwain trwy'ch dewisiadau geni i'ch helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi a'ch babi.

Cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau

Rydym yn annog teuluoedd a ffrindiau cleifion yn ein gofal i ystyried dulliau eraill o gadw mewn cysylltiad. Mae hyn yn cynnwys defnydd o WiFi ysbyty am ddim i ddefnyddio Facetime neu alwad fideo. Gallwn roi cymorth yn hyn o beth a gall cleifion mewnol fenthyca iPad o'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS) i'w ddefnyddio ar y ward.

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)

Maen nhw yma i'ch helpu chi ac fe wnânt eu gorau i ddatrys materion yn gyflym ac uniongyrchol gyda'r rheiny dan sylw. Os oes gennych ymholiad ynghylch cyfyngiadau ymweld neu bryder am ffrind neu berthynas sydd wedi dod i'r ysbyty, cysylltwch â PALS, 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i wyliau’r Banc).