Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd

Gall fferyllfeydd roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar drin anhwylderau a chyflyrau cyffredin a'u symptomau e.e. y llindag, y darwden, gan gynwys:

  • y llindag
  • y darwden
  • Mân friwiau
  • Poen bol
  • Poen ddeintyddol 
  • ail-bresgripsiwn
  • gwasanaethau atal cenhedlu hormonaidd brys

Nid oes angen apwyntiad bob amser ond efallai y bydd gofyn i chi aros neu i ddychwelyd wedyn os byddant yn brysur. Mae llawer o fferyllfeydd ar agor y tu allan i oriau arferol gan gynnwys gyda'r nos. 

Cyn mynd i weld eich meddyg teulu, byddem yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch fferyllydd, gall helpu i benderfynu p'un a ddylech weld meddyg a gall roi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau iechyd eraill.

A oeddech chi'n gwybod bod rhai fferyllfeydd yn cynnig gwasanaethau cyflenwi brys os byddwch yn rhedeg allan o'ch ail-bresgripsiwn ar ddamwain ac nad ydych yn gallu cael presgripsiwn yn eich meddygfa?  Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau atal cenhedlu hormonaidd brys, brechu rhag y ffliw a chymorth i roi'r gorau i ysmygu.

Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin

Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cynnig ymgynghoriad am ddim gyda fferyllydd GIG i gleifion, a meddyginiaeth am ddim ar gyfer rhai anhwylderau cyffredin.

Os oes gennych anhwylder cyffredin, ac yn ymweld â fferyllfa, gallwch ofyn i'r fferyllydd am gyngor a chymorth. Gall y fferyllydd roi meddyginiaeth i chi i drin yr anhwylder cyffredin. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, gan gynnwys rhestr o anhwylderau y mae’r gwasanaeth hwn yn ymdrin â nhw a manylion am sut i gofrestru.

Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddw

Mae dolur gwddw yn gyffredin iawn a does dim angen poeni amdano. Bydd yn gwella cyn pen 7 i 10 diwrnod fel rheol. Mae'r rhan fwyaf o ddolur gwddw'n cael eu hachosi gan fân salwch fel annwyd neu ffliw ac mae modd trin y dolur gwddw gartref. 

Mae ein gwasanaeth profi a thrin dolur gwddw ar gael mewn rhai fferyllfeydd ar draws Gogledd Cymru. Yn gyntaf byddech chi'n cael trafodaeth â fferyllydd, a fydd yn gofyn cwestiynau ac yn gwneud prawf swab i weld a oes gennych chi ddolur gwddw firaol neu facterol. 

Ni fydd gwrthfiotigau'n trin haint firaol ond bydd y fferyllydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth. Os bydd y prawf yn datgelu bod gennych chi haint bacterol, gall y fferyllydd wedyn roi gwrthfiotigau i chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy fynd i dudalen y Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf.

Casglu eich meddyginiaeth bob deufis

Os ydych yn derbyn eich presgripsiwn bob 28 diwrnod fel arfer, gallai hyn gael ei ymestyn i 56 diwrnod yn ystod eich adolygiad nesaf. Gallai hyn olygu casglu eich meddyginiaeth bob deufis.

Bydd hyn yn lleihau nifer y teithiau y mae angen i chi eu gwneud i fferyllfa gymunedol/ meddygfa.

Efallai na fydd rhai cleifion yn addas i newid oherwydd:

  • Y mathau o feddyginiaeth sydd ei angen arnoch (er enghraifft cyffuriau lleddfu poen cryf, meddyginiaeth newydd neu feddyginiaeth y mae angen ei monitro'n agos)
  • Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch ar gyfer eich meddyginiaeth (er enghraifft, os yw eich meddyginiaeth yn cael ei rhoi mewn teclyn cymorth cydymffurfio neu os yw gofalwr yn rhoi eich meddyginiaeth i chi)

Helpwch ni i’ch helpu chi trwy archebu eich presgripsiynau saith diwrnod ymlaen llaw er mwyn caniatáu amser i’ch meddyg teulu a’ch fferyllfa gymunedol ddelio â’r cais.

Gofynnwn i chi barhau i archebu’r hyn sydd arnoch ei angen yn unig gan ddychwelyd unrhyw feddyginiaeth heb ei defnyddio neu nad oes ei hangen at fferyllfeydd cymunedol fel bod modd cael gwared arnynt yn ddiogel. Archebwch eich meddyginiaeth ar-lein neu drwy ap lle bynnag y bo modd.