Neidio i'r prif gynnwy

Bywyd ar y ward

Ar ôl cyrraedd byddwch yn cael eich cyflwyno i'ch tîm ymroddedig eich hun o staff. Byddant yn cwrdd â chi yn bersonol ac yn eich helpu i ymgartrefu ar eich diwrnod cyntaf. Drwy gydol eich arhosiad byddant yn eich cefnogi yn eich cynnydd, yn trefnu ac yn mynychu cyfarfodydd gyda chi ac yn cadw mewn cysylltiad â’ch rhiant, gofalwyr a/neu berthnasau a’r tîm cymunedol yn ôl yr angen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl am eich arhosiad, triniaeth neu unrhyw bryderon byddant yno i wrando. Gallwch hefyd ddewis cael sgwrs neu sesiwn gydag unrhyw aelod o staff yn yr uned.

Ymweld

Mae’n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’ch teulu a/neu ofalwyr a ffrindiau. Mae croeso i deulu a ffrindiau ymweld â chi y tu allan i oriau addysg hyd at 7:45pm. Faint o ymweliadau, am ba mor hir ac amser i ffwrdd o'r ward gyda theulu a/neu ofalwyr fydd yn cael eu trafod.

Pwy yw pwy