Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Plant

Mae therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio gyda phlant, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol addysg ac iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnwys clinigau yn y gymuned, ysbytai, ysgolion prif ffrwd a rhai arbennig, meithrinfeydd a chartrefi teuluoedd.

Mae therapyddion Iaith a Lleferydd yn cynnig asesiadau, cyngor, therapi a hyfforddiant.  Rydym yn gweithio gyda phlant sydd ag amrywiaeth o anawsterau.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Anawsterau â deall beth sy'n cael ei ddweud
  • Anawsterau â geirfa ac wrth gyfuno geiriau i greu brawddegau.
  • Lleferydd aneglur
  • Atal dweud
  • Anawsterau wrth gyfathrebu a rhyngweithio ag eraill
  • Anawsterau bwyta, yfed a llyncu
  • Colled clyw
  • Gwefus a/neu daflod hollt
  • Problemau â'r llais
  • Pryder ynghylch lleferydd

Cyngor a gwybodaeth

Mae'r adran hon yn cynnwys taflenni gwybodaeth gyda chyngor a strategaethau i gefnogi datblygiad cyfathrebu eich plentyn gartref.

Adnoddau ychwanegol a chysylltiadau defnyddiol