Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwirfoddol

Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Cymhorthion Clyw ar gael i bob oedolyn sydd â chymhorthion clyw y GIG yng Ngogledd Cymru, ac fe'i cefnogir gan yr Adran Awdioleg ac mae'n cael ei gynnal gan wirfoddolwyr.

Mae'n ychwanegu gwerth at yr Adran Awdioleg drwy ddarparu cefnogaeth cyfoedion ar sut i ddefnyddio cymhorthion clyw, ymdopi ag anawsterau clyw a strategaethau cyfathrebu a chefnogaeth ymarferol i'r rhai nad ydynt yn gallu cynnal a chadw eu cymhorthion clyw eu hunain yn rheolaidd.

Mae'r gwasanaeth gwirfoddolwyr yn cynnwys:

  • Aildiwbio mowldiau clust
  • Mân wasanaethu cymhorthion clyw
  • Newid batris
  • Glanhau mowldiau clust
  • Cefnogaeth cyfoedion i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol a'u gofalwyr a theuluoedd i gynnal a chadw a defnyddio cymhorthion clyw
  • Cefnogaeth cyfoedion ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr a theuluoedd i ymdopi gydag anawsterau clyw a strategaethau cyfathrebu
  • Cyfeirio at wasanaethau eraill gan gynnwys y rhai sy'n mynd i'r afael ag arunigedd cymdeithasol ac anawsterau perthnasau

Roedd gennym tua 40 o wirfoddolwr gweithredol ar draws BIPBC, a oedd yn cynnwys 30 o wirfoddolwr Bwrdd Iechyd yn ardaloedd y Gorllewin a'r Dwyrain a 10 o wirfoddolwyr wedi'u cysylltu ag elusen leol (Hearing Aid VSS) yn ardal y canol.

Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain pan fydd hi'n anodd i ddod i glinigau awdioleg ar gyfer cynnal a chadw cymhorthion clyw rheolaidd. Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yn eu hardaloedd lleol, fel ffordd gyfleus o gael mynediad at gynnal a chadw syml o ran cymhorthion clyw mewn amgylchedd hamddenol i gynnig cymorth i gymheiriaid a rhannu gwybodaeth.