Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all fy nghyfeirio at Therapi Iaith a Lleferydd?

Cyfeirio ar gyfer asesiad cyfathrebu

Gall unigolyn sydd ag anawsterau cyfathrebu gyfeirio eu hunain yn uniongyrchol at therapi iaith a lleferydd. Fel arall, gallwch ofyn i'ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd arall i'ch cyfeirio. Bydd gofyn iddo gadarnhau bod ganddo eich cydsyniad i wneud hyn pan fydd y cyfeiriad yn cael ei dderbyn gan y gwasanaeth.

Cyfeiriad ar gyfer asesiad llyncu

Os ydych yn sylwi bod gennych broblemau llyncu newydd, dylech siarad gyda'ch Meddyg Teulu, meddyg ymgynghorol neu nyrs arbenigol os oes gennych gyswllt rheolaidd ag un. Gall eich cyfeirio at y gwasanaeth therapi iaith a lleferydd os oes angen asesiad pellach o'ch llwnc, neu efallai bydd yn awgrymu cyfeiriadau gwahanol a all helpu, yn ddibynnol ar natur eich anawsterau

Os yw claf yn byw mewn cartref nyrsio, efallai y bydd gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn gallu cyfeirio'r unigolyn drwy'r Llwybr Ymyrraeth Gofal Llwnc (SCIP).

Os ydych wedi cael eich trin gan therapydd iaith a lleferydd o'r blaen oherwydd eich anawsterau llyncu, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol am gyngor, nid oes angen cyfeiriad newydd bob tro.

Cyfeirio ar gyfer asesiad llais

Os oes gennych broblem gyda'ch llais (e.e. mae'n grug, colli llais), dylech gael eich trin gan yr adran clust, trwyn a gwddf (ENT) yn gyntaf, i wirio eich blwch llais (laryncs). Yna, bydd y tîm ENT yn eich cyfeirio at y gwasanaeth therapi iaith a lleferydd os bydd ein triniaeth o gymorth i chi.

Mae pobl â phroblemau llais yn aml yn cael eu trin mewn ‘clinigau llais ar y cyd’ ledled y rhanbarth, ble mae arbenigwr ENT yn gweithio ochr yn ochr â therapydd iaith a lleferydd i asesu a chynnig y cyngor cywir i bob unigolyn.

Gwasanaethau Arbenigol Eraill

Cleientiaid Hunaniaeth Rhyw 
Cyfeirir cleientiaid hunaniaeth rhyw sy'n dymuno cael therapi addasu llais i'r gwasanaeth therapi iaith a lleferydd drwy nifer o lwybrau. Yn gyffredinol, bydd y cleient yn cael ei gyfeirio naill ai:

  • Yn uniongyrchol o'r gwasanaeth rhyw (naill ai o Wasanaeth Rhyw Cymru yng Nghaerdydd neu'r Portman and Tavistock Gender Clinic yn Llundain) neu;
  • Gan Feddyg Teulu arbenigol neu;
  • Seicolegydd /seicotherapydd/therapydd seicorywiol lleol

Derbynnir cyfeiriadau gan eu Meddyg Teulu hefyd o bosib, neu weithiwr proffesiynol iechyd arall, megis ei endocrinolegydd.

Oedolion ag anabledd dysgu
Mae therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio gyda phob tîm anabledd dysgu cymuned ar draws Gogledd Cymru. Yn gyffredinol, efallai y caiff pobl eu cyfeirio drwy'r Meddyg Teulu neu weithwyr proffesiynol iechyd eraill o fewn y tîm anabledd dysgu, megis nyrsys, therapyddion galwedigaethol, neu ffisiotherapyddion.

Gwasanaeth Anaf i'r Ymennydd Gogledd Cymru
Darperir therapi iaith a lleferydd arbenigol fel rhan o'r tîm, wedi'i seilio ym Mae Colwyn. Efallai y caiff pobl gydag anaf i'r ymennydd eu cyfeirio at y gwasanaeth drwy eu Meddyg Teulu neu feddyg ymgynghorol yr ysbyty.

Gellir cysylltu â'r tîm ar wahân:

Gwasanaeth Anaf i'r Ymennydd Gogledd Cymru
Ffordd Hesketh
Bae Colwyn
LL29 8AY
03000 855 506