Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth, apwyntiadau a rhestrau aros

Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y sawl sy'n aros am apwyntiadau a thriniaeth wedi'u trefnu yn cael eu gweld cyn gyflymed â phosibl yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

Rydym yn gofyn i gleifion beidio cysylltu â ni, gan y bydd y gwasanaeth yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol am eu hapwyntiad neu eu triniaeth.

Ymddiheurwn am yr arosiadau hirach y mae cleifion yn eu profi ond bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'n rhestrau aros ddychwelyd i lefelau cyn COVID ac yn anffodus, bydd llawer o gleifion yn parhau i wynebu arosiadau hir am driniaeth.

Lleihau ein rhestrau aros

Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, rydym yn gweithio gyda darparwyr preifat SHS Partners i leihau ein rhestrau aros.

Mae cleifion Llawfeddygaeth Gyffredinol, Wroleg, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, y Genau a'r Wyneb a Gynaecoleg yn cael cynnig apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth glinigol a hyd arhosiad.

Rydym yn cynnig mwy o weithredoedd llawfeddygol orthopedig ar draws Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod y cleifion sydd wedi bod yn aros hiraf a'r cleifion sydd â'r anghenion clinigol mwyaf brys yn cael eu trin cyn gyflymed â phosibl. Rydym yn deall pa mor ofidus y gall hyn fod i'r sawl sy'n aros am lawdriniaeth a byddwn yn defnyddio ein capasiti i'r eithaf trwy gynyddu defnydd o'n theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Abergele. Mae hyn yn ogystal â'r nifer cynyddol o weithredoedd yr ydym yn eu cynnig yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Llandudno.

Gwasanaethau

Gwybodaeth am Gwasanaethau Ysbyty ar draws Gogledd Cymru.

Cysylltu â ni

Os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS).