Neidio i'r prif gynnwy

Gwefanau a fideos defnyddiol

Archwiliwch wahanol wefanau sydd â gwybodaeth benodol ac arweiniad ar bynciau amrywiol perthnasol i iaith, lleferydd a chyfathrebu.

Gwybodaeth gyffredinol

ICAN – Talking Point
ICAN yw’r elusen cyfathrebu plant. Gallwch gael mynediad at daflenni ffeithiau iaith, lleferydd a chyfathrebu ar gyfer rhieni yma.

Words for Life
Words for Life yw gwefan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer rhieni.  Mae'n rhoi gwybodaeth ar gerrig milltir cyfathrebu a syniadau ar gyfer gweithgareddau hwyliog i gefnogi datblygiad cyfathrebu.

Small Talk
Gwefan gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol a'r Adran Addysg i gefnogi rhieni i sgwrsio, chwarae a darllen gyda'u plentyn gartref.

Llywodraeth Cymru - Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Gwefan a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnig gwybodaeth, awgrymiadau a gweithgareddau ymarferol i rieni.

Mr Tumble
Drwy ddefnyddio iaith arwyddo o'r enw Makaton, mae Justin a Mr Tumble yn helpu plant i ddysgu sut i gyfathrebu a datblygu sgiliau iaith mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

Playful Childhoods / Plentyndod Chwareus
Ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gefnogi datblygiad chwarae.

Tiny Happy People
Siop un-stop am wybodaeth a chyngor yn seiliedig ar dystiolaeth am gyfathrebu ar gyfer teuluoedd.

The Hanen Centre
Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Understood
Gwefan gyda chyngor ac adnoddau i gefnogi plant sy'n meddwl a dysgu'n wahanol.

Afasic Cymru
Sefydliad o dan arweiniad rhieni i helpu plant a phobl ifanc gyda nam ar eu hiaith a lleferydd a'u teuluoedd. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau.

Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU 
Gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys adnoddau defnyddiol i helpu gyda datblygiad ymennydd eich plentyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Meysydd penodol o ddiddordeb

British Stammering Association
Mae'r British Stammering Association (a adnabyddir fel Stamma ers 2019) yn rhoi gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i blant, oedolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.

The Michael Palin Centre for Stammering
Mae'r Michael Palin Centre yn ganolfan arbenigol sy'n darparu gwasanaethau therapi ac asesu i blant ac oedolion sydd ag atal dweud. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol.

National Autistic Society
Prif elusen y DU ar gyfer pobl awtistig a'u teuluoedd.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
Cefnogaeth leol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth.

Cleft Lip and Palate Association (CLAPA)
CLAPA yw'r unig sefydliad gwirfoddol ar draws y DU sy'n helpu'r sawl sydd â, neu a effeithir gan daflod neu wefus hollt yn benodol.

National Deaf Children’s Society
Ymrwymedig i ddarparu cymorth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc byddar.

Down’s Syndrome Association
Gwybodaeth, adnoddau a chymorth i blant a phobl ifanc sydd â Syndrom Down.

Makaton
Mae Makaton yn rhaglen iaith unigryw sy'n defnyddio symbolau, arwyddion a lleferydd i alluogi pobl i gyfathrebu.

RADLD
Codi ymwybyddiaeth o Anhwylder Iaith Datblygiadol(DLD). Yma, byddwch yn dod o hyd i adnoddau yn egluro beth yw DLD, yr effaith y gall ei gael, sut i helpu a sut i godi ymwybyddiaeth.

DLD and Me
Gwefan i blant a phobl ifanc i ddysgu am Anhwylder Iaith Datblygiadol (DLD) ac i rannu sut maent wedi dweud wrth bobl eraill. 

Selective Mutism Information and Research Association (SMIRA)
Gwefan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda mudandod dethol.

Dyspraxia Foundation
Gwybodaeth ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol ar sut mae cefnogi plant gyda dyspracsia.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Fideos

Awgrymiadau da ar gyfer Datblygiad Iaith a Lleferydd ym Mhlant o dan 5 mlwydd oed

Cefnogi'r Datblygiad o Synau Lleferydd

Synau Lleferydd Cynnar
Fideo yn egluro beth yw synau lleferydd cynnar, sut y cynhyrchir y rhain a gweithgareddau i'w gwneud i ymarfer synau lleferydd.

Cefnogi Synau Lleferydd Gartref
Fideo'n egluro strategaethau ar sut i gefnogi datblygiad synau lleferydd plant gartref.

Sgaffaldio
Mae Sgaffaldio yn ffordd o gefnogi datblygiad plant o ddefnyddio iaith syml i iaith fwy cymhleth. Dyma fideo gan yr Ymddiriedolaeth Cyfathrebu am sut i sgaffaldio iaith plant ar wahanol gamau datblygu.

Amgylcheddau Cyfeillgar i Gyfathrebu
Mae creu amgylcheddau cyfeillgar i gyfathrebu yn cefnogi sgiliau cyfathrebu plentyn. Gweler y fideos isod i gael mwy o awgrymiadau ar greu amgylcheddau cyfeillgar i gyfathrebu.

Amgylcheddau Cyfeillgar i Gyfathrebu
Cefnogaeth Weledol

Gina Davies Autism Centre
Mae'r sianel hon yn cynnwys cyflwyniadau, syniadau a gweithgareddau ar sut mae ymgorffori strategaethau o ddull ymyrraeth o'r enw Attention Autism. Esiamplau o fideos:

Cam 1 a 2 - Mae'r un yma'n 'Hwyl yn y Cartref!'
Sut i fod yn 'oedolyn cefnogol'

Centre for Autism
Fideos defnyddiol yn egluro sut i gefnogi sgiliau a gweithredu strategaethau megis systemau gwobrwyo, mynd i'r afael â newid, annog aros tro a llawer mwy.

Defnyddio AAC
Ychydig o awgrymiadau defnyddiol os yw'ch plentyn yn defnyddio dyfais gyfathrebu neu gyfathrebu atodol ac amgen

Pam fod pobl angen modelu ar ddyfais y plentyn
Esiampl o fodelu ar fwrdd craidd yn ystod gweithgaredd

Allaf i Ymuno â Chi?
Mae Allaf i Ymuno â Chi yn ddull ble caiff cyfathrebu cymdeithasol ei annog drwy chwarae. Mae'n argymell strategaethau chwarae i helpu oedolion ganfod ffyrdd o ymuno â chwarae, diddordebau a chwarae plentyn. Mae'r fideo hwn yn egluro datblygiad cyfathrebu a'r anawsterau mae ychydig o blant yn eu cael, a strategaethau ar sut i helpu.