Neidio i'r prif gynnwy

Radioleg

Mae gwasanaethau arferol yn ailddechrau o fewn radioleg er y gall amseroedd aros fod yn hirach nag arfer oherwydd y galw ar y gwasanaeth. Mae gwasanaethau'n cael eu rhedeg o bob un o'r tri safle gydag amrywiaeth o sganio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn cael eu cynnig.

Mae gan Radioleg hefyd sganwyr MRI a CT symudol ychwanegol ar safle Ysbyty Glan Clwyd. Mae cleifion o bob rhan o PBC yn cael apwyntiadau gyda'r sganwyr hyn er mwyn i ni allu sicrhau amseroedd aros cyson ar draws PBC.

Mae radioleg, a elwir hefyd yn ddelweddu diagnostig, yn gyfres o brofion gwahanol sy'n tynnu lluniau neu ddelweddau o wahanol rannau'r corff.

Mae rhai prosesau delweddu meddygol yn defnyddio ymbelydredd. Bydd y dudalen hon yn sôn am fanteision gwahanol fathau o ddelweddu meddygol yn ogystal â'r risgiau o ymbelydredd. Mae manteision sylweddol o gael diagnosis a thriniaeth gywir. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr archwiliad cywir, bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi am eich hanes meddygol, yn egluro'r opsiynau sydd ar gael, ac yn trafod beth sy'n bwysig i chi.

Os bydd angen delweddu meddygol, byddant yn anfon cais at arbenigwr delweddu.  Bydd yr arbenigwr yn gwirio'r cais ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr archwiliad delweddu sydd fwyaf addas i chi. Nid oes angen archwiliadau delweddu bob amser, ac mewn rhai achosion, byddwch yn cael triniaeth yn syth.

Mae'r dudalen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am y gwahanol fathau o archwiliadau delweddu, eu manteision a'r risgiau. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn sicrhau bod y manteision i chi'n bersonol, o gael unrhyw archwiliad, yn fwy na'r risgiau ymbelydredd.

Mae'r Adran Radioleg yn gyfrifol am y gwasanaethau canlynol:

Risgiau

Mae rhywfaint o risg yn gysylltiedig â phopeth rydym ni'n ei wneud yn ein bywyd bob dydd. Rydym yn tueddu i ystyried gweithgareddau fel rhai ‘diogel’ pan fo’r risg y bydd rhywbeth annymunol yn digwydd yn disgyn yn is na lefel benodol. Byddwn yn gweld gweithgaredd â risg isel yn fwy 'diogel'. Mae pobl yn barnu risg ar sail pa mor debygol mae rhywbeth o ddigwydd a sut y byddwn ni'n teimlo pe bai'n digwydd. Mae hyn yn golygu bod gan bawb farn wahanol am yr un risg.

Mae risgiau a manteision yn gysylltiedig â phob math o archwiliad delweddu meddygol. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol chi yn eich helpu i ddeall sut y bydd y rhain yn effeithio arnoch chi.

Effeithiau ymbelydredd

Rydym yn gwybod ar ôl astudio pobl sydd wedi dod i gysylltiad â dosau uchel o ymbelydredd, bod hyn yn gallu cynyddu eu siawns o ddatblygu canser yn y dyfodol.  Ond, mae'r symiau o ymbelydredd a ddefnyddir mewn delweddu meddygol yn fach iawn ac mae'r risgiau'n isel. Cedwir unrhyw gyswllt ag ymbelydredd o ddelweddu meddygol mor isel â phosibl er mwyn lleihau'r risgiau.

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn pwyso a mesur y risgiau a'r manteision bob tro y byddwch chi’n cael cynnig archwiliad.

Risgiau naturiol

Rydym ni'n gwybod bod nifer o bobl yn cael canser. Mae'n debygol y bydd 1 mewn 2 (50%) ohonom yn cael canser yn ystod ein bywyd. Mae pob math o bethau yn effeithio ar y tebygolrwydd y byddwn ni'n cael canser, fel ein genynnau, dod i gysylltiad â mwg, ein deiet, ein pwysau, a faint o alcohol rydym ni'n ei yfed. Rydym wedi ceisio amcangyfrif faint y bydd yr ymbelydredd o bob archwiliad yn cynyddu eich siawns o ddatblygu canser. Mae hyd yn oed yr archwiliadau â'r ddos uchaf ond yn cynyddu'r risg hon o tua 50% i 51%, cynnydd bach iawn o ystyried manteision cael yr archwiliad. Mae’r archwiliadau mwyaf cyffredin yn cynyddu'r risg gan lawer iawn llai nag 1%.