Neidio i'r prif gynnwy

Fy Nhaith gyda Chanser y Gwddf: Nid wyf yn anorchfygol

Mae'r stori hon am daith claf sy'n cyfeirio at ei diagnosis a'i thriniaeth ar gyfer canser y gwddf yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2017.

"Yn 2017, ar ôl sawl wythnos o besychu, dolur gwddf a dau gwrs o wrthfiotigau, cefais fy nghyfeirio at yr ysbyty.   Daeth y cyfeiriad drwodd yn gyflym iawn, ac roeddwn yn bryderus i weld y Meddyg Ymgynghorol.  Roeddwn yn gobeithio nad oedd o'n ddim byd sinistr ac yn bwl o donsilitis yn unig.

"Pan ddaeth diwrnod yr apwyntiad gyda'r Meddyg Ymgynghorol nid oeddwn wedi paratoi ar gyfer y digwyddiadau a ddaeth: cwestiynau, atebion a thriniaeth endosgopi ar unwaith gan y Meddyg Ymgynghorol yn yr ystafell.   Ychydig o funudau wedyn roedd yn cyfeirio at fy 'nolur gwddf' fel 'CANSER'.   Roeddwn yn teimlo'n sâl fel ci, ac yn siŵr nad oeddwn wedi'i glywed yn iawn".

Pum wythnos yn ddiweddarach cafodd y claf ei derbyn i’r ysbyty a chael tracheotomi:  "Cefais diwb yn fy ngwddf.   Roeddwn i'n gorfod addasu.  Nid oeddwn yn gallu siarad; Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio bwrdd gwyn i ysgrifennu arno, i gyfathrebu â fy ffrindiau, teulu a’r meddygon.   Roeddwn i'n teimlo'n unig."

"Cwblhawyd fy nghynllun triniaeth; 6 wythnos o radiotherapi a 2 wythnos o gemo.   Ar 17 Tachwedd cefais fy sesiwn radiotherapi olaf.   Roedd popeth ar ben - cefais gyfle i ganu'r gloch ar y bumed wythnos.   Roedd yn teimlo'n dda ar y pwynt hwn, yn gwybod fy mod wedi'i gwblhau ac yn dod drwyddi'r ochr arall".

"Ymunodd Helen, Therapydd Iaith a Lleferydd, â fy mhecyn gofal.  Gofynnwyd i mi wneud ymarferion (wynebau gwirion, ymestyn y wyneb a chanu) i fy helpu gyda llyncu a bwyta.   Roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod y cwbl, ac roeddwn yn rhedeg cyn i mi allu cerdded.   Dechreuais fwyta cawl pan ofynnwyd i mi beidio.  Roeddwn yn pesychu ac yn poeri, gyda hylifau yn mynd i lawr y ffordd anghywir i mewn i fy ysgyfaint".

Yn dilyn cael tynnu'r trach dangosodd pelydr-x llyncu bod y claf wedi cael ychydig o greithiau ar ei gwddf oherwydd y radiotherapi.    Roedd angen iddi gael llawdriniaeth i ymestyn ei gwddf.  "Ar y pwynt hwn roeddwn yn ofnus iawn, nid oeddwn eisiau cael y trach eto".

“Yn ystod fy apwyntiad nesaf gyda Helen, roedd yn rhaid i mi fynd ag iogwrt a banana gyda mi.  Roedd yn rhaid i mi fwyta'r iogwrt, ac yna'r fanana - na!! Y tro diwethaf i mi fwyta banana, cymerodd hi 30 munud i mi fwyta darn bach ar lwy.   Felly anghofiais y fanana ar bwrpas, ond yn wyrthiol iawn llwyddodd Helen i greu un (mae'n hi'n fy adnabod mor dda).  Rhoddais gynnig ar ei fwyta wedi'i stwnshio i ddechrau.  Roedd yn iawn roeddwn yn gallu gwneud hynny, heb besychu.  Wedyn roedd yn rhaid i mi frathu darn o'r fanana, ei gnoi a'i lyncu.   Roeddwn yn mynd i banig ac yn chwysu ond roedd Helen yn parhau i roi sicrwydd i mi; "gallwn ddod drwy hyn, fedri di ei wneud".  Llwyddais i fwyta'r fanana, pob tamaid ohono.  Roeddwn yn teimlo fel petawn wedi ennill y loteri, roeddwn wedi'i wneud!!!"

"Ers hynny rwyf wedi cael mwy o apwyntiadau i weld aelodau eraill o'r tîm, ac mae popeth yn bositif.  Y prif bwyslais yn awr yw'r rhan bwyta o'r broses.   Mae pob diwrnod yn dod yn haws.  Rwy'n cael ambell i gam yn ôl weithiau, ond rwyf wedi dysgu i beidio â mynd i banig, i roi'r llwy i lawr, eistedd yno am ychydig o funudau, gorffwys a rhoi cynnig arni eto".

“Roeddwn eisiau rhannu fy stori a rhoi cyngor i unrhyw un sy'n cael triniaeth am ganser.   Gwrandewch ar yr arbenigwyr, dilynwch y cyfarwyddiadau.  Nid Superwoman/Superman ydych chi.  Bodau dynol ydym ni.   Roeddwn yn meddwl fy mod yn anorchfygol, ni wnes i wrando ac roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod fy hun.  Ond nid oeddwn yn teimlo'n fi fy hun; roeddwn yn mynd trwy rywbeth newydd.   Rwy'n cael yno'n araf deg.  Rwyf yn dal i gael dyddiau drwg, ond maent yn dechrau mynd yn fwy prin.   Rwy'n bositif am fy nghanlyniad.  Byddaf yn gallu dod drwy hyn.”

Mis Tachwedd 2019