Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu o'ch adborth

Dywedoch Chi, Gwnaethon Ni 

Dyma rai enghreifftiau o sut mae eich adborth wedi cael effaith bositif ar y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu.

Rhannodd cleifion eu pryderon am unigolion yn ffilmio heb ganiatâd yn yr ysbyty. 
I helpu i atal y risg o ffilmio heb awdurdod, cysylltodd y tîm yn Ysbyty Maelor Wrecsam â staff y ward i godi ymwybyddiaeth drwy ddatblygu poster "Dim Ffilmio" i atal ffilmio heb awdurdod.  Mae'r poster hwn wedi cael ei ddosbarthu ledled yr ysbyty a gall staff gyfeirio ato pan fyddant yn gofyn i gleifion ac ymwelwyr i beidio â ffilmio.

Dywedodd cleifion na chawsant wybodaeth am y ward pan roeddent yn derbyn gofal. 
Gweithiodd y tîm yn Ysbyty Gwynedd yn agos â nifer o wardiau i greu taflen wybodaeth safonol i gleifion am y ward.  Roedd y daflen hon yn cynnwys atebion i'r cwestiynau cyffredin a phrif fanylion cyswllt i gleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty.

Pump Uchel, Pump Isel
Gan weithio â ward y plant, bu i'r tîm yn ysbyty Glan Clwyd greu ffurflen Pump Uchel, Pump Isel i gasglu adborth am brofiad cleifion gan blant am y gofal a gafwyd mewn ffordd arloesol a hawdd ei ddefnyddio.   Gall plant rannu eu meddyliau am eu gofal gan ddefnyddio Pump Uchel i ddweud wrth y ward beth oedd yn dda a Phump Isel ar gyfer gwelliannau.  Mae hwn wedi cael ei dderbyn yn dda gan gleifion, rhieni a staff.

Prif gyflawniadau  

Cynhadledd Mae'n Gwneud Synnwyr, 28 Tachwedd 2019
Bu i ni gynnal digwyddiad blynyddol gyda chefnogaeth amhrisiadwy gan y Ganolfan Arwyddo, Golwg, Sain a'r Gymdeithas Iechyd Meddwl a Byddardod Prydeinig.

Roedd y digwyddiad hwn yn bumed cyfle i gynnal y gynhadledd Colli Synhwyrau Cymru Gyfan sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r ymgyrch flynyddol Mae'n Gwneud Synnwyr sy'n tynnu sylw at ddarparu gofal, gwasanaethau a chefnogaeth i'r gymuned sy'n colli eu synhwyrau yng Nghymru.

Bu i ni drefnu cyflwyniadau a gweithdai i'r gymuned colli synhwyrau ar draws Cymru, yn cynnwys ymchwil mewn dallineb a byddardod, profiadau personol defnyddwyr gwasanaeth, gwasanaethau cefnogi, elusennau a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Datblygu ein sgiliau a'n dealltwriaeth i roi budd i brofiadau ein cleifion
Rydym yn parhau i ymrwymo i ddatblygu ein sgiliau personol i fodloni anghenion pob un o'n cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth.  Mae aelodau o'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion wedi mynychu'r hyfforddiant canlynol; Iaith Arwyddo Brydeinig gyda'r Ganolfan Arwyddo, Golwg, Sain (COSS), Ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia ac Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth gyda ASD infoWales.

Teimlo'n Dda ar Ddydd Gwener

Bob wythnos mae'r timau Profiad Cleifion ar draws Gogledd Cymru yn adolygu eu sylwadau a’u hadborth gan gleifion ac yn dewis un fel sylw dydd Gwener sy'n gwneud i chi deimlo'n dda yr wythnos i ddathlu a chanmol gwaith arbennig ein staff a thimau ysbyty.

Dilynwch Twitter y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion lle byddant yn rhannu eu sylwadau dydd Gwener sy'n gwneud i chi deimlo'n dda.  

"Yn ystod y 5 mis diwethaf rwyf wedi bod yn glaf ddwywaith yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Abergele.   Am 3 diwrnod roeddwn yn yr Adran Achosion Brys ac yn fwy diweddar roeddwn yn yr Adran Orthopaedig lle cefais glun newydd.  Ar y ddau achlysur rwyf wedi cael y gofal, cynhesrwydd a’r proffesiynoldeb gorau posibl gan bob aelod o'ch staff.   Rwy'n tybio faint mwy o ofal y buaswn wedi'i gael petawn yn aelod o'r Teulu Brenhinol.  Rwy'n gobeithio nad wyf yn swnio fel petawn yn mynd dros ben llestri yn yr hyn rwyf wedi'i ysgrifennu ond ar adeg pan mae'n hawdd barnu'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol roeddwn yn teimlo fy mod eisiau rhannu fy mhrofiadau."

Wedi'i roi i'r Adran Achosion Brys a'r Adran Orthopaedig yn Ysbyty Glan Clwyd (mis Chwefror 2020)