Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflen Gydsynio Neges Destun Atgoffa am Apwyntiad Ysbyty

Oni bai eich bod wedi dweud wrthym yn wahanol, mae ein holl gleifion yn derbyn neges destun i’w hatgoffa o’u hapwyntiad cleifion allanol. Neges destun syml yw hon, sy’n cynnwys dyddiad ac amser apwyntiad yn unig.

Bydd cleifion sydd wedi cydsynio i dderbyn negeseuon testun yn derbyn neges fwy manwl a fydd yn cynnwys enw cyntaf y claf, dyddiad ac amser yr apwyntiad, yr arbenigedd (e.e. Anadlol) a lleoliad yr apwyntiad.  

Er mwyn derbyn yr wybodaeth apwyntiad ychwanegol, bydd angen i chi optio i mewn trwy gwblhau’r ffurflen gydsynio isod.

Cwblhewch y ffurflen gydsyniad os yw’ch manylion wedi newid a bod angen i chi eu diweddaru.

Os nad eich rhif personol chi yw’r ffôn symudol y byddwch chi’n ei roi e.e. rhif aelod o’r teulu neu ffrind, gwneud yn siŵr eu bod yn cael gwybod a’u bod yn rhoi eu caniatâd.  Gall derbyn neges i’w hatgoffa o apwyntiad ar gyfer apwyntiad nad ydyn nhw’n ymwybodol ohono arwain at ddryswch a galwadau diangen i’r ganolfan drefnu apwyntiadau.

Ffurflen Gydsynio Neges Destun Atgoffa am Apwyntiad Ysbyty.