Neidio i'r prif gynnwy

Cael eich Meddyginiaethau

Eich Presgripsiwn Amlroddadwy

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth reolaidd byddwch yn gallu archebu presgripsiwn arall pan fydd yn amser i chi gael mwy.

Bydd gan bob Meddygfa ei threfniadau ei hun o ran y ffordd rydych yn archebu eich presgripsiwn amlroddadwy ond dylech ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod gwaith i’ch meddygfa brosesu eich presgripsiwn. Efallai y bydd gan y Fferyllfa Gymunedol rydych yn dewis ei defnyddio wasanaeth casglu presgripsiynau fel y gallwch gasglu eich meddyginiaeth yn syth o’r Fferyllfa ar ôl i chi archebu eich presgripsiwn amlroddadwy o’r Feddygfa.  

Cyn i chi archebu eich presgripsiwn mae’n werth i chi edrych pa feddyginiaethau sydd gennych yn eich cartref fel eich bod ond yn archebu’r hyn sydd arnoch ei angen.

Peidiwch â chadw stoc o’ch meddyginiaethau oherwydd gallent fynd yn rhy hen i’w defnyddio. Y feddyginiaeth ddrytaf yw’r un nad yw’n cael ei chymryd. Am wybodaeth bellach gweler y daflen Peidiwch â Gwastraffu eich Meddyginiaethau.

Presgripsiynau Meddyg Teulu neu Ofal Cychwynnol

Fel arfer caiff y presgripsiynau hyn eu cyfnewid mewn Fferyllfa Gymunedol. Mewn ardaloedd gwledig lle mae’r claf yn byw dros 1.6 cilomedr o Fferyllfa Gymunedol, ac wedi’i gofrestru mewn Meddygfa sy’n cynnwys Fferyllfa, gall y claf gael ei feddyginiaethau gan ei Feddyg Teulu.

Presgripsiynau Ysbyty

Os byddwch yn gweld meddyg mewn adran cleifion allanol yn yr ysbyty bydd yn dweud wrthych pryd mae angen i chi gychwyn triniaeth newydd.  

 Efallai y rhoddir llythyr neu nodyn gwybodaeth i chi ei roi i’ch Meddyg Teulu’r tro nesaf y bydd gennych apwyntiad. Os dylai’r driniaeth gychwyn cyn hynny yna efallai y cewch bresgripsiwn ysbyty. Bydd yn rhaid i chi gyfnewid hwn yn adran fferylliaeth yr ysbyty.

Dim ond yn fferyllfa’r ysbyty y cewch gyfnewid ffurflenni ysbyty; ar adegau mae’n bosib y rhoddir ffurflen WP10HP ‘werdd’ i chi sef presgripsiwn gan feddyg yn yr ysbyty i’w gyfnewid mewn Fferyllfa Gymunedol. Cewch wybod hyn pan roddir y presgripsiwn i chi.

Ni all adran fferylliaeth yr ysbyty gyfnewid presgripsiynau a roddir gan eich Meddygfa.

Cynhyrchion Stoma

Os ydych yn defnyddio cynhyrchion stoma mae gennych ddewis o dderbyn eich cyflenwadau o Fferyllfa Gymunedol neu gan gontractwr offer. Bydd angen i chi archebu eich presgripsiwn o’ch Meddygfa o hyd, pa bynnag gyflenwr y byddwch yn ei ddewis. Dylech gael cyngor diduedd pan fyddwch yn cychwyn defnyddio cynnyrch.   

Y Tu Allan i Oriau

Am gyngor ar y lle mwyaf priodol i gael triniaeth, yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich cyflwr/symptomau, cliciwch yma.