Neidio i'r prif gynnwy

Anhawsterau llyncu

Weithiau mae pobl yn sylwi ar newid yn eu gallu i lyncu bwydydd neu hylifau penodol.  Efallai y bydd yn teimlo fel bod bwyd neu ddiod yn 'mynd i lawr y ffordd anghywir'.  Gall arwyddion o anawsterau llyncu gynnwys: peswch wrth fwyta neu yfed, tagu, llais yn cecian ar ôl llyncu, neu’r teimlad o fwyd neu ddiod yn glynu yn y gwddf.  Allsugno y gelwir pan fydd bwyd neu hylifau'n mynd i'r llwybr anadlu a'r ysgyfaint, yn hytrach na'r ystumog. Gall allsugno arwain at broblemau difrifol, megis colli pwysau, heintiau ar y fron cyson a derbyniadau i'r ysbyty.

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio fel rhan o dîm yn cefnogi pobl sydd ag anawsterau yfed, bwyta a llyncu.

Bydd y therapydd iaith a lleferydd yn edrych yn benodol ar y camau 'drwy'r geg' a'r 'gwddf' o ran bwyta ac yfed - sy'n cynnwys eich ceg a'ch gwddf. Mae hyn fel arfer yn cynnwys edrych ar gyhyrau eich ceg a'ch gwddf a'ch arsylwi yn bwyta ac yfed. Efallai y bydd yn gofyn i chi  wneud ymarferion penodol yn ystod yr asesiad i wella'r ddealltwriaeth o sut mae'r cyhyrau a ddefnyddir i lyncu'n gweithio gyda'i gilydd.

Ar ôl yr asesiad cychwynnol, efallai bydd y therapydd yn eich cyfeirio at asesiad pellach, megis am sgan pelydr-x ohonoch yn llyncu (fideofflwrosgopi) neu archwiliad endosgopig. I helpu gyda'ch anawsterau llyncu, efallai y bydd yn argymell:

  • Ymarferion llyncu i wella swyddogaeth a diogelwch eich llwnc
  • Addasu eich osgo wrth fwyta ac yfed
  • Addasu eich cyflymdra wrth fwyta ac yfed
  • Newid gwead neu drwch bwyd a diod.

Efallai y bydd yn eich cynghori y bydd gweithwyr proffesiynol iechyd eraill yn ymwneud â'ch gofal hefyd, megis dietetegwyr, nyrsys neu ffisiotherapyddion.

 Mae'r tabl isod yn rhoi ychydig o wybodaeth am sut y gallai pobl eraill ar y tîm eich cefnogi. Nid oes angen i chi weld therapydd iaith a lleferydd cyn gofyn am gymorth gan y gweithwyr proffesiynol hyn os ydych yn cael anhawster. Siaradwch gyda'ch Meddyg Teulu os nad ydych yn siŵr sut i gael eich cyfeirio at unrhyw un o'r gwasanaethau hyn.

Gweithiwr Proffesiynol

Maes yr Angen

Meddyg Teulu

  • Presgripsiwn adnodd  tewhau clir
  • Adolygiad/addasiad meddyginiaeth
  • Penderfyniadau bwydo diwedd bywyd/risgiau penderfyniadau bwydo
  • Meddyginiaeth ar gyfer glafoerio

Fferyllydd

  • Meddyginiaethau wedi'u addasu

Dietetegydd

  • Cyfnerthu bwyd
  • Ychwanegiadau

Arbenigydd Gofal Drwy'r Geg

  • Hyfforddiant ac asesiad ar gyfer cyflwr drwy'r geg

Deintydd

  • Dannedd gosod a phroblemau gyda deintiad

Ffisiotherapydd

  • Symudedd a gosodiad diogel 

Therapi Galwedigaethol

  • Darpariaeth a chefnogaeth gydag eistedd yn diogel ac offer eraill ar gyfer byw yn annibynnol  

Nestle

  • Darparwr adnodd  tewhau clir. Mae eu cynrychiolwyr yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau staff i gefnogi defnyddio tewychydd yn ddiogel ac yn effeithiol mewn cartrefi gofal


IDDSI (Menter Safoni Diet Dysffagia Ryngwladol):
Yn 2019, cyflwynwyd fframwaith rhyngwladol newydd i greu cysondeb yn y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio bwyd a diod. Mae hyn yn helpu i wella'r diogelwch wrth ofalu am bobl sydd ag anawsterau llyncu.  Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan IDDSI.

Caiff y dietau eu hargymell yn aml i bobl sydd ag anawsterau llyncu.  Maent yn dilyn disgrifiadau IDDSI, ac maent wedi eu cymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd.

Level 4 puree diet booklet, PDF
Level 5 minced and moist diet booklet, PDF
Level 6 soft and bite-sized diet booklet, PDF