Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg

 

Gwefan dan datblygiad

 


Mae awdioleg yn cynnwys gwyddorau clyw a chydbwysedd mewn plant ac oedolion.

Colli Clyw

Daw colli clyw yn sgil signalau sain ddim yn cyrraedd yr ymennydd. Mae dau brif fath o golli clyw, yn ddibynnol beth yw'r broblem. Achosir colli clyw nerfol drwy niwed i'r celloedd gwallt sensitif sydd y tu mewn i'r glust fewnol neu niwed i'r nerf clywedol. Bydd hyn yn digwydd yn naturiol gydag oed neu yn sgil anaf. Bydd colli clyw dargludol yn digwydd pan fydd seiniau'n methu pasio o'ch clust allanol i'ch clust fewnol yn aml oherwydd rhwystr megis cwyr clust neu glust ludiog.

Tinitws

Tinitws yw'r term am glywed seiniau sy'n dod o du mewn eich corff yn hytrach na ffynhonnell allanol.   Disgrifir yn aml fel "clychau yn y clustiau", er gellir clywed sawl gwahanol fath o sŵn.

Cydbwysedd

Gall problemau gyda'r system gydbwysedd yn y clustiau arwain at bendro.  Mae pendro yn symptom yn hytrach na'r cyflwr ei hunan.  Mae'n teimlo fel pe tasech chi neu'r amgylchedd o'ch cwmpas yn symud neu'n troi.