Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni Gwefannau

Awtistiaeth Cymru
Mae'n darparu gwybodaeth ac adnoddau gan gynnwys: adnoddau 'allwch chi fy ngweld i', gwybodaeth am ddiagnosis, cardiau lluniau a mwy. 

Newyddion BBC
'How I hid my autism' – erthygl am ferch ifanc a gafodd ddiagnosis awtistiaeth. Yn darparu profiad o'i bywyd personol ar ymdopi yn yr ysgol a sut mae'n cuddio ei hanawsterau.

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Cymorth a chyngor ar-lein yn ymwneud ag awtistiaeth. Mae'n esbonio rhai o'r enwau gwahanol am awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig, ac mae'n darparu gwybodaeth am rywedd, trafodaethau am achosion a'r ymchwil ddiweddaraf.

Addup
Mae Addup yn cefnogi, meithrin ac yn addysgu teuluoedd sy'n byw gydag unigolion sydd ag ADHD a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw. Maent yn gwneud hyn trwy gydnabod a dathlu'r hyn sy'n gwneud pob un yn unigryw gydag angerdd, ymrwymiad a gwên - gan sicrhau bod y teulu wrth wraidd popeth.

Addiss
Mae Addiss yn darparu gwybodaeth ac adnoddau sy'n hwylus i bobl am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth - rhieni, pobl ifanc, athrawon neu weithwyr iechyd proffesiynol. Beth bynnag rydych yn chwilio amdano o ran ADHD, byddant yn gwneud eu gorau i helpu.

ADHD Foundation
Yn darparu rhagor o wybodaeth ar eich cyfer am ADHD. Ffeithlenni a chymorth i chi/eich plentyn sydd wedi cael diagnosis ADHD yn ddiweddar.

Young Minds
Mae Young Minds yn arwain y frwydr am ddyfodol lle caiff yr holl feddyliau ifanc eu cefnogi a'u grymuso, waeth beth fo'r heriau. Maent yma i sicrhau eich bod yn cael y cymorth iechyd meddwl gorau posibl ac mae ganddynt y gwytnwch i oresgyn anawsterau bywyd.

The Mix
The Mix yw gwasanaeth cymorth mwyaf blaenllaw'r DU i bobl ifanc. Maent yma i'ch helpu i fynd i'r afael ag unrhyw her rydych yn ei hwynebu - o iechyd meddwl i arian, i ddigartrefedd i ddod o hyd i swyddi, o berthynas yn chwalu i gyffuriau. 

Cerebra
Mae Cerebra yn rhoi cyngor a chymorth ar gysgu'n dda, straen a lles emosiynol, rheoli ymddygiad a llawer mwy. 

ERIC
Mae ERIC yn rhoi cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n effeithio ar y coluddyn neu'r bledren.

Kooth
Mae XenZone yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae Kooth, gan XenZone, yn llwyfan cwnsela a lles emosiynol ar-lein i blant a phobl ifanc, sydd ar gael ar ffôn symudol, tabled a bwrdd gwaith ac mae am ddim ar adeg ei ddefnyddio.

ChildLine
Mae ChildLine yn darparu gwasanaeth cwnsela cyfrinachol dros y ffôn ar gyfer unrhyw blentyn sydd â phroblem. Mae'n cysuro, yn cynghori ac yn amddiffyn.

Fear Free Service
Os ydych wedi profi camdriniaeth yn y cartref, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn merched, neu'ch bod yn poeni am ffrind neu berthynas sy'n profi unrhyw ffurf ar drais neu gamdriniaeth, gallwch ffonio Fear Free Service. 

National Organisation for Foetal Alcohol Syndrome
Mae NOFAS-UK yn ymroi i roi cymorth i bobl sydd wedi'u heffeithio gan Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffoetws (FASD), eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae'n hyrwyddo addysg i weithwyr proffesiynol ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau cymryd alcohol yn ystod beichiogrwydd. 

Tourette’s Action
Mae Tourettes Action yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a hon yw'r elusen fwyaf blaenllaw am gymorth ac ymchwil i bobl sydd â Syndrom Tourette a'u teuluoedd. Maent yn awyddus i bobl sydd â Syndrom Tourette gael y cymorth ymarferol a'r derbyniad cymdeithasol sydd eu hangen arnynt i'w helpu i fyw eu bywydau i'r eithaf.

SNAP Cymru
Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau, neu a allai fod â nhw.

Straeon Cymdeithasol Carol Gray
Disgrifiad ac arweiniad ar straeon cymdeithasol a sut i'w hysgrifennu

Twinkl
Adnoddau am ddim. 

Graddfa 5 Pwynt
Graddfa 5 pwynt anhygoel yn helpu myfyrwyr gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth i ddeall rhyngweithiadau cymdeithasol a rheoli eu hymatebion emosiynol.

Ap Breathe2Relax
Offeryn rheoli straen, sy'n darparu gwybodaeth am effeithiau straen ar y corff a chyfarwyddiadau i ymarfer anadlu o'r diaffram i ostwng ymateb 'ymladd neu ffoi' (straen) y corff. Gallai fod o gymorth i reoli symptomau straen, anhwylderau gorbryder a PTSD.

Insight Timer
Mae yno dros 2000 o sesiynau myfyrio tywysedig. Gallwch addasu sesiwn fyfyrio, fel sŵn cefndir a hyd amser, i fod yn addas i'r hyn rydych yn ei hoffi. Mae ganddo elfen gymdeithasol hefyd lle gallwch gysylltu â'r sawl sy'n myfyrio ym mhedwar ban byd.